Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer teithio rhatach ar fysiau yng Nghymru. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig cyn toriad yr haf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru a Bil sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae sawl elfen i'r ddeddfwriaeth arfaethedig, ac mae'r rhain i gyd yn cael eu creu i wella teithio ar fysiau yng Nghymru. Bydd yn rhoi darpariaethau ar waith a fydd yn darparu cyfres o ddulliau i awdurdodau lleol ystyried eu defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, gan gynnwys gwell trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, masnachfreintiau a gwasanaethau bysiau a weithredir gan awdurdodau lleol.
Bydd yn rhoi trefniadau rheoli a rhannu gwybodaeth newydd ar waith fel y bydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn fwy dibynadwy ac yn haws i'r cyhoedd gael gafael arni, a bydd awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i wneud trefniadau i fynd i'r afael â newidiadau yn narpariaeth gwasanaethau. Bydd hefyd yn diwygio'r oedran cymhwysedd ar gyfer y cynlluniau pris teithio rhatach gorfodol a dewisol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i siarad â chi am hyn yn fwy manwl heddiw.
Mae'r cynllun pris teithio rhatach gorfodol wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Fe'i cyflwynwyd yn 2002, pan ddaeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno teithio ar fysiau am ddim i bobl wedi ymddeol yma yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn ymrwymedig o hyd i'r egwyddorion a fu'n sail i'r cynllun yng Nghymru dros yr holl amser yna, gan roi cyfle i bobl hŷn a phobl anabl, sy'n cynnwys rhai o gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol, deithio am ddim ar fysiau yn unrhyw le yng Nghymru ar wasanaethau bysiau a drefnwyd yn lleol.
Mae nifer y teithwyr â thocynnau teithio rhatach gorfodol wedi cynyddu ers cyflwyno'r cynllun yn 2002. Ar hyn o bryd, mae deiliaid cardiau'n cynrychioli tua 47 y cant o'r holl deithiau ar fysiau, ac mae bron i dri chwarter miliwn o'r tocynnau mewn cylchrediad.