Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 8 Hydref 2019.
Wel, rwy'n credu i chi nodi rhai o'r materion yr ydym ni'n ymdrin â nhw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n anghytuno â rhai o'r datrysiadau y gwnaethoch chi eu cyflwyno. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i sefydlu'r llwybrau ar gyfer cyn-garcharorion. Mae'r llwybr yn ddigonol. Rydym wedi rhoi prawf arno. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod pawb yn ei weithredu yn y ffordd gywir. Ar hyn o bryd mae gennym ni grŵp gorchwyl a gorffen yn gweithio yma yng Nghaerdydd i weld pa rwystrau sydd i weithrediad y llwybr, a phan fydd y gwaith hwnnw wedi ei gwblhau, byddaf i'n diweddaru'r Senedd yn unol â hynny, fel na fyddwn ni'n rhyddhau pobl o'r ddalfa i ddigartrefedd. Felly, rwy'n cytuno â hynny i raddau helaeth.
O ran y cyfraddau ar gwblhau tai, maen nhw wedi gostwng yn y chwarter olaf, ond mae hynny oherwydd ein bod ni ar fin profi dirwasgiad. Rydym wedi cael nifer o gwmnïau adeiladu bach a chanolig yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar iawn, ac rwy'n ofni bod hynny o ganlyniad uniongyrchol i Brexit a'r gostyngiad yng nghyfraddau'r bunt. Felly, rwy'n ei chael hi'n eironig iawn eich bod chi'n fy nghyhuddo i o fod â rhywfaint o ran yn hynny. Oherwydd os siaradwch chi â chwmnïau bach a chanolig, yn benodol, maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw broblem wirioneddol o ran cael gweithwyr a chael deunyddiau am y prisiau iawn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eironig tu hwnt yn wir.
O ran y galw, fel y dywedais wrth ateb Mike Hedges, rydym yn adeiladu cymaint o dai fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol ag y gallwn ni. I egluro, rydym wedi cyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn rhwydd iawn. Felly, nid ydym wedi methu yn ein targed ni ein hunain. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw uwchraddio ein targed er mwyn ateb y galw cynyddol yr ydym ni'n ei weld. Felly, hoffwn i fod yn eglur iawn ynglŷn â hynny.
Mae problemau'n bodoli ynghylch cyfamod y lluoedd arfog. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu comisiwn yr ydym ni'n awyddus iawn i gydweithio'n agos ag ef. Mae fy nghydweithwraig Hannah Blythyn wedi bod yn cydweithio'n agos i sicrhau ein bod ni'n cadw ein dyletswyddau ni yn ôl y cyfamod ar gyfer personél y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Mae Cymru yn rhoi cyfran uwch o'i phoblogaeth i'r lluoedd arfog na'r budd a gawn ni drwy fuddsoddiad y fyddin, felly rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r cylch hwnnw'n ôl yn ei le.
Dirprwy Lywydd, pe caf i ond dweud—. Rydw i wedi bod yn meddwl sôn am hyn sawl gwaith erbyn hyn wrth i bobl ei godi: rwy'n cytuno'n gryf nad yw pobl ifanc 18 oed o reidrwydd yn abl i edrych ar eu holau eu hunain yn eu llety. Un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w wneud yw gweithio'n galed iawn ar y sgiliau sydd eu hangen ar bobl os ydyn nhw'n cael eu rhoi mewn llety. Rhaid pwysleisio nad oes a wnelo hyn â bod yn brin o lety i'w roi i bobl. Mae a wnelo hyn â bod yn brin o sgiliau, arian, cyflenwadau ac ati i'w cadw nhw yno. Nid oes pwynt i mi roi fflat i chi os nad oes ynddo welyau neu lestri neu lenni. Ni fyddwch chi'n gallu aros mewn lle felly. Ond hefyd, mae'n rhaid chi fod â'r sgiliau i allu talu biliau'r cyfleustodau a'r rhent ac ati. Felly, yn amlwg, fel y dywedais i o'r blaen, mae hwn yn ddull system gyfan o atal digartrefedd.