Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn i chi am y pwyntiau hynny. Unwaith eto, rydym ni'n gytûn i raddau helaeth—ar y pwynt olaf, yn bendant. Rydym yn gweithio ar ddau beth o ran y Ddeddf Crwydreiaeth. Yn gyntaf, pa mor bell y gallwn ni fynd yng Nghymru i ddatgymhwyso'r Ddeddf—ni allwn ei diddymu, ond pa mor bell y gallwn ni fynd i'w datgymhwyso'n ffurfiol. Ac yna, yn ail, i ba raddau y gallwn ni weithio gyda phartneriaid i sicrhau nad yw'r Ddeddf yn cael ei defnyddio, hyd yn oed pan nad ydym wedi gallu gwneud hynny'n ffurfiol. Felly, gallaf eich sicrhau bod y rhain yn drafodaethau sy'n digwydd yn barhaus. Rwyf i o'r un farn â chi ei bod hi'n perthyn i'r oes o'r blaen ac yn ddull hynod ddigydymdeimlad o drin pobl mewn sefyllfa fregus.
Yn ogystal â hynny, rydym yn gobeithio cyflwyno ein dull ni o weithredu yn seiliedig ar drawma ar draws y gwasanaethau cyhoeddus mor gyflym â phosibl. Felly, mae sicrhau bod yr hyfforddiant yn seiliedig ar drawma ar gael i'r heddlu, sydd ar y llinell flaen, a'r amrywiaeth o dimau yng nghanol dinasoedd, a'r math hwnnw o beth, yn rhan bwysig o hyn hefyd. Felly, rwyf i o'r un farn â chi yn hynny i gyd.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad y grŵp gweithredu tua dechrau'r wythnos nesaf a byddaf yn rhoi datganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad yn amlinellu'r camau y byddwn ni'n eu cymryd wrth ymateb i hynny ar yr un pryd. Felly, bydd gennych chi'r adroddiad yn ysgrifenedig, Dirprwy Lywydd, gyda datganiad ysgrifenedig gennyf i yn dweud beth fydd y camau cyntaf i fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n awyddus iawn i fod yn atebol am fy ngweithredoedd ynglŷn â hyn, ac felly byddwn yn cyhoeddi'r camau gweithredu a'r amserlenni, ac yna—rwy'n disgwyl bod Aelodau'r Cynulliad i gyd o'r un meddylfryd yn hyn o beth—sicrhau ein bod ni'n gweithio mor gyflym â phosibl i gael gwared ar y pla o gysgu ar y stryd.
Yna, rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad Leanne Wood ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud. Felly, ar hyn o bryd mae gennym ddarn o waith ymchwil academaidd sy'n cael ei wneud ynglŷn â disodli angen blaenoriaethol, y rhaglenni allgymorth ac ati. Pan welwch chi adroddiad y grŵp gweithredu, fe welwch eu bod nhw o'r un meddylfryd i raddau helaeth iawn—nid oes dim yn annisgwyl yn hynny—ac fe fyddwn yn ystyried pa fesurau dros dro y gallwn ni eu cyflawni i gael gwared ar rai o'r rhwystrau yn y byrdymor wrth inni roi'r fframwaith deddfwriaethol ar waith i wneud hynny yn y tymor hwy.
Ond y peth sylfaenol yw tywys gweinyddwyr y system, yn eu calonnau a'u meddyliau, hyd at y safbwynt sy'n gymwys. Nid yw'r deddfu'n ddigonol heb i bawb fod o'r un meddylfryd. Felly, mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol yn benodol, eu grwpiau digartrefedd, ynghylch yr hyn y maen nhw'n eu gweld yn rhwystrau a sefydlu'r meddylfryd cywir yn eu plith nhw ac, ochr yn ochr â'm cydweithiwr Vaughan Gething, sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yno gyda'i gilydd ar yr un pryd. Oherwydd, nid oes dim yn annisgwyl yn hyn, Dirprwy Lywydd, os ydych chi'n cael eich hunan yn ddigartref, buan iawn y byddwch chi'n sylwi bod eich iechyd meddwl yn gwaethygu, hyd yn oed pe bai'n berffaith iach ar y dechrau. Mae pob un ohonom yn yfed gwydraid o win o bryd i'w gilydd os ydym wedi cael diwrnod annifyr. Mae pobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio hynny'n troi'n gyflym iawn at fathau eraill o sylweddau i'w defnyddio ar gyfer lleddfu'r sefyllfa annerbyniol y maen nhw ynddi. Ni allwch ond cydymdeimlo â nhw. Gyda'n gilydd, fe allwn ni sicrhau bod y gwasanaethau angenrheidiol yn eu cofleidio ar gyfer rhoi eu bywyd ar y trywydd iawn unwaith eto.