1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Hydref 2019.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54502
Diolch i'r Aelod. Ar ddiwedd y flwyddyn 2018-19, roedd amseroedd aros 36 wythnos yn y Bwrdd Iechyd wedi gostwng gan 22 y cant yn ystod y flwyddyn, a hwn oedd y ffigur isaf ers mis Ebrill 2014. Mae'r Gweinidog iechyd wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i fyrddau iechyd i barhau â'r cynnydd a wnaed yn ddiweddar ac i wella amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2020. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei gyfran o'r arian hwnnw, wrth gwrs.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n ddefnyddiol iawn deall ein bod wedi gweld gostyngiad—ac rydym ni wedi gweld gostyngiad, yn enwedig o ran cyflyrau sy'n peryglu bywyd. Rwyf i'n cofio adeg pan oedd yr amser aros am lawdriniaeth ar y galon dros 12 mis, a chanser hefyd yn amser hir, ond maen nhw wedi dod i lawr yn sylweddol. Ond wrth i ni weld y gostyngiad mewn amseroedd aros ar gyfer cyflyrau sy'n peryglu bywyd, rydym ni wedi gweld cynnydd yn yr amseroedd aros am gyflyrau eraill sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Rhoddaf ddwy enghraifft i chi. Ysgrifennais at etholwr yn ôl ym mis Chwefror yn holi am sefyllfa'r goden fustl a dywedwyd wrthyf fod rhestr aros o 143 wythnos ar gyfer y cyflwr hwnnw. Ysgrifennais yn ôl eto yr haf gan ddweud, 'Mae'n ddrwg gennyf, rydym ni'n dal i fod heb weld unrhyw gynnydd', ac roedd yr amser aros wedi cynyddu gan 26 wythnos i 169 wythnos. Felly, mewn 26 wythnos o aros, roedd wedi cynyddu gan 26 wythnos. Felly, i bob pwrpas, nid oedd y claf hwnnw wedi symud i unman ar y rhestr aros honno oherwydd y newidiadau. Ac rydym ni'n gweld pethau gyda llawdriniaeth ar y pen-glin. Ac wrth i'r bobl hyn aros am y cyflyrau hyn, efallai nad ydyn nhw'n peryglu bywyd, ond maen nhw'n newid bywyd ac maen nhw'n cael effeithiau cronig ar bobl. Mae'n bosibl y bydd rhywun sy'n aros gyda'i ben-glin yn gorfod aros dwy flynedd ar gyfer pen-glin gwael, ond wrth aros am y pen-glin gwael hwnnw, mae'r pen-glin arall yn mynd o ganlyniad i'r pwysau a roddir arno. Felly, rydym ni'n cynyddu'r heriau i'r bobl hyn ac yn gwaethygu ansawdd eu bywydau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nid yn unig bod y cyflyrau sy'n peryglu bywyd yn cael eu lleihau, ond bod yr amseroedd aros ar gyfer cyflyrau eraill hefyd yn cael eu lleihau?
Wel, mae'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn dangos y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru 10 mlynedd i mewn i gyni, gyda'r ansicrwydd y mae Brexit yn ei roi ar staff hanfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a phan fo trefniadau pensiwn yn golygu bod meddygon ymgynghorol yng Nghymru yn tynnu'n ôl o weithgarwch y bydden nhw fel arall wedi bod yn barod i'w gynnal fel mater o drefn. Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n disgwyl i bob claf gael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol a bod gofal rheolaidd i gleifion yn cael ei ddarparu mewn modd amserol, ond ni ddylai unrhyw un yn y fan yma yn y Siambr hon dwyllo ei hun ynghylch y pwysau gwirioneddol y mae ein holl wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, yn eu hwynebu a'r heriau y mae hynny'n eu hachosi wrth ddarparu gofal yn y modd amserol yr ydym ni'n dymuno ei weld. Fel y dywedais, Llywydd, llwyddodd Fwrdd Iechyd Bae Abertawe y llynedd, ar draws yr amrywiaeth o bethau y mae'n ei wneud, i leihau amseroedd aros hwy ac mae'r arian ychwanegol y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei ddarparu yn gynharach nag erioed yn y flwyddyn ariannol hon yn rhoi'r cyfle gorau y gallwn ni ei roi iddyn nhw i barhau i leihau'r amseroedd aros hynny ymhellach.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Neil Hamilton.