Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad yna. Rwyf i wir yn croesawu cyllid y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yng Nghwm Cynon. Mae wedi helpu rhai prosiectau cwbl ryfeddol i gychwyn. Ond wedi dweud hynny, o fy mhrofiad i o ymwneud â grwpiau cymunedol sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio, mae'r llinellau amser a roddir iddyn nhw yn aml yn aneglur, gall y dyddiadau y maen nhw'n disgwyl i swyddogion ymateb iddyn nhw, neu i'r arian gael ei gadarnhau lithro, ac oherwydd hynny, gall y broses achosi llawer o straen i ymgeiswyr a gall arwain at golli grantiau hanfodol eraill sy'n ddibynnol ar amser. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i broses y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol i weld beth mwy y gellir ei wneud i ddatblygu cynigion mewn modd amserol ac i leihau'r straen ar ymgeiswyr?