Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i atal a mynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn amlinellu ein gweledigaeth ni ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel sy'n diwallu ei hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a ffyniannus. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio, ar draws y sectorau cyhoeddus a'r trydydd sector, i atal digartrefedd, a phryd na ellir ei atal, gwneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth prin, byrhoedlog ac nad yw'n digwydd dro ar ôl tro.
Mae digartrefedd yn golygu llawer mwy na dim ond cysgu ar y stryd. Fe ddangosodd ffigurau gan Crisis yn 2016 fod tua 6 y cant o'r bobl sy'n ddigartref yng Nghymru yn cysgu ar y stryd, gyda 94 y cant arall yn ddigartref ar ffurfiau eraill, er enghraifft, mewn llety dros dro neu anaddas, yn syrffio soffas neu mewn hosteli argyfwng. Mae ein hystadegau ni ein hunain yn dangos bod y galw am wasanaethau yn cynyddu, gyda dros 10,000 o aelwydydd yn ymddangos i awdurdodau lleol yn 2018-19 fel rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, a 11,000 yn ymddangos eu bod nhw eisoes yn ddigartref.
Ni allwn, ac ni ddylem anwybyddu effaith cyni a diwygio lles a'r pwysau y mae hynny'n ei roi ar gyllidebau aelwydydd. Yn y bôn, tlodi sy'n achosi digartrefedd. I gydnabod maint y broblem, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn yn ystod y flwyddyn hon yn unig i atal a lliniaru digartrefedd yn benodol. Serch hynny, mae lefelau digartrefedd yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel yng Nghymru ac nid yw'r achosion sylfaenol yn dangos unrhyw arwydd o arafu, yn arbennig o ystyried yr ansicrwydd economaidd sy'n ein hwynebu ni'n barhaus.
Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Rydym wedi cymryd camau breision ymlaen o ran sefydlu dull ataliol. I raddau helaeth, mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy gyflwyno rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'i rhoi ar waith wedi hynny. Mae'r broses o roi'r Ddeddf ar waith gan awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac ers 2015 mae dros 23,000 o aelwydydd wedi eu hatal rhag bod yn ddigartref. Dros y cyfnod hwnnw, mae awdurdodau lleol, sydd ar flaen y gad yn ein hagenda atal ni, wedi gwneud gwaith clodwiw yn cynnal cyfraddau atal yn wyneb galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol mwy eang. Eto i gyd, er bod cyfraddau atal yn parhau'n uchel ar 68 y cant yn 2018-19, yn achos llawer gormod ohonynt nid yw digartrefedd yn cael ei atal ac maent yn syrthio drwy'r rhwyd.
Y gwir amdani yw ein bod ni, er gwaethaf y fframwaith deddfwriaethol newydd a'n buddsoddiad sylweddol o ran arian a pholisi, yn ymladd yn erbyn y llanw. Er ein bod ni wedi cyflwyno dulliau ffres a newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel tai yn gyntaf, ac yn eu croesawu nhw'n gyfan gwbl, rydym yn dal i ganolbwyntio'n ormodol ar ymyriadau acíwt a rheoli argyfwng. Mae ystadegau'r wythnos diwethaf ar farwolaethau oherwydd digartrefedd yn dangos y canlyniadau annerbyniol a thrasig sy'n dod o fethu â chefnogi'r rhai yn y sefyllfaoedd mwyaf enbyd a bregus. Ond, yn yr un modd, rydym yn deall na fyddwn ni'n mynd i'r afael â phob math o ddigartrefedd heb inni lwyddo i orchfygu cysgu ar y stryd yn ein cymdeithas ni.
Fe ddaeth yr amser inni edrych o'r newydd ar ein dull ni o weithredu. Ataliad yw ethos ein deddfwriaeth ni, ond rydym i gyd yn gwybod bod ataliadau gwirioneddol yn dechrau'n llawer cynharach na 56 diwrnod. Mae ataliad gwirioneddol yn galw am ddull cyfannol ar draws y sector cyhoeddus: nid mater o dai yn unig yw hyn; mae'n cynnwys yr holl wasanaethau cyhoeddus. Mae ataliad gwirioneddol yn golygu sicrhau y caiff deddfwriaeth digartrefedd ei hystyried, fel y dylid, yn rhwyd ddiogelwch ar y diwedd pan fo'r holl gamau ataliol eraill wedi methu.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd, ond mae'n rhaid i ni fod yn eglur o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol. Yn yr amgylchiadau prin hynny lle na ellir atal digartrefedd, fe fyddwn ni'n ceisio lleihau'r niwed y mae'n ei achosi, gan ganolbwyntio ar ailgartrefu'n gyflym a sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd dro ar ôl tro. Er mwyn cyflawni hyn, ein dull ni o weithredu fu cefnogi'r rhai sy'n ddigartref ar hyn o bryd i gael llety hirdymor ac addas, gan leihau'n sylweddol lif yr unigolion a'r teuluoedd sy'n mynd yn ddigartref neu mewn perygl o hynny. Bydd hyn yn golygu y byddwn ni, dros amser, yn symud ein hymdrechion a'n hadnoddau oddi wrth ddatrysiadau dros dro a llety argyfwng tuag at ddulliau ataliol cynharach a datrysiadau tai hirdymor.
Mae'r datganiad polisi strategol yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn darparu'r fframwaith polisi i bawb sy'n gweithio gyda ni i wireddu ein huchelgais. Mae'r datganiad a'r egwyddorion polisi y mae'n eu nodi wedi cael eu llywio gan drafodaeth yn y grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar ddigartrefedd, sy'n cynnwys arbenigedd o'r trydydd sector, yn ogystal ag uwch swyddogion gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, addysg ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Ategir y datganiad gan gynllun gweithredu blynyddol, a fydd yn nodi'r mesurau a gymerir ar draws y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid, i fynd i'r afael â digartrefedd. Caiff y cynllun gweithredu ei ddiweddaru'n flynyddol a chaiff adroddiadau cynnydd blynyddol eu cyhoeddi yn ôl cynllun y flwyddyn flaenorol. Bydd y cynllun gweithredu cyntaf yn cael ei lywio gan waith y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd arbenigol a sefydlais i ym mis Mehefin eleni.
Mae'r grŵp, a gadeirir gan Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis, wedi cael y dasg o roi cyngor ac argymhellion i Lywodraeth Cymru ar nifer o feysydd allweddol. Mae'r grŵp gweithredu wedi cyfarfod bedair gwaith eisoes ac mae'n gweithio'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n gwneud ei waith yn gyflym dros gyfnod o naw mis, gan adrodd ar bwyntiau allweddol rhwng nawr a mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r grŵp eisoes wedi rhoi'r cyntaf o'u hadroddiadau i mi ddoe. Mae hwnnw'n edrych yn benodol ar y camau y mae'n eu hargymell i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd y gaeaf hwn. Byddaf yn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i'w hadroddiad a'u hargymhellion gan adlewyrchu'r brys sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r math hwn o ddigartrefedd sydd fwyaf enbyd a niweidiol.
Mae'r datganiad polisi strategol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn nodi ein huchelgais ni i wneud digartrefedd yn rhywbeth prin. Mae'n amlwg, pan ddigwydd, y dylai fod yn rhywbeth byrhoedlog. Dylai unigolion neu aelwydydd gael eu cefnogi i gael llety eto'n gyflym, gyda digon o gymorth i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn ddigartref eto. Mae'n hanfodol ein bod yn sefydlu aelwydydd a fydd yn llwyddo, nid chwalu.
I hynny ddigwydd, mae angen inni helpu pobl mewn argyfwng fel y gallan nhw gael lle mewn llety hirdymor ar frys a ffynnu yn y fan honno. Mae'n hen bryd inni gydnabod yr angen i symud i ffwrdd oddi wrth y model grisiau o ennill gwobrau ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau. Rydym yn ymdrechu i ail-lunio gwasanaethau drwy ddull o ailgartrefu cyflym, gan symud canolbwynt ein polisi, ein hymarfer a'n hadnoddau tuag at atebion hirdymor a arweinir gan dai, yn hytrach na darparu gwasanaethau brys, dros dro a hostelau. Rydym wedi cychwyn arni'n dda iawn gyda'n rhaglen Tai yn Gyntaf, lle y byddwn yn buddsoddi £1.6 miliwn eleni. Er hynny, dim ond un agwedd ar ddull ailgartrefu cyflym yw Tai yn Gyntaf. Mae angen inni weithredu hefyd ar sail systemau cyfan os ydym eisiau newid ein model ni o gyflenwi gwasanaethau. Dyma un o'r meysydd lle gallaf edrych ymlaen at gael cyngor y grŵp gweithredu i helpu i nodi sut y gallwn gyflawni hynny.
Felly, gadewch imi egluro, Dirprwy Lywydd: ni ellir atal digartrefedd yn unig drwy dai. Agwedd allweddol ar ddull gweithredu system gyfan yw'r cymorth cofleidiol i unigolion, yn arbennig o ran gwasanaethau iechyd. Mae hyn yn gofyn am fodelau amgen i ddarparu gwasanaethau a fydd yn eiddo i, ac yn cael eu hariannu gan, wasanaethau cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, gofal sylfaenol, diogelwch cymunedol a thai, a thimau amlddisgyblaethol arbenigol i gynorthwyo unigolion i fynd i'r afael â'u hanghenion nhw ac i ddefnyddio dull sydd wedi'i lywio gan drawma. Mae dull gwirioneddol ataliol yn dechrau cyn i unigolyn neu deulu fod mewn perygl o ddigartrefedd. Mae'n ymwneud â'r dull system gyfan hwnnw ac yn golygu buddsoddi mewn camau ataliol sylfaenol ac eilaidd.
Mae ein dull ni o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn gwneud hynny'n union. Mae'r dulliau ataliol sylfaenol ar waith ers amser, gyda chefnogaeth diwygio addysgol i geisio cyflawni pedwar diben ein cwricwlwm newydd a chyflwyno'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles. Bydd gwaith ataliol eilaidd, drwy'r gwasanaeth ieuenctid ac mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid, yn ceisio cefnogi pobl ifanc sy'n dechrau arddangos rhai o'r ffactorau risg a all arwain at ddigartrefedd. Bydd buddsoddi mewn gwasanaethau yn ystod y cyfnod cynnar hwn i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd yn mynd i'r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu.
Mae gan yr holl wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector eu rhan i chwarae i wireddu'r weledigaeth hon, ac rwy'n galw ar bawb yma yn y Siambr hon a'r holl arweinyddion yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i addo gweithio'n unol â'r egwyddorion polisi hyn. Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd, fe allwn ni ac fe fyddwn ni yn atal digartrefedd, ac fe allwn ni ac fe fyddwn ni'n dod â digartrefedd i ben yng Nghymru.