Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Hydref 2019.
Ynghylch y pwynt olaf a wnaethoch chi am adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyfan y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, cawsom adolygiad seneddol annibynnol ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, ac fe wnaethon nhw ddangos bod strwythur y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n gwneud synnwyr. Roedden nhw'n glir iawn nad oedden nhw'n argymell adolygiad strwythurol eang a throi'r drol. Mae'n aml yn ddeniadol i wleidydd ddweud mai'r ateb yw ad-drefnu strwythur gwasanaeth, ac mae yna adegau pan fo angen gwneud hynny. Ond rydym ni newydd gael adolygiad annibynnol sy'n dweud nad dyna'r peth iawn i'w wneud. Ac wrth gwrs rydym ni wedi gweld yr heriau mewn ailstrwythuro cynhwysfawr ar draws y ffin, lle, beth bynnag fo'ch barn am newidiadau Lansley, bu cryn dipyn o newid yn y system yn Lloegr. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei argymell neu'n barod i'w orfodi ar y gwasanaeth yma yng Nghymru.
O ran eich pwynt ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn llesteirio'r gwelliant, o gofio ein bod wedi gwneud gwasanaethau mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn destun mesurau arbennig—ac mae'r sefydliad cyfan yn destun ymyrraeth wedi'i dargedu—byddai'n rhyfeddol pe na bai rhyngweithio rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth. Mae'n rhan o ddiben yr holl statws uwchgyfeirio a'r hyn y mae'n ei olygu: po uchaf yr ewch chi, po fwyaf y rhyngweithio, po fwyaf yr oruchwyliaeth, y mwyaf o graffu y gallwch ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru. A phe bawn i'n dweud, 'Mewn gwirionedd, ni fyddaf yn llym iawn o ran gwella', yna rwy'n credu y byddai aelodau yn y fan yma yn cwestiynu'n briodol beth ar y ddaear rwy'n ei wneud a pham nad yw fy swyddogion yn cysylltu'n fwy rheolaidd. Clywsom y sylw a wnaed i'r gwrthwyneb yn llwyr, wrth gwrs, yng nghyfraniad Dai Lloyd. Roedd yntau eisiau gweld hyd yn oed mwy o ymyrryd a gwthio hynny ynghynt. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati—rwy'n credu mai dyma'r ffordd gywir. Felly, bydd y galwadau wythnosol hynny'n parhau nes ein bod yn glir bod y gwasanaeth yn gwella'n fwy cyson.
O ran byrddau iechyd cyfagos a chymorth, mae'n wir fod byrddau iechyd cyfagos yn cefnogi'r gwasanaeth yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae penaethiaid bydwreigiaeth yn cyfarfod fel grŵp ac maen nhw'n edrych ar faterion o ran gwasanaeth mewn ffordd gyfunol iawn. Bu hynny'n gadarnhaol iawn—a'r cynigion rhagweithiol o gymorth sydd wedi'u darparu, a'r ffordd y mae materion recriwtio wedi cael eu trin o amgylch y gwasanaeth, i geisio sicrhau nad oedd tarfu ar y gwasanaeth drwy dynnu pobl allan o ardal Cwm Taf. Ond yn fwy cyffredinol, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud eu dewisiadau, oherwydd bod rhai pobl wedi gwneud dewis, gan ddweud nad ydyn nhw'n dymuno mynd i ganolfan eni yn hen ardal Cwm Taf, a rhoddwyd y dewis hwnnw iddyn nhw. Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu cynorthwyo i wneud y dewisiadau hynny a dechrau'r sgwrs honno gyda'u bydwraig gymunedol leol. Ond bu hynny'n bwysig gyda gwasanaethau cyfagos.
Nid yw Pen-y-bont ar Ogwr yn yr un sefyllfa â hen ardal Cwm Taf, nid yw'r gwasanaeth mamolaeth yn y fan yna yn destun mesurau arbennig. Rydym ni wedi rhyngweithio'n ddiweddar ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; ni chafwyd unrhyw awgrym bod hynny'n weithred ofynnol ar gyfer y rhan honno o ardal Cwm Taf Morgannwg. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i bobl sy'n mynd i roi genedigaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—nid oes angen iddyn nhw fod ag unrhyw bryderon ynglŷn â faint o welliant sy'n ofynnol yn hen ardal Cwm Taf. Ond wrth gwrs, mae pob rhan o'n gwasanaeth yn cael cyfle i ailystyried yr hyn sydd wedi digwydd, i ailystyried pa welliannau y gallai hi barhau i'w gwneud yn ei gwasanaethau ei hun.