Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 8 Hydref 2019.
Mae'r darlun o ddigartrefedd yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod â chywilydd mawr ohono. Mae mwy o bobl wedi marw ar strydoedd Cymru a Lloegr yn y pum mlynedd diwethaf na holl golledion Byddin Prydain yn rhyfeloedd Afghanistan ac Irac. Dewis yw digartrefedd, nid damwain mohoni, ac fe allwn ni ddewis gwneud rhywbeth yn ei gylch, neu fe allwn ni ddewis gwneud dim.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gweithio o'r diwedd gyda Crisis i weithredu cynlluniau sy'n anelu at ddileu digartrefedd. Bydd dileu digartrefedd yn arbed arian. Bydd gweithredu adroddiad Crisis yn costio tua £900 miliwn i Gymru dros yr 20 mlynedd nesaf, ond fe fydd yn dod â manteision o £1.5 biliwn. Ar gyfer y DU gyfan, mae'r ffigurau hyd yn oed yn fwy, gyda gwariant o £40 biliwn yn angenrheidiol i gael manteision o £60 biliwn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithredu argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ac adroddiad Crisis yn eu cyfanrwydd.
Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer pob unigolyn digartref—mae pob unigolyn yn unigryw. Mae'n amlwg bod rhywun sydd â phroblemau difrifol o ran camddefnyddio sylweddau yn gofyn am ddull a chymorth gwahanol i rywun sy'n ddigartref oherwydd cam-drin domestig, ac fe fydd arnyn nhw yn eu tro angen cymorth gwahanol i rywun sydd mewn gwaith ac wedi cael ei droi o'i gartref.
Felly, hoffwn i weld cynllun gweithredu clir sy'n gwneud y canlynol: yn gyntaf oll, yn hytrach nag angen blaenoriaethol, rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llety diogel a chymorth i bawb y gwelir eu bod nhw'n ddigartref, ynghyd â'u dyletswyddau i atal digartrefedd; ariannu rhaglenni allgymorth a llety mewn argyfwng i dynnu'r rhai sy'n cysgu allan oddi ar y strydoedd; mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n defnyddio llochesi drwy ddiwygio'r llochesi a'r amgylchedd a all fodoli mewn llochesi; darparu amrywiaeth o wahanol fathau o lety y gall pobl ddigartref fynd iddyn nhw fel bod mannau diogel ar gael i bawb; diogelu a chynyddu'r cyllid ar gyfer yr holl lochesi a'r llochesi ar gyfer y rheini sy'n dianc rhag perthynas lle mae camdriniaeth yn digwydd; adolygu a chynyddu'r gefnogaeth i gyllideb Cefnogi Pobl, sy'n helpu i atal digartrefedd; a chefnogi darparwyr datrysiadau Tai yn Gyntaf i'r bobl ddigartref hynny sydd â'r anghenion mwyaf dyrys.
Rwy'n croesawu'r sylw a roddwyd i gysgu ar y stryd yn ystod y gaeaf yn eich datganiad chi, gan fod y mater hwn wedi cael ei ddisgrifio fel trychineb cenedlaethol gan Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis. Roeddech chi'n sôn eich bod wedi cael argymhellion gan arbenigwyr o'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd ddoe ar y broblem benodol hon, ac y byddwch chi'n ymrwymo i'w hystyried nhw ar fyrder. Rwy'n gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gymorth i weld gostyngiad yn effaith niweidiol tywydd y gaeaf ar y rhai sy'n cysgu allan eleni.
Felly, cwestiynau, Gweinidog: sut y gallwch chi fy sicrhau eich bod am gymryd argymhellion ddoe ac unrhyw argymhellion yn y dyfodol gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd o ddifrif? A sut y byddwch chi'n monitro llwyddiant y Llywodraeth wrth weithredu'r argymhellion yn y gwanwyn?
Un darn o ddeddfwriaeth arbennig o ddinistriol sy'n ymwneud â'r rhai sy'n cysgu allan yw Deddf Crwydreiaeth 1824, sy'n gorfodi'r rhai sy'n cysgu ar y stryd i symud o ganol dinasoedd. Mae trin pobl ddigartref fel troseddwyr am eu bod nhw'n cysgu allan ac yn cardota yn rhywbeth o'r oes o'r blaen ac mae'n achosi i unigolyn digartref golli unrhyw urddas a allai fod ganddo o hyd. Fe hoffwn i, fel llawer un arall, weld y Ddeddf Crwydreiaeth yn cael ei diddymu gan ei bod hi'n weithredol yng Nghymru. Ond hyd nes y digwydd hynny, fe hoffwn i wybod pa drafodaethau swyddogol sydd wedi bod gyda'r heddlu ynghylch gweithredu'r Ddeddf hon. A yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau i'r heddluoedd a'r awdurdodau lleol yng Nghymru i annog a hyrwyddo dulliau mwy caredig o helpu pobl ddigartref, yn hytrach na gorfodi'r Ddeddf Crwydreiaeth ymhellach? Fe allen nhw, er enghraifft, benderfynu peidio â gorfodi Deddf Crwydreiaeth yn eu gweithrediadau nhw. A fyddech chi'n cefnogi cymryd cam o'r fath?