– Senedd Cymru am 2:59 pm ar 8 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a dwi'n galw'r Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Ym mis Ebrill, yn dilyn cyhoeddi adroddiad y colegau brenhinol ynghylch gwasanaethau mamolaeth yn hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ymrwymais i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau am yr ymyriadau yr oeddwn i wedi'u rhoi ar waith i sicrhau gwelliannau cynaliadwy ar unwaith. Yn ogystal â gwasanaethau mamolaeth, roedd hyn yn ymestyn i wella'r trefniadau llywodraethu ansawdd sydd ar waith ar draws y sefydliad cyfan. Yn gynharach heddiw, cyhoeddais y diweddariad chwarterol cyntaf gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth a sefydlais ym mis Ebrill. Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr sy'n nodi'r gwaith helaeth y mae'r panel wedi'i oruchwylio yn y misoedd diwethaf.
Mae'n galonogol clywed bod y bwrdd iechyd wedi ymgysylltu'n llawn â'r broses hon, mewn ffordd agored, onest a thryloyw, ac wedi cydnabod yn llawn faint yr her sy'n eu hwynebu. Mae hon yn neges gyson yr wyf wedi'i chlywed gan bob plaid, gan gynnwys rheoleiddwyr, am ymgysylltiad y bwrdd iechyd â'r amrywiaeth eang o ymyriadau sydd wedi'u rhoi ar waith. Fel sefydliad, maen nhw bellach yn dangos eu bod nhw'n benderfynol o ddysgu a gwella. Roeddent yn croesawu'r ffordd gefnogol, a heriol ar adegau, y mae'r panel wedi ymgysylltu â nhw. Mae'n gadarnhaol clywed yn arbennig bod y gwaith o gynnwys a chymell menywod a theuluoedd yn datblygu'n gyflym. Yn yr un modd, mae'r adborth gan ferched am eu profiad yn gwella, gyda phobl yn dweud eu bod yn fodlon iawn yn llawer amlach na pheidio.
Rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn falch o glywed bod tystiolaeth gynnar o welliant yn sgil nifer o'r argymhellion, a bod y sylfeini ar gyfer hyn bellach ar waith, er bod y cynnydd cychwynnol yn arafach nag yr oedd y panel wedi gobeithio amdano. Roedd yn bwysig i'r panel, yn ei ddiweddariad cyntaf, ganolbwyntio'n benodol ar chwilio am dystiolaeth, yn ysgrifenedig a thrwy arsylwi, drwy eu hymweliadau â staff er mwyn cael sicrwydd bod yr 11 argymhelliad 'diogelu' uniongyrchol o adolygiad y colegau brenhinol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer. Hefyd, mae fy swyddogion yn parhau i drafod yn wythnosol gyda'r arweinwyr mamolaeth yn y bwrdd iechyd, gan adolygu set graidd o fetrigau gan gynnwys lefelau staffio, aciwtedd ac unrhyw faterion sy'n ymwneud â risg glinigol i sicrhau diogelwch cleifion a bod menywod yn cael profiad da, a chaiff yr wybodaeth hon ei rhannu â'r panel hefyd.
Felly, heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi strategaeth adolygu clinigol y panel. Un o'r prif gyfrifoldebau a osodais i'r panel oedd llunio a chyflwyno cynllun i adolygu achosion y gorffennol. I ddechrau, bydd hyn yn ymestyn i achosion rhwng mis Ionawr 2016 hyd at ddiwedd Medi 2018, fel y cynigiwyd gan adroddiad y colegau brenhinol. Fodd bynnag, nid dyna fydd diwedd pethau. Mae'r panel wedi dweud wrthyf eu bod eisiau dechrau gyda dalen lân a'u bod yn achub ar bob cyfle i greu'r cyfleoedd gorau ar gyfer dysgu. Felly, maen nhw wedi cytuno ar feini prawf eang, yn ychwanegol at y rhai y mae'n ofynnol eu cyflwyno eisoes i'r systemau adolygu cenedlaethol presennol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu gwybodaeth yn ymwneud â thua 350 o achosion lle'r oedd angen trosglwyddo'r fam neu'r baban o'r uned leol i gael gofal. O'r olwg gyntaf eang hon maen nhw wedi penderfynu, ar draws yr holl feini prawf, y dylai tua 150 o achosion gael eu cwmpasu gan adolygiad amlddisgyblaethol. Mae hyn yn cynnwys y 43 o achosion gwreiddiol a nodwyd gan y bwrdd iechyd. Mae'n bwysig egluro nad yw'r rhain i gyd yn ddigwyddiadau difrifol. Fodd bynnag, mae hyn yn tanlinellu penderfyniad y panel annibynnol i edrych ar ystod gynhwysfawr o achosion fel y gall benderfynu beth sydd wedi mynd yn dda, yn ogystal â phenderfynu pryd na ddigwyddodd hynny o bosib. Mae'n bwysig dysgu o arferion da yn ogystal ag o fethiannau mewn gofal.
Cynhelir adolygiad amlddisgyblaethol annibynnol o bob un o'r achosion hyn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r colegau brenhinol priodol i ganfod timau ychwanegol i weithio gyda'r panel i ddechrau ar y cam nesaf hwn cyn gynted â phosib. Rwyf eisiau sicrhau pob menyw a phob teulu y cynhelir adolygiad o'r gofal a gawsant, y bydd y panel yn cysylltu â nhw ac y cânt gyfle i gyfrannu at yr adolygiad os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw o bosib. Cânt eu cefnogi i wneud hynny fel bo'r angen. Rwyf hefyd eisiau cadarnhau y gall unrhyw deulu sy'n pryderu am eu gofal gyfeirio eu hunain i'r panel i ofyn am adolygiad. Mae angen i'r broses hon gael ei gwneud yn drylwyr ac yn gadarn, ond bydd yn amlwg yn cymryd peth amser, felly nid wyf yn gosod unrhyw derfynau amser ar gyfer cwblhau.
Rwy'n benderfynol bod yn rhaid i fenywod a theuluoedd fod wrth wraidd yr holl waith sydd ar y gweill i ddatblygu pob agwedd ar y gwelliannau sydd eu hangen. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am gyfarfod â theuluoedd ddoe er mwyn iddyn nhw allu clywed yn uniongyrchol am y gwaith hyd yma a'r camau nesaf. Er fy mod i eisiau sicrhau'r tryloywder a'r ymgysylltiad mwyaf yn y gwaith, rwyf hefyd yn cydnabod y gall y diweddariadau hyn fod yn dorcalonnus hefyd. Ond rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd pwyslais parhaus ar wella, er mwyn sicrhau y darperir y safonau uchaf o ofal yn y dyfodol, yn cynnig rhywfaint o gysur. Rwyf, fodd bynnag, yn cydnabod y golled a'r torcalon y bydd llawer o deuluoedd wedi'u dioddef, ac am hynny mae'n ddrwg iawn gennyf.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd a heriol i'r staff, ac mae arnaf eisiau diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad parhaus, ddydd ar ôl dydd, i barhau i ddarparu gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal.
Mae'r misoedd diwethaf wedi gofyn am lawer o hunanholi gan y bwrdd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, o'm sgyrsiau gyda'r Cadeirydd, Marcus Longley, a David Jenkins, y gofynnais iddyn nhw ddarparu cefnogaeth a chyngor i'r bwrdd ynglŷn â'i arweinyddiaeth a'i lywodraethiant, fod y bwrdd yn derbyn bod angen gwneud newidiadau sylfaenol i'w ffordd flaenorol o weithio. Maen nhw wedi sylweddoli'r ffaith nad oedden nhw'n canolbwyntio digon ar ddeall ansawdd gwasanaethau, profiad cleifion nac ymgysylltu â'u staff. Maen nhw'n llawn sylweddoli'r angen i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, staff a rhanddeiliaid.
Mae'r bwrdd yn cydnabod bod angen gwelliant sylweddol o ran y trefniadau sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer rheoli pryderon a digwyddiadau. Mae nifer o ffrydiau gwaith eisoes ar y gweill i wella arweinyddiaeth a diwylliant, yn ogystal â'u trefniadau llywodraethu ansawdd. Mae'n sicr y caiff y camau hyn eu llywio ymhellach gan ganfyddiadau ac argymhellion adolygiad llywodraethu ansawdd cyd-Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y misoedd nesaf.
Yn gyffredinol, mae hi'n galondid imi weld bod arwyddion clir o welliant ac, yn bwysig, awydd cryf a'r ewyllys i'w gyflawni. Yn ddiamau, mae taith hir o'n blaenau ac nid ydym ni eto mewn sefyllfa i ystyried unrhyw newid yn statws uwchgyfeirio'r sefydliad. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am eu cyfraniad a'u hasesiad cychwynnol, ac am y cyngor a'r cymorth y mae David Jenkins wedi'u darparu. Rwy'n ffyddiog bod yr ymyriadau a weithredwyd yn profi'n effeithiol. Mae a wnelo hyn i raddau helaeth â'u proffesiynoldeb a'u hymagwedd, ynghyd â'r ymagwedd fyfyriol a fabwysiadwyd gan y bwrdd. Fodd bynnag, mae llawer mwy i'w wneud i ddarparu a chynnal y gwelliant parhaus mewn gofal mamolaeth y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.
Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw a hefyd am y cyfle a roesoch chi i fy aelodau staff i gael sesiwn friffio dechnegol ar yr adroddiad y bore yma. Wrth gwrs, teitl eich datganiad yw 'Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg', ac rwy'n gwerthfawrogi yn y cynnwys ichi ganolbwyntio'n bennaf ar yr adroddiad cynnydd a'r strategaeth adolygu clinigol, ac yn wir byddaf—mae gennyf nifer o gwestiynau i'w gofyn i chi yn ei chylch. Fodd bynnag, rwyf eisiau dweud ar goedd eto ei bod hi'n ddrwg calon gennym ni fod hyn wedi digwydd i'r teuluoedd hyn yn y bwrdd iechyd hwn. Mae'n ddrwg calon gennym ni eu bod wedi gorfod nid yn unig wynebu'r trallod o golli plentyn ond nawr ceisio cywiro'r ymarfer hwnnw. Byddwn yn ceisio eich cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn ni er mwyn sicrhau bod y rhieni hynny'n cael yr atebion ac, yn wir, y cyfiawnder y maen nhw'n eu ceisio. Felly, mae'n rhaid imi ofyn y cwestiwn cyntaf hwn i chi, sef: pa sicrwydd, Gweinidog, allwch chi ei roi bod yr uwch-reolwyr oedd yn rhan o hyn ar y pryd yn cael eu dwyn i gyfrif am y methiannau yn y bwrdd iechyd, yng ngoleuni datganiad clir y panel nad eu swyddogaeth nhw, a hynny'n gwbl briodol, yw canfod pwy sydd ar fai? Mae hynny'n faes ar wahân a byddem yn ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny.
O ran y strategaeth adolygu clinigol a'r adroddiad cynnydd chwarterol—darllen diddorol iawn. Mae'r diweddariad yn nodi bod y bwrdd iechyd wedi cytuno ar yr isafswm lefelau staffio dros dro. Gweinidog, a wnewch chi egluro beth yw'r lefelau hynny ac a ydyn nhw'n bodloni unrhyw isafswm lefelau staff cydnabyddedig presennol ar gyfer y gwasanaeth hwn? Rwy'n gwybod ein bod yn aros am gyhoeddiad Birthrate Plus, nad yw'n digwydd tan yn ddiweddarach y mis hwn, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r isafswm lefelau staffio hynny uwchlaw Birthrate Plus, oddeutu'r hyn y rhagwelwch chi y byddai, neu fymryn yn is? A allwch chi daflu unrhyw oleuni ar hynny o gwbl?
Yn yr adroddiad, dywed yr awduron eu bod yn ceisio dilysrwydd annibynnol ynghylch honiadau'r bwrdd bod 30 y cant o'r argymhellion cychwynnol hynny wedi'u gwreiddio'n llawn yn arferion gwaith y bwrdd. Pa mor fodlon ydych chi? Sut allwn ni ymddiried yn y bwrdd iechyd, pan fo'r panel hwn yn gorfod cael y dilysiad annibynnol hwnnw?
Er gwaethaf adborth a geisiwyd o arolygon a sylwadau a gasglwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, mae'r diweddariad yn datgan nad yw'r data sy'n deillio o hyn i gyd wedi ei ddadansoddi'n llawn eto ac nad yw'r themâu a nodwyd yn dylanwadu eto ar welliant, ansawdd a diogelwch y gwasanaethau mamolaeth. Felly, a wnewch chi egluro, Gweinidog, a yw hynny oherwydd diffyg adnoddau wedi'u dyrannu, ynteu a yw'r ystyfnigrwydd diwylliannol cynhenid hwn yn dal i fod yn y bwrdd iechyd?
A wnewch chi roi amserlen i ni ar gyfer pryd y caiff y 150 o achosion a nodwyd eu hadolygu, fel y gall y cleifion fod yn dawel eu meddwl? Fe wnaethoch chi ddweud eich hun fod modd hunan-atgyfeirio i'r panel, a chredaf fod hynny, mewn gwirionedd, yn ffordd hynod gadarnhaol o estyn allan a cheisio ymdrin â sefyllfa anodd iawn. Ond a wnewch chi egluro pa un yw'r 39 hynny hyd yn hyn yn ychwanegol at, neu wedi eu cynnwys yn y 150? Pa adnoddau ychwanegol allwch chi eu neilltuo i sicrhau y caiff yr atgyfeiriadau hyn eu clywed yn brydlon, oherwydd bu cynnydd yn y cwynion, fel yr ydych chi eich hun wedi nodi. Ni fydd pob un ohonyn nhw'n ddifrifol, ond serch hynny, mae'n amlwg bod pryder a gofid o hyd ynghylch yr holl fater yma, felly mae'n amlwg bod angen yr adnoddau ychwanegol hynny arnom ni.
Yn olaf, a gaf i ofyn pa hyfforddiant fydd yna i ailhyfforddi pobl y gallai fod angen yr ailhyfforddi hwnnw arnyn nhw? Yn ystod y briff technegol a gynigiodd eich swyddogion y bore yma, fe wnaethon nhw siarad am y ffaith ei bod hi'n amlwg iawn y gallen nhw weld llanw a thrai o ran arferion a chanlyniadau. Mae'n amlwg iawn pwy, efallai, sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw, sydd angen y gefnogaeth ychwanegol honno. Felly, beth sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod staff penodol ar y rheng flaen wedi cael y cymorth ychwanegol hwnnw y mae ei angen arnyn nhw i wella'r ffordd y maen nhw'n darparu gofal bydwreigiaeth i famau a theuluoedd yn y bwrdd iechyd hwn?
Fy mhwynt olaf yw rhif 11 o'ch datganiad: diwylliant yn y gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn dweud:
mae gwaith yn dal i fynd rhagddo a dyna fydd y sefyllfa debygol am y dyfodol rhagweladwy.
Deallaf hynny'n llwyr. Dywedant:
mae'n afrealistig disgwyl y gellir mynd i'r afael â materion hirsefydlog yn ymwneud â diwylliant, agweddau ac ymddygiad o fewn ychydig fisoedd.
Wrth gwrs na allan nhw. Mae newid diwylliannol yn cymryd amser hir i wreiddio. Fodd bynnag, ni allwn ni aros yn rhy hir. Nid ydym ni eisiau gweld hyn yn llusgo ymlaen ac ymlaen fel problem dragwyddol, fel y gwelsom ni broblemau tragwyddol mewn byrddau iechyd eraill ynglŷn â materion eraill. A wnewch chi roi unrhyw awgrym o amserlen o ran pryd y gallech chi obeithio gweld rhai o'r newidiadau hyn yn cael eu hymgorffori yn niwylliant y bwrdd iechyd hwnnw, ac, wrth gwrs, nid dim ond mewn gwasanaethau mamolaeth ond, fel y dywedodd y panel yn un o'i ddatganiadau tyst i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mae awgrym bod rhywfaint o'r anhwylder hwn, os mynnwch chi, i'w weld mewn meysydd eraill yn y bwrdd iechyd hwn, ac mae angen inni dyrchu i weld ai dim ond mewn gwasanaethau mamolaeth y mae'n broblem neu a yw hyn yn fater systemig. Ac os yw'n fater systemig, yn wir mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Ond rwy'n eich cymeradwyo chi a'ch tîm am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud hyd yn hyn, ond ni allwn ni laesu dwylo ynghylch hyn.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â chymaint ohonyn nhw ag y gallaf. Os caiff pethau eu hepgor, yna, yn amlwg, ar ddiwedd hyn, rwy'n gwybod y caf gyfle i fynd i'r pwyllgor, a bydd Aelodau, wrth gwrs, yn rhydd i, ac rwy'n siŵr y gwnant, gysylltu â mi.
Ar y dechrau, ac o ran eich sylw dechreuol, fe hoffwn i siarad am yr ymrwymiad parhaus i deuluoedd y byddwn yn parhau i gadw llygad ar welliannau. Mae llawer o deuluoedd wedi dod ymlaen ers yr adroddiad ac ers i'r gwaith ddechrau, yn enwedig y gwaith ymgysylltu. Mae hynny wedi arwain at gynnydd yn nifer y cwynion, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae her ynghylch y swyddogaeth gwyno, ond, mewn gwirionedd, mae honno'n broses gwyno nad oedd yn gweithredu mor effeithiol ag y dylai, ac mae'r prif weithredwr dros dro wedi cydnabod hynny, o ran un o'ch sylwadau am neilltuo adnoddau ar gyfer cwynion. Ond hoffwn ddiolch eto i bob un o'r teuluoedd hynny sydd nid yn unig eisiau ateb ynghylch yr hyn a aeth o'i le, o bosib, gyda'u gofal, ond sydd hefyd eisiau gweld gwelliant mwy cyffredinol, oherwydd efallai bydd rhai o'r teuluoedd hyn yn cael plant eto, ond mae rhai ohonyn nhw hefyd, mewn ffordd anhunanol iawn, dim ond eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn rhan o wella'r gwasanaeth cyfan fel nad yw teuluoedd eraill yn mynd drwy'r hyn yr aethon nhw drwyddo. Ac mae hynny'n beth eithaf anhunanol i'w wneud a pheth anodd ei wneud, o ystyried y profiadau y mae'n rhaid iddyn nhw fynd trwyddyn nhw eto.
Ynglŷn â'ch sylw am atebolrwydd uwch-reolwyr, ar y dechrau, ac eto heddiw, eglurais ac mae'r panel yn glir nad ei waith ef yw canfod y bobl sy'n gyfrifol, o ran y staff. Yr hyn y maen nhw hefyd yn glir yn ei gylch—ac maen nhw wedi cael cyfarfod ar y cyd â'r ddau reolydd, yr NMC, sef y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a'r GMC, sef y Cyngor Meddygol Cyffredinol—yw, os ydynt yn canfod materion yn yr adolygiadau clinigol a gyflawnir y dylid eu hadrodd i gyrff proffesiynol neu reoleiddiol i'w hymchwilio ymhellach, yna byddant yn gwneud hynny. Ond nid eu gwaith nhw yw mynd i chwilio am hynny. Ond, wrth iddyn nhw graffu ar yr adolygiadau, os deuant o hyd i dystiolaeth o hynny, byddan nhw'n atgyfeirio fel sy'n angenrheidiol. Yn amlwg, os bydd hynny'n digwydd, byddan nhw'n adrodd yn ôl i'r cyhoedd ynghylch pa atgyfeiriadau sydd wedi neu heb eu gwneud o ran y niferoedd.
O ran eich sylw ynglŷn â lefelau staff, o ran yr isafswm lefelau staff, maen nhw'n gweithio tuag at wneud hynny. Oherwydd bod meddygon wedi eu recriwtio i'r uned. Mae rhai pobl wedi gadael. O ran yr arweinyddiaeth, mae cyfarwyddwr meddygol newydd, sydd yn ei swydd ers tua deufis. Mae cyfarwyddwr clinigol newydd yn y gwasanaeth, sydd yn y swydd ers llai na mis. Ac, o ran niferoedd y bydwragedd, alla i ddim rhoi syniad i chi, oherwydd fy mod yn credu nad dyna fyddai'r peth cywir i'w wneud nes cwblhau'r asesiad Birthrate Plus. Bydd hynny'n rhoi dealltwriaeth briodol inni o'r modd y caiff yr uned ei staffio.
Nawr, mae'r bwrdd iechyd—. Rhan o'r her yn y gorffennol oedd—. Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd yn datgan eu parodrwydd i fynd ati i recriwtio i'r holl swyddi gwag. Maen nhw'n glir iawn am wneud hynny nawr. Maen nhw wedi gwneud yn well o ran recriwtio'n gynnar. Felly, yn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gennym ni asesiad Birthrate Plus, a byddaf yn sicrhau bod canlyniad hwnnw ar gael i Aelodau yn gyffredinol. Felly, yn hytrach na fy mod i'n dweud rhywbeth byrbwyll heddiw, rwy'n credu, os arhoswch chi ychydig wythnosau, yna bydd gan bawb rywbeth y gallan nhw ddibynnu arno o ran y ffigurau.
O ran yr 11 argymhelliad 'diogelu' a wnaed yn adolygiad y colegau brenhinol, mae wyth o'r 11 wedi cyrraedd y cam pan fo'r panel annibynnol yn dweud eu bod wedi'u cyflawni; mae tri yn dal i fod yn waith sydd ar y gweill. Maen nhw, i raddau helaeth, yn ymwneud â staffio ac â'r gallu i ymgorffori newid. Felly, maen nhw'n cydnabod, ym mhob un o'r meysydd hynny, bod cynnydd wedi'i wneud, ond maen arnyn nhw eisiau'r sicrwydd y gwnaed y cynnydd hwnnw dros gyfnod hwy o amser cyn iddyn nhw ddweud eu bod wedi cael eu cyflawni, ac rwy'n credu mai dyna'r ymagwedd gywir i'w choleddu.
Dof yn ôl at un o'r rheini yn benodol sy'n ymwneud ag un arall o'ch cwestiynau. O ran yr amserlen ar gyfer adolygiadau, mae'r panel eu hunain yn nodi eu bod yn disgwyl i'r adolygiadau hynny ddechrau fis nesaf—i'r adolygiadau ddechrau mewn gwirionedd. Nid ydynt yn rhoi, ac nid wyf i'n rhoi, unrhyw fath o amserlen ar gyfer pryd bydd yr adolygiadau hynny'n gorffen. Byddant yn eu cwblhau mewn sypiau, fel na chaiff pob un ohonyn nhw eu dal yn ôl hyd nes caiff yr olaf ei gwblhau. Cânt eu gwneud mewn sypiau, ac mae'n rhaid i ni weithio gyda cholegau brenhinol eraill i ddarparu staff annibynnol i'w cwblhau nhw. Oherwydd nid aelodau'r coleg obstetreg a gynaecoleg a'r coleg bydwragedd yn unig fydd yn gorfod bod yn bresennol—rhai ohonyn nhw, bydd y gofal yn ehangach ac mae angen i ni gael pobl eraill i gymryd rhan yn yr adolygiadau hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig y cânt eu gwneud yn iawn, yn hytrach na'u gwneud yn gyflym. Rwy'n deall y bydd yr Aelod ac eraill yn gofyn i mi geisio darparu amserlen, ond rwy'n credu mai dyna'r peth anghywir i'w wneud. Mae'n llawer pwysicach y cânt eu gwneud yn iawn, a bod teuluoedd, fel y dywedais, yn cael y cyfle i gymryd rhan.
O ran yr hunangyfeirio, hunangyfeirio ar gyfer asesiad yw hynny. Nid yw'n golygu y bydd angen i bawb sy'n pryderu gael adolygiad clinigol llawn. Ond rwy'n credu mai'r sicrwydd i aelodau'r cyhoedd sy'n pryderu yw y bydd y panel yn rhan o'r asesiad hwnnw. Felly, nid y bwrdd iechyd fydd yn penderfynu ar eu rhan pa un a oes angen adolygiad llawn neu beidio. Bydd y panel yn rhan o hynny hefyd. Felly, bydd gennym ni'r annibyniaeth honno ar y panel ynghylch a oes angen adolygiad llawn neu beidio, ond bydd cyfle iddyn nhw gael cymorth i wneud hynny.
O ran pryd ddaw'r ymyriad i ben, wel, unwaith eto, bydd y panel annibynnol yn darparu adroddiadau chwarterol ar y gwelliannau cyffredinol. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi'r rhai am y statws uwchgyfeirio. Byddwch yn gwybod y bu proses ar waith ers tro lle'r ydym ni'n ystyried y cynnydd ym mhob sefydliad. A bydd y statws hwnnw'n newid pan fo'r sefydliad ei hun wedi gwneud y gwelliant angenrheidiol. Felly, bydd rhywfaint o hyn yn fwy hirdymor, a bydd yr un peth yn wir am y newid diwylliannol sy'n cael ei amlygu yn yr adroddiad hefyd. Nid wyf yn credu y byddai'n rhesymol disgwyl i'r holl newid diwylliannol hwnnw fod wedi digwydd. Mae'n waith sydd ar y gweill. Y llanw a thrai hwnnw yr ydych chi'n ei ddisgrifio yw'r hyn y byddem yn disgwyl ei weld mewn unrhyw, nid dim ond gwasanaeth cyhoeddus, ond unrhyw fusnes yn y sector preifat lle mae angen i chi wneud newid diwylliannol sylweddol gyda'ch staff. Felly, bydd angen i hynny barhau, nid ym maes bydwreigiaeth yn unig ond yn y gwasanaeth meddygol hefyd. Nid newid ar un adeg yn unig yw hyn, ond rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn niwylliant y sefydliad a disgwyliadau staff o'i gilydd, ac yn wir y modd y maen nhw'n trin ac yn gweithio gyda'r cyhoedd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghwm Taf. Mi fyddwch yn gwybod bod y pwyllgor iechyd hefyd yn craffu ar ddigwyddiadau Cwm Taf, achos mae hwn yn fater dyrys. Mae'r babanod wedi marw. Mae teuluoedd wedi'u rhwygo'n ddarnau. Mae'r adroddiad yma heddiw yn destun pryder enfawr. Bum mis ers y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog iechyd, mae sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddiogel yn dal heb ddigwydd. Mae gan deuluoedd yr hawl i ddisgwyl gwasanaethau sydd, bennaf oll, yn ddiogel, ond sydd hefyd yn effeithiol ac wedi'u rheoli'n dda. Gyda'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, dylai'r Gweinidog iechyd sicrhau ar fyrder fod gwelliannau'n digwydd. Mae'r Gweinidog yn dweud ei fod yn hapus bod pobl wedi derbyn yr angen am newid. Nawr, gyda phob parch, dyw hynny ddim yn ddigon. Fe alwodd Plaid Cymru a'r teuluoedd am newid bum mis yn ôl. Beth mae o wedi bod yn ei wneud ers mis Mai?
Nid siarad am welliannau sydd angen nawr, ond gweithredu. Mae gan y bwrdd iechyd job o waith aruthrol i'w wneud, ac, ar fater mor bwysig, yn enwedig pan fo'r gwasanaethau hyn dan oruchwyliaeth uniongyrchol y Gweinidog iechyd, rhaid iddo fe dorchi ei lewys yn hytrach nag eistedd yn ôl a disgwyl bod gwelliannau'n digwydd hebddo fe. Mae'r adroddiad yma heddiw yn dweud pethau fel bod adborth gan y staff a chleifion yn awgrymu, a rwy'n dyfynnu:
Mae angen o hyd i newid y diwylliant a'r gwerthoedd sylfaenol sydd wedi'u datgelu mor frawychus yn yr adroddiad Gwrando ar Fenywod a Theuluoedd.
Ie, mi oedd e'n syndod enfawr bod y fath bethau wedi digwydd, ac mae angen gweithredu ar fyrder. Allwn ni ddim bod yn hapus bod pethau jest yn dechrau newid nawr a dweud bod yna ffordd bell i fynd. Mae angen gweithredu ar fyrder. A fel dŷch chi wedi cyfeirio, mae tri allan o'r 11 argymhellion brys gan y colegau brenhinol eto heb eu gweithredu—yr adolygiad o lefelau staffio mamolaeth diogel; nid yw'r bwrdd iechyd yn llawn hapus bod staff yn arfer y canllawiau diogelwch yn ddigonol; ac mae newid diwylliant yn mynd i gymryd amser hir. Ie, efallai'n wir, ond mae'n bosib newid diwylliant ac mae angen ei newid ef ar fyrder achos mae'n teuluoedd ni yng Nghwm Taf wedi dioddef yn enbyd ers blynyddoedd maith ac yn parhau i ddioddef. Mae marwolaeth baban yn ddigwyddiad echrydus i ddigwydd i unrhyw deulu. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i brysuro'r gwelliant angenrheidiol yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf?
Rwy'n credu bod dau gwestiwn cyffredinol yn y sylwadau a wnaed gan yr Aelod. Roedd y cyntaf yn ymwneud â pha mor gyflym y bu'r newid hyd yma, ac rwy'n credu mai'r ail yn fras oedd yr hyn yr wyf i yn ei wneud fy hun. Ar y tri o'r 11 argymhelliad 'diogelu' a wnaed, bu'r panel yn glir iawn ynghylch y ffaith bod gwaith yn mynd rhagddo ym mhob un o'r meysydd hynny. Nid yw'n wir dweud nad oes dim wedi digwydd mewn unrhyw un o'r meysydd hynny, ac, mewn gwirionedd, pe bawn i wedi codi heddiw a dweud bod y newid diwylliannol sydd ei angen wedi digwydd, yna ni fyddai pobl yn y Siambr hon na'r tu allan yn fy nghredu, ac ni ddylen nhw chwaith. Rwy'n gwybod o'm profiad fy hun y tu allan i fywyd yn y fan yma, os ydych chi'n ystyried cyflwyno newid diwylliannol sylweddol mewn unrhyw weithle, nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd yn gyflym ac nid yw'n rhywbeth sy'n digwydd drwy fynnu ei fod yn digwydd. Mae'n rhaid i chi ddarbwyllo pobl. Ac mae hyn yn anodd. Mae'n rhaid i chi fod yn onest. Mae hyn yn anodd i bobl—[Torri ar draws.] Mae hyn yn anodd i bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r newid diwylliannol hwnnw yn y ffordd y maen nhw wedi gweithio yn y gorffennol, ac mae angen inni ddarbwyllo pobl i sicrhau bod y gwasanaeth yn gwneud mwy na dim ond cyflawni a dweud, 'Edrychwch, mae'r math cywir o bethau'n digwydd nawr', ond bod y newid hwnnw wedi gwreiddio ac yn gynaliadwy. Felly, rwy'n credu mai cam gwag iawn fyddai imi geisio dweud heddiw, 'Mewn gwirionedd, mae digon o gynnydd wedi'i wneud ym mhob un o'r meysydd hynny ac mae popeth yn iawn.'
A'r un pwynt—pan gyfarfûm â'r panel ddoe, gwnaethant y pwynt, o ran gweithredu protocolau, eu bod nhw'n glir bod llawer mwy o ymwybyddiaeth a glynu wrth yr holl brotocolau hynny, sy'n un o'r problemau gwirioneddol a nodwyd yn adroddiad y colegau brenhinol, ond roedden nhw eisiau gweld yr ymlyniad hwnnw'n parhau am gyfnod hwy cyn iddyn nhw gytuno bod y newid wedi'i gyflawni yn hytrach na'i fod yn waith sydd ar y gweill. Ac rwy'n credu mai dyna'r gonestrwydd y dylai pob un ohonom fod eisiau ei chael gan y panel a gennyf fi yn hytrach na—. Y peth cyfleus i mi fyddai dweud bod popeth yn cael ei gyflawni, ond mae angen i mi allu edrych ar fy hun yn y drych, yn ogystal â, pan fyddaf i'n cwrdd â theuluoedd ar ddiwedd y flwyddyn hon, edrych i fyw eu llygaid a dweud ein bod ni'n gwneud y peth iawn a bod yn onest am hyn.
A daw hynny'n ôl at yr hyn rwy'n ei wneud: rwyf wedi bod yn glir iawn o ran fy nisgwyliadau yn gyhoeddus ac o ran cwrdd â'r panel, mai'r peth pwysicaf yw gwneud hyn yn iawn. Y peth pwysicaf yw cyflawni'r gwelliannau. Felly, rydym ni'n darparu'r holl adnoddau y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei wneud i sicrhau bod y broses adolygu clinigol yn digwydd gyda'r arbenigedd priodol sydd ei angen, gyda'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen i sicrhau bod hynny'n digwydd, a hefyd, eglurder a disgwyliad yn y gwaith sy'n cael ei wneud, a bod craffu ychwanegol yn digwydd, nid yn unig gyda'r bwrdd, ond gyda rhanddeiliaid eraill hefyd.
Ym mhob agwedd arall ar fywyd Gweinidog, y ffactorau a'r heriau eraill ar hyn o bryd, gallaf ddweud yn onest mai hon yw un o'm blaenoriaethau pennaf ac un o'r pethau yr wyf i wedi neilltuo'r amser mwyaf iddo, fel y dylwn i. Felly, does dim diffyg dealltwriaeth, does dim diffyg ymdrech nac ymgysylltiad gweinidogaethol. Ond yr hyn na wnaf yw dweud y gallaf, ac y gwnaf, gyflwyno newid yn gynt nag y dylai unrhyw un gredu sy'n bosib ar draul gwneud y peth priodol i'r holl deuluoedd hynny a'r staff hynny sydd, yn ddealladwy, wedi cael eu siomi yn y gorffennol, ac i wneud yn siŵr na chânt eu siomi yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Ac, yn y fan yma, a gaf i ddweud eto fy mod yn cydymdeimlo ac yn meddwl am y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiannau yn y bwrdd iechyd hwn gan orfod byw gyda'r trychinebau hynny ers hynny? A gaf i hefyd ategu'r diolch i aelodau'r panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth am eu gwaith, ac yn arbennig i Mick Giannasi, a roddodd sawl awr o'i amser yn Ysbyty'r Tywysog Siarl imi pan gefais gyfle i siarad ag ef yn uniongyrchol am waith y panel trosolwg a gweld yn uniongyrchol rai o'r pethau a oedd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys siarad â rhai o'r staff a rhai o'r rheolwyr newydd a oedd yno? Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn iddo am gael y cyfle i wneud hynny.
Roeddwn hefyd yn falch o allu bod yn y sesiwn friffio y bore yma a hwyluswyd gennych chi gyda'r panel trosolwg, ynghyd â'm cydweithiwr Vikki Howells, a chawsom gyfle i ofyn cwestiynau i'r panel trosolwg yn uniongyrchol yn y briff hwnnw. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, yn wahanol i rai o'r sylwadau a glywais y prynhawn yma, rwy'n gweld hyn ychydig yn wahanol o ran yr hyn yr wyf wedi'i weld, yr hyn yr wyf wedi'i glywed a'r hyn yr wyf wedi'i brofi wrth siarad â rhai o'r staff a'r cleifion. Ac mae gennyf beth sicrwydd o ganlyniad i'r gwaith trylwyr y mae'r panel bellach wedi'i wneud ac o ganlyniad i'ch ymyriad, er na ddylai neb, fel yr ydych chi wedi dweud, ac fel y mae eraill wedi nodi, danbrisio'r heriau sy'n dal o'n blaenau. Yn wir, un o'r pethau a glywsom ni o'r sesiwn friffio y bore yma oedd, ar ôl yr ymchwiliad i wasanaethau mamolaeth Morecambe Bay, cymerodd ryw chwe blynedd o'r adeg y daeth Morecambe Bay yn destun mesurau arbennig i'r amser yr ystyrid nhw'n uned dda. Ac fe gaiff yr uned honno bellach ei gweld fel enghraifft o ddarpariaeth gwasanaethau mamolaeth. Felly, rwy'n credu mai'r pwynt rwy'n ei wneud yma yw nad yw unrhyw un sy'n credu bod ateb cyflym i hyn yn amlwg yn gyfarwydd â'r briff o ran yr hyn sydd angen ei wneud. Nid oes atebion cyflym a hawdd, mae'n ymddangos i mi.
Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod yn rhaid i brofiad menywod a theuluoedd barhau i fod wrth wraidd y daith hon i wella. Felly, i'r graddau hynny, mae'r ymateb i'r 11 argymhelliad 'diogelu' hyd yn hyn yn galonogol, er, fel yr ydych chi eisoes wedi nodi, mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud. Nawr, sylwaf fod nifer yr achosion yn yr adolygiad clinigol wedi eu hymestyn wrth i feini prawf y panel gael eu hehangu, er mwyn sicrhau y gellir dysgu'r holl wersi priodol o'r broses. Er bod hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu, arhosaf am y dystiolaeth arbenigol o'r adolygiadau hynny cyn gwneud unrhyw sylw manwl arnyn nhw. Ond mae'n galondid imi glywed am arwyddion o well perfformiad o ganlyniad i'r newidiadau sydd eisoes ar waith.
Nawr, Gweinidog, rydych chi wedi sôn gryn dipyn am adnoddau, ond, gan fod yn rhaid i'r gwaith ganolbwyntio ar wella profiad menywod sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, a wnewch chi ein sicrhau y byddwch yn parhau i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith gyda'r menywod a'r teuluoedd hynny sy'n dymuno parhau i fod yn rhan o'r adolygiad hwn?
Ac, yn olaf, a ydych chi'n cytuno â mi, os ydym ni'n mynd i gyflawni rhai o'r newidiadau diwylliannol y mae eu hangen yn amlwg, fod yn rhaid inni greu amgylchedd lle y bydd pobl, staff, yn teimlo'n hyderus ynghylch mynegi barn a chodi llais mewn modd teg a chytbwys ynghylch arferion gwael ac ymddygiad gwael? Oherwydd, ers rhy hir o lawer, mae gwneud hynny wedi bod yn benderfyniad sy'n terfynu gyrfa gormod o staff. Ac, os ydym ni eisiau gweld y newid diwylliannol hwnnw, mae'n rhaid i bobl deimlo'n ddiogel gan wybod y gallan nhw fynd â'r pryderon hynny at yr awdurdod uchaf posib heb ofni am eu gyrfaoedd eu hunain wrth wneud hynny.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yr ydych chi wedi'u gofyn. O ran eich pwynt cyntaf ynghylch nad oes ateb cyflym, mae hynny'n hollol gywir, ac mae angen imi fod yn onest â phobl am hynny ar y dechrau, fel y bûm yn y datganiad cyntaf heddiw hefyd, yn hytrach nag awgrymu y bydd adeg o gyfleustod gwleidyddol yn gyrru'r hyn sy'n digwydd, yn hytrach na gwneud y peth priodol i'r gwasanaeth ac adrodd yn onest ynghylch faint o gynnydd a wnaed, yn ogystal â'r hyn sydd angen ei wneud o hyd. Unwaith eto, rwy'n hapus i ailadrodd y bydd menywod a theuluoedd yn ganolog i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y gwaith ymgysylltu sy'n cael ei arwain yn y lle cyntaf gan Cath Broderick, ac y mae gan y bwrdd iechyd bellach fwy o ran arweiniol ynddo, fel y dylai fod ganddo. Wrth fwrw ymlaen â hynny, bydd tri digwyddiad cyhoeddus—un ym Merthyr, un yn Llantrisant o fewn y chwe wythnos nesaf, ac yna un yn y flwyddyn newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mwyn i'r bwrdd iechyd geisio cyd-gynhyrchu ei strategaeth ar gyfer y dyfodol â menywod a theuluoedd i geisio gwneud yn siŵr nad oes ymddieithrio rhwng y gwasanaeth a'r bobl sy'n ei ddefnyddio.
Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y panel yn rhai gwir, ond nid ydyn nhw'n gyson, ac nid ydym ni mewn sefyllfa berffaith. Mewn unrhyw wasanaeth dynol, mae lle i gamgymeriadau bob amser, hyd yn oed mewn gwasanaeth da. Ond ni fyddwn i'n ceisio esgus na fydd pobl yn cael gohebiaeth fwy diweddar, lle mae rhesymau dros fynd yn ôl at y bwrdd iechyd. Ni fyddwn i'n ceisio dweud hynny wrth neb. Ond mae'n wir, serch hynny, ei fod mewn lle gwell nawr nag yr oedd cyn i'r ymyrraeth ddechrau. Fy uchelgais yw gweld y gwelliant hwnnw'n parhau a pharhau, oherwydd nid wyf eisiau clywed cwynion parhaus, y mae cyfiawnhad drostynt, am ansawdd y gofal a phrofiad menywod a'u teuluoedd yn unrhyw un o'r gwasanaethau hyn.
Dyna pam y gallaf gadarnhau y bydd adnoddau yn y dyfodol i gefnogi menywod a theuluoedd sy'n ymwneud â hyn. Mae adnoddau yn y gwasanaethau cymorth a ddarperir yn aml gan y trydydd sector. Felly, er enghraifft, mae grŵp cymorth Snowdrop a'r gwasanaeth Sands, unwaith eto, ar gael i deuluoedd, ynghyd â'r daflen ddefnyddiol iawn yn fy marn i sef 'cwestiynau cyffredin' y mae'r panel wedi'i chynhyrchu ar gyfer y cyhoedd sy'n nodi sut i gysylltu â nhw. Ond hefyd, os oes angen cefnogi menywod a theuluoedd i ymgysylltu â'r panel gyda rhywfaint o'r gwaith adolygu, yna byddwn yn ceisio gweld sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn hwyluso hynny'n briodol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi. Ac, yn amlwg, mae'r Cyngor Iechyd Cymuned wrthi'n gwneud y gwaith hwnnw hefyd.
Ynghylch y pwynt olaf a wnaethoch chi am gynorthwyo pobl i ddweud eu dweud, mae hynny'n rhan o'r newid diwylliant y mae angen iddo ddigwydd, i symud oddi wrth ddiwylliant o gosbi, lle mae pobl yn teimlo, os ydyn nhw'n tynnu'n groes, naill ai gyda'u rheolwyr, neu mewn grŵp gyda'u cyfoedion yn y gwaith lle mae un farn yn drech—fod pobl yn teimlo y cânt eu cosbi yn eu gwaith beunyddiol—a'n bod, mewn gwirionedd, yn symud tuag at fod yn sefydliad sy'n dysgu, lle mae pobl yn cydnabod lle mae pethau'n mynd o chwith, yn ogystal â chydnabod rhagoriaeth, er mwyn gallu cyfeirio at hynny a siarad amdano mewn sefyllfa lle mae modd dysgu. A dyna ran o'r rheswm pam yr wyf i'n wirioneddol glir na all y panel gysylltu ei hun â geiriau fel 'eich gwaith chi yw mynd i ddarganfod pobl sy'n gyfrifol', oherwydd, mewn gwirionedd, bydd hynny'n troi'n ddiwylliant beio. Bydd yn atgyfnerthu diwylliant o gosbi, yn hytrach na symud ymlaen i fod yn amgylchedd dysgu gwirioneddol, lle caiff pobl eu cefnogi i ddweud pan aiff pethau o chwith, i gyfaddef o'u gwirfodd pan aiff pethau o chwith, i wneud y gwelliannau y mae pob un ohonom ni eisiau eu gweld mewn ffordd real a pharhaus.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a'ch datganiad ysgrifenedig yn gynharach. A gaf innau hefyd gydymdeimlo â'r holl deuluoedd hynny yr effeithiwyd arnyn nhw? Rwy'n croesawu'r hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ddiogel, ond rhaid cael atebolrwydd, oherwydd bod teuluoedd wedi dioddef galar anhygoel. Mae'r ffaith, fel y mae'r adolygiad annibynnol yn dweud, fod llawer iawn i'w wneud o hyd yn peri pryder mawr i'm hetholwyr a ddaeth yn rhan o'r bwrdd iechyd yn gynharach eleni. Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y broblem enfawr o adfer ffydd y cyhoedd yn y gwasanaeth. Yn anffodus, datrys y mater hwn fydd un o'r heriau mwyaf. Mae angen gweithredu a newid, ac mae angen hynny'n fuan yn hytrach nag yn hwyrach.
Gweinidog, sut fyddwch chi'n ymdrin â phryderon rhieni'r dyfodol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch gwasanaethau mamolaeth gan eu bod bellach yn dod o dan Fwrdd Iechyd Cwm Taf? Er fy mod i'n deall y bydd y newidiadau'n cymryd amser, a bod cynnydd yn cael ei wneud, bydd fy etholwyr yn poeni'n briodol am eu diogelwch, ac am ddiogelwch eu babanod. Gweinidog, a fydd galw ar fyrddau iechyd cyfagos i gefnogi gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf i leddfu ofnau mamau beichiog, a fydd yn poeni bod gwasanaethau'n dal yn anniogel? Sylwaf o'ch datganiad y bu eich swyddogion yn trafod yn wythnosol gyda'r arweinwyr mamolaeth yn y bwrdd iechyd i adolygu metrigau. O gofio'r feirniadaeth gan y cadeirydd sydd ar fin gadael Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n wythnosol yn llesteirio gwelliannau, Gweinidog, a ydych chi'n fodlon nad yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn llesteirio ymdrechion i wella yng Nghwm Taf?
Ac yn olaf, Gweinidog, o ystyried diffygion Cwm Taf, Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr, mae llawer o bobl yn galw am ymchwiliad pellgyrhaeddol i'r GIG yng Nghymru. A ydych chi'n fodlon bod y strwythurau presennol yn addas i'r diben, a sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw fethiannau systemig eraill yn amlygu eu hunain yn y bwrdd iechyd yma neu unrhyw fwrdd iechyd arall? Diolch yn fawr.
Ynghylch y pwynt olaf a wnaethoch chi am adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyfan y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, cawsom adolygiad seneddol annibynnol ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, ac fe wnaethon nhw ddangos bod strwythur y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n gwneud synnwyr. Roedden nhw'n glir iawn nad oedden nhw'n argymell adolygiad strwythurol eang a throi'r drol. Mae'n aml yn ddeniadol i wleidydd ddweud mai'r ateb yw ad-drefnu strwythur gwasanaeth, ac mae yna adegau pan fo angen gwneud hynny. Ond rydym ni newydd gael adolygiad annibynnol sy'n dweud nad dyna'r peth iawn i'w wneud. Ac wrth gwrs rydym ni wedi gweld yr heriau mewn ailstrwythuro cynhwysfawr ar draws y ffin, lle, beth bynnag fo'ch barn am newidiadau Lansley, bu cryn dipyn o newid yn y system yn Lloegr. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y byddwn i'n ei argymell neu'n barod i'w orfodi ar y gwasanaeth yma yng Nghymru.
O ran eich pwynt ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn llesteirio'r gwelliant, o gofio ein bod wedi gwneud gwasanaethau mamolaeth yn hen ardal Cwm Taf yn destun mesurau arbennig—ac mae'r sefydliad cyfan yn destun ymyrraeth wedi'i dargedu—byddai'n rhyfeddol pe na bai rhyngweithio rheolaidd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth. Mae'n rhan o ddiben yr holl statws uwchgyfeirio a'r hyn y mae'n ei olygu: po uchaf yr ewch chi, po fwyaf y rhyngweithio, po fwyaf yr oruchwyliaeth, y mwyaf o graffu y gallwch ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru. A phe bawn i'n dweud, 'Mewn gwirionedd, ni fyddaf yn llym iawn o ran gwella', yna rwy'n credu y byddai aelodau yn y fan yma yn cwestiynu'n briodol beth ar y ddaear rwy'n ei wneud a pham nad yw fy swyddogion yn cysylltu'n fwy rheolaidd. Clywsom y sylw a wnaed i'r gwrthwyneb yn llwyr, wrth gwrs, yng nghyfraniad Dai Lloyd. Roedd yntau eisiau gweld hyd yn oed mwy o ymyrryd a gwthio hynny ynghynt. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati—rwy'n credu mai dyma'r ffordd gywir. Felly, bydd y galwadau wythnosol hynny'n parhau nes ein bod yn glir bod y gwasanaeth yn gwella'n fwy cyson.
O ran byrddau iechyd cyfagos a chymorth, mae'n wir fod byrddau iechyd cyfagos yn cefnogi'r gwasanaeth yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae penaethiaid bydwreigiaeth yn cyfarfod fel grŵp ac maen nhw'n edrych ar faterion o ran gwasanaeth mewn ffordd gyfunol iawn. Bu hynny'n gadarnhaol iawn—a'r cynigion rhagweithiol o gymorth sydd wedi'u darparu, a'r ffordd y mae materion recriwtio wedi cael eu trin o amgylch y gwasanaeth, i geisio sicrhau nad oedd tarfu ar y gwasanaeth drwy dynnu pobl allan o ardal Cwm Taf. Ond yn fwy cyffredinol, mae'n ymwneud â chefnogi pobl i wneud eu dewisiadau, oherwydd bod rhai pobl wedi gwneud dewis, gan ddweud nad ydyn nhw'n dymuno mynd i ganolfan eni yn hen ardal Cwm Taf, a rhoddwyd y dewis hwnnw iddyn nhw. Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu cynorthwyo i wneud y dewisiadau hynny a dechrau'r sgwrs honno gyda'u bydwraig gymunedol leol. Ond bu hynny'n bwysig gyda gwasanaethau cyfagos.
Nid yw Pen-y-bont ar Ogwr yn yr un sefyllfa â hen ardal Cwm Taf, nid yw'r gwasanaeth mamolaeth yn y fan yna yn destun mesurau arbennig. Rydym ni wedi rhyngweithio'n ddiweddar ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; ni chafwyd unrhyw awgrym bod hynny'n weithred ofynnol ar gyfer y rhan honno o ardal Cwm Taf Morgannwg. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i bobl sy'n mynd i roi genedigaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—nid oes angen iddyn nhw fod ag unrhyw bryderon ynglŷn â faint o welliant sy'n ofynnol yn hen ardal Cwm Taf. Ond wrth gwrs, mae pob rhan o'n gwasanaeth yn cael cyfle i ailystyried yr hyn sydd wedi digwydd, i ailystyried pa welliannau y gallai hi barhau i'w gwneud yn ei gwasanaethau ei hun.
Diolch. Mae pob un o'r prif lefarwyr nawr wedi siarad ar y datganiad hwn, ac mae gennyf nifer o aelodau o hyd sy'n dymuno cyfrannu. Felly, a gaf i ofyn i'r siaradwyr sy'n weddill nawr a fydden nhw'n gwneud cyflwyniad byr i'w un cwestiwn, os gwelwch yn dda? David Melding.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n eithaf syml beth sydd angen i ni ei wybod: pryd ydych chi'n disgwyl y bydd gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddiogel—ddim yn dda, ddim yn rhagorol, ddim yn arwain y sector—pryd fyddan nhw'n ddiogel? Mae'r adroddiad hwn yn dweud bod ffordd bell iawn i fynd. Ac a dweud y gwir, rwy'n cael eich ymagwedd yn hynod oddefol. Nid ydych chi wedi gweithredu, ni wnaethoch chi unrhyw beth ynghylch y prif weithredwr—fe wnaethoch chi aros iddi ymddiswyddo. Rydych chi'n dweud yn bwyllog wrthym ni nawr eich bod o'r farn mai'r bwrdd na allai oruchwylio perfformiad y bwrdd iechyd hwn a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu yw'r un i ddatrys ein trafferthion, a'r unig beth yr ydych chi wedi'i wneud ynghylch yr uwch reolwyr yn hynny o beth yw anfon David Jenkins yno i gadw llygad ar bethau. Rwy'n credu bod angen gwell na hyn, a dweud y gwir. Rydym ni'n dal i gael problemau, yn ôl yr adroddiad hwn, gyda'r broses gwyno ac ymateb i gwynion. Mae angen i'r diwylliant wella'n sylweddol o hyd, nid yw'r staff yn hyderus nac ychwaith y cleifion. Nid yw canllawiau a phrotocolau wedi'u hymsefydlu'n ddigonol eto. Pa fath o gynllun hyfforddi sy'n mynd rhagddo? Pa mor hir y mae hyn yn mynd i bara lle'r ydym ni'n darparu gwasanaethau iechyd nad ydyn nhw'n unol â phrotocolau a chanllawiau? Ac o ran y cynnydd presennol yn y cynllun gwella, darllenais o'r adroddiad fod cyflymdra'r cynnydd wedi dechrau pallu o ddechrau mis Gorffennaf. Gweinidog, mae angen i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb yma, oherwydd yr un peth sydd heb ddigwydd yw ein bod ni wedi cael arweiniad ac egni gennych chi.
Wel, gwrthodaf yn llwyr y cyhuddiad a wnaed gan David Melding. Fel arfer mae'n gwrtais a rhesymol yn hytrach na dangos ymagwedd braidd yn ymfflamychol fel y gwnaeth heddiw. Rwyf wedi ymyrryd yn y bwrdd iechyd. Rwyf wedi sefydlu proses briodol o graffu a goruchwylio annibynnol ar gyfer y gwelliant hwnnw, a byddaf yn parhau i fod yn onest â phobl ynghylch faint o welliant a wneir a'r hyn sy'n dal angen ei wneud. Os edrychwch chi ar yr hyn y mae'r panel ei hun yn ei ddweud am y cynnydd a wnaed, maen nhw eu hunain yn onest am y meysydd lle gwnaed cynnydd ac sydd wedi ymwreiddio a'r meysydd lle gwnaed cynnydd ond lle nad yw eto wedi cyrraedd y sefyllfa lle maen nhw'n barod i roi sêl bendith a dweud bod y cynnydd hwnnw wedi ymwreiddio. Maen nhw hefyd yn glir ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo bob dydd i roi sicrwydd ynglŷn â diogelwch y gwasanaeth. Nid wyf yn mynd i roi rhwydd hynt i neb yn y gwasanaeth iechyd laesu dwylo a chaniatáu i bethau ddigwydd; rwyf wedi gweithredu, rwyf wedi bod yn glir ynghylch beth yw hynny a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl yn onest ac yn agored am y cynnydd a wnaed hyd yma. Ac os oes angen cymorth pellach, dyna ddiben cael panel annibynnol i egluro'r hyn sydd ei angen, yn ogystal â rhyngweithio fy swyddogion, a byddaf yn parhau i weithredu i ddiogelu'r gwasanaeth.
Gweinidog, diolch am eich diweddariad heddiw. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r mater o newid diwylliant. Rydym ni i gyd yn gwybod bod newid diwylliannol yn rhywbeth sy'n anodd iawn ei weithredu, ond mae mor bwysig ac yn sail i'r holl waith sydd angen ei wneud i roi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf ar sail ddiogel a chynaliadwy. Dechreuodd y panel trosolwg ar ei waith ym mis Mai eleni, ac rwy'n gwybod eu bod ar hyn o bryd yn edrych yn ôl dros achosion hanesyddol a oedd yn peri pryder, ond os cyflwynir achosion o bryder gan deuluoedd yn ymwneud â'r cyfnod ar ôl mis Mai eleni, a gaiff y panel ei hysbysu am y rhain, neu a gânt eu trin yn fewnol yn unig gan y bwrdd iechyd? Gofynnaf hyn oherwydd mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweld tystiolaeth o newid diwylliant, ac rwyf yn pryderu os cyflwynir unrhyw achosion newydd posib, a allai awgrymu parhad rhai o'r materion diwylliannol a welsom ni o'r blaen, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi sylw manwl iddyn nhw os ydym ni i fod yn ffyddiog bod y newid diwylliannol hwn yn digwydd mewn gwirionedd ar lawr gwlad.
Rwy'n fodlon ymdrin â hynny. Rydych chi'n gywir ynghylch yr amser y mae newid diwylliannol yn ei gymryd—nid yn unig i ddigwydd, ond i'w gynnal a'i wreiddio yn y gwasanaeth. Mae'n bwysig nodi y dylai'r broses gwyno arferol barhau, felly 'Gweithio i Wella' yw'r ffordd gyntaf o wneud hyn o hyd a gall y Cyngor Iechyd Cymuned gefnogi pobl wrth wneud y cwynion hynny fel arfer. Fodd bynnag, os yw teuluoedd eisiau cyfeirio at y broses adolygu annibynnol, gallant wneud hynny. Fel y dywedais yn fy natganiad, bydd y panel yn ymwneud â phenderfynu a oes angen i'r achosion hynny gael adolygiad annibynnol ai peidio. Felly, nid yw'n wir y bydd angen i bobl ymdrin â'r bwrdd iechyd yn unig; os oes ganddyn nhw bryderon yn y maes hwn, gallant gyfeirio eu hunain a bydd y panel yn rhan o'r broses o benderfynu a oes angen cynnal adolygiad clinigol llawn ai peidio.
Mae fy meddyliau innau hefyd gyda'r holl deuluoedd sydd wedi dioddef colled ddofn a pharhaus. A gaf i ychwanegu at y sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghydweithiwr Dawn Bowden ar fater y gallu i annog a chefnogi chwythwyr chwiban yn y rheng flaen, ond hefyd i annog pobl i roi gwybod am bryderon ar lefel y bwrdd hefyd? Oherwydd y mae'n ymddangos i mi mai un o'r methiannau yma oedd y diffyg hyder i herio ar lefel y bwrdd a'r diffyg gwybodaeth a gyflwynwyd i'r bwrdd hwnnw. A byddwn yn gwerthfawrogi ei farn, gan gofio'r cynnydd a adroddwyd, ond hefyd yr angen am newid sylfaenol ar lefel bwrdd, o ran a ydym ni'n ffyddiog bellach bod aelodau'r bwrdd yn hyderus i herio, i ofyn cwestiynau, i wrth-ddweud, oherwydd mae hynny hefyd yn bwynt o fethiant yn y fan yma ac mae angen inni herio hynny. A yw'n ffyddiog bod y bwrdd bellach yn newid yn sylfaenol yn y modd hwnnw?
Os edrychwch yn ôl at adolygiad cychwynnol y colegau brenhinol, maen nhw'n cydnabod nad oedd yr wybodaeth a gyflwynwyd i'r bwrdd yn ddarlun cyflawn bob amser. Dyma un o'r heriau mawr sy'n wynebu'r sefydliad. Roedd y sylw a wnaed fod y bwrdd wedi cael ffug sicrwydd yn bryder gwirioneddol i mi wrth ddarllen yr adroddiad hwnnw. Pan ddywedais i yn fy natganiad fod llawer o hunanholi wedi bod ar lefel y bwrdd, roedd hynny'n wir iawn. Mae pobl wedi cymryd o ddifrif calon yr hyn sydd wedi digwydd ar eu goruchwyliaeth nhw a'u cyfrifoldeb nhw i'w gywiro.
Mae'r gwaith a wnaeth David Jenkins yn bwysig nid yn unig o ran cynghori'r bwrdd, ond o ran rhoi gwahanol lefel o sicrwydd i mi am y newid yn ymddygiad a dull y bwrdd o weithredu. Felly, maen nhw eisoes yn fwy heriol. Maen nhw eisoes yn chwilio am ragor o wybodaeth ac maen nhw'n glir iawn eu dymuniad eu bod eisiau gweld mwy o aelodau annibynnol yn ymwneud â gwahanol rannau o waith y bwrdd, yn ogystal ag ad-drefnu eu hansawdd, eu diogelwch a'u swyddogaeth o ran risgiau. Fe all hyn swnio, o bryd i'w gilydd, fel symud darnau o gwmpas yn unig, ond mewn gwirionedd mae hyn yn bwysig o ran sut mae sefydliad yn gweithio a beth yw ei swyddogaethau. A dweud y gwir, i'r Aelodau yn y fan hon, rwy'n credu bod David Jenkins wedi cael ei wahodd ac wedi derbyn y gwahoddiad i fynd i'r Pwyllgor Iechyd fel bod cyfle i bobl ei holi'n uniongyrchol am yr ymddygiad a welodd ef a'r symud ymlaen sy'n amlwg wedi bod yn ofynnol o'r ffordd yr oedden nhw wedi gweithio yn flaenorol.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.