– Senedd Cymru am 4:22 pm ar 8 Hydref 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio rhatach, a galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer teithio rhatach ar fysiau yng Nghymru. Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig cyn toriad yr haf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau ar gyfer diwygio bysiau yng Nghymru a Bil sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae sawl elfen i'r ddeddfwriaeth arfaethedig, ac mae'r rhain i gyd yn cael eu creu i wella teithio ar fysiau yng Nghymru. Bydd yn rhoi darpariaethau ar waith a fydd yn darparu cyfres o ddulliau i awdurdodau lleol ystyried eu defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, gan gynnwys gwell trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, masnachfreintiau a gwasanaethau bysiau a weithredir gan awdurdodau lleol.
Bydd yn rhoi trefniadau rheoli a rhannu gwybodaeth newydd ar waith fel y bydd gwybodaeth i'r cyhoedd yn fwy dibynadwy ac yn haws i'r cyhoedd gael gafael arni, a bydd awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i wneud trefniadau i fynd i'r afael â newidiadau yn narpariaeth gwasanaethau. Bydd hefyd yn diwygio'r oedran cymhwysedd ar gyfer y cynlluniau pris teithio rhatach gorfodol a dewisol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i siarad â chi am hyn yn fwy manwl heddiw.
Mae'r cynllun pris teithio rhatach gorfodol wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Fe'i cyflwynwyd yn 2002, pan ddaeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno teithio ar fysiau am ddim i bobl wedi ymddeol yma yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn ymrwymedig o hyd i'r egwyddorion a fu'n sail i'r cynllun yng Nghymru dros yr holl amser yna, gan roi cyfle i bobl hŷn a phobl anabl, sy'n cynnwys rhai o gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol, deithio am ddim ar fysiau yn unrhyw le yng Nghymru ar wasanaethau bysiau a drefnwyd yn lleol.
Mae nifer y teithwyr â thocynnau teithio rhatach gorfodol wedi cynyddu ers cyflwyno'r cynllun yn 2002. Ar hyn o bryd, mae deiliaid cardiau'n cynrychioli tua 47 y cant o'r holl deithiau ar fysiau, ac mae bron i dri chwarter miliwn o'r tocynnau mewn cylchrediad.
Yn anochel, mae llwyddiant y cynllun wedi arwain at gynnydd yng nghostau'r cynllun. Gyda newidiadau i'n demograffeg poblogaeth ers cyflwyno'r cynllun, ein gwir her nawr yw sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy ac yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol. Mae rhagamcaniadau'n dangos y bydd nifer y bobl sy'n gymwys i deithio am ddim o dan y cynllun presennol yn 880,000 erbyn 2021 a thros filiwn erbyn 2030. Mae'r cynnydd hwn o bosibl yn peryglu hyfywedd y cynllun yn y dyfodol.
Mae proffil oedran ein poblogaeth yn cynyddu. Mae'r rhai dros 60 yn gynyddol weithgar, yn gorfforol ac yn economaidd. Dyna pam rydym ni wedi bod yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer rheoli costau cynyddol heb effeithio ar gymhwysedd y bobl hynny sydd â hawl ar hyn o bryd i gael tocyn teithio rhatach, mewn ffordd sy'n sicrhau cynllun teg sy'n cyflawni ein bwriadau polisi yn y tymor hir. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gadw'r hawl i deithio am ddim ar unrhyw adeg ac rydym yn cydnabod ei bwysigrwydd i annibyniaeth deiliaid cardiau, ond mae'n rhaid inni hefyd ystyried gwneud newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr newydd er mwyn cadw'r cynllun yn gynaliadwy.
Felly, rydym yn bwriadu cynyddu'r oedran ar gyfer cael yr hawl i gael cerdyn teithio rhatach dros nifer o flynyddoedd yn raddol er mwyn ei gysoni ag oedran pensiwn y wladwriaeth yn y pen draw. Bydd cynnydd graddol yn yr oedran ar gyfer cael yr hawl yn golygu na fydd newid sydyn. Ni fydd yn rhaid i'r bobl hynny fydd bron yn 60 pan fydd y newidiadau'n dod i rym ac yn disgwyl derbyn eu cerdyn teithio pan fyddant yn 60 orfod aros nes iddyn nhw gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth i gael un. Gyda chynnydd graddol yn yr oedran cymhwysedd, bydd y bobl hynny yn cael cerdyn teithio cyn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth. Rydym hefyd yn cynnig gwneud diwygiadau tebyg i gymhwysedd ar gyfer cynlluniau consesiynau dewisol sy'n cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol. Wrth wneud y diwygiadau hyn i'r cynllun gorfodol, byddwn yn gallu parhau i gynnig cynllun sy'n fwy hael nag yn Lloegr, lle gall deiliaid cerdyn teithio ddal unrhyw fws ar unrhyw adeg yng Nghymru am ddim.
Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd pryderon ynghylch y cynigion hyn, gan gynnwys yr hyn y maen nhw'n ei olygu i ddeiliaid cerdyn teithio presennol. Fodd bynnag, hoffwn ei gwneud hi'n gwbl glir na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach pan wneir y newidiadau i'r gyfraith yn colli ei hawl i'r cerdyn teithio hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i'r gofynion preswyliaeth ar gyfer y cynlluniau yng Nghymru. Cyfyngir cymhwysedd i berson hŷn neu anabl y mae ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yn ardal yr awdurdod. Ar hyn o bryd, mae gan y rhai sy'n 60 oed a throsodd hawl i wneud cais am drwydded os oes ganddyn nhw breswylfa mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Ar ôl i'r newidiadau newydd ddod i rym, dim ond y bobl hynny sydd â'u hunig breswylfa neu eu prif breswylfa yng Nghymru fydd yn gymwys i gael trwydded. Unwaith eto, bydd unrhyw berson sydd ar hyn o bryd yn meddu ar drwydded nad yw ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa yng Nghymru yn cadw ei gerdyn teithio nes iddo ddod i ben. Ni fydd y newidiadau a ddaw yn sgil y darn hwn o ddeddfwriaeth yn dod i rym cyn Ebrill 2022. Felly, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw un sy'n cyrraedd 60 oed cyn y dyddiad hwn.
Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw teithio am ddim ar ei ben ei hun yn ddigon i gymell teithwyr i ffeirio eu ceir am drafnidiaeth gyhoeddus. Ymhlith pethau eraill, mae gwell dibynadwyedd o ran bysiau, gwell integreiddio a gwybodaeth hygyrch hefyd yn ffactorau allweddol a all ein helpu ni i gyflawni'r newid hwn. Nod ein casgliad ehangach o fesurau diwygio bysiau, yn ddeddfwriaethol ac yn anneddfwriaethol, a'n huchelgeisiau o ran y Metro aml-foddol yw mynd i'r afael â'r pryderon hyn. Felly, er bod temtasiwn i edrych ar y cynllun tocynnau teithio rhatach ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl ar eu pen eu hunain, mae'n gwbl hanfodol ei ystyried mewn cyd-destun ehangach o lawer er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
Hoffwn droi at bwnc ar wahân ond sy'n gysylltiedig â'r rhaglen i adnewyddu cardiau teithio rhatach, a ddechreuodd ar 11 Medi, ac y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei chynnal ar ran y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Ers lansio'r rhaglen adnewyddu, mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn dros 210,000 o geisiadau ar-lein erbyn hyn, sef tua 95 y cant o'r holl geisiadau a dderbyniwyd hyd yn hyn. Oherwydd y cynnydd enfawr yn y galw yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, cafodd y wefan ei thynnu i lawr ac yn ystod y cyfnod hwn, crëwyd llawer mwy o gapasiti a chynhaliwyd profion capasiti helaeth, mewn partneriaeth ag Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Roedd ceisiadau papur ar gael i'w lawrlwytho o wefan Trafnidiaeth Cymru, drwy'r post ar gais drwy'r llinell gymorth, a hefyd, wrth gwrs, ar gael drwy'r awdurdodau lleol.
Mae awdurdodau lleol wedi cymryd rhan ym mhob cam o'r gwaith dylunio ac adeiladu dros y naw mis diwethaf. Mae bwletinau rheolaidd wedi'u dosbarthu i awdurdodau lleol a phartneriaid er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw drwy gydol y rhaglen er mwyn darparu cymaint o gymorth â phosibl. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymateb i ymholiadau gan filoedd o aelodau'r cyhoedd, cyfryngau Cymru a chydweithwyr etholedig i'w sicrhau bod digon o amser i wneud cais a bod y cardiau teithio bws presennol yn ddilys tan 31 Rhagfyr eleni. Rwyf wedi bod yn fodlon â'r lefel o ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, gan ddangos diffuantrwydd a thryloywder a dull gweithredu cysylltiedig, yr wyf yn ei groesawu'n fawr.
Mae'r rhaglen wedi cael ei rhannu'n eang ar gyfryngau cymdeithasol, sydd wedi creu nifer fawr o geisiadau ac ymholiadau gan ymgeiswyr a'r rhai sy'n gwneud cais ar ran pobl. Mae tîm Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi awdurdodau lleol a chydweithwyr, a bydd yn mynd i ddigwyddiadau cymunedol a lleoliadau perthnasol wrth i'r rhaglen barhau drwy'r hydref hwn. Rwy'n annog cydweithwyr i gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes digwyddiadau lleol a chyfarfodydd yn cael eu cynnal er mwyn iddyn nhw gael cyfle i hyrwyddo'r newidiadau ymhellach ar draws cymunedau, wyneb yn wyneb.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar ddwy agwedd yn gysylltiedig â theithio rhatach. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydych chi wedi ystyried rhai o'r pryderon a fynegwyd i osgoi'r canlyniadau anfwriadol i ddeiliaid cardiau megis gofalwyr a phobl hŷn sydd â phroblemau iechyd neu anableddau. Byddwn hefyd yn ddiolchgar am ragor o fanylion ynghylch sut rydych chi wedi ystyried yr effeithiau negyddol posibl ar hyfywedd gwasanaethau bws os yw'n arwain at ddefnyddio llai o fysiau a'r effaith bosibl ar yr amgylchedd os gwelwn newid moddol o bobl dros 60 efallai'n mynd yn ôl at yrru ceir wedyn yn hytrach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf fod hyn yn rhywbeth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill wedi'i nodi fel canlyniad posibl, felly a wnewch chi ddweud ychydig yn rhagor am yr ymchwil y cyfeiriasoch ato yn eich datganiad sy'n awgrymu na fydd hyn yn digwydd.
Rwy'n falch o glywed bod y problemau ynghylch y wefan tocynnau teithio rhatach wedi cael eu datrys. Rwy'n deall y byddai cefnogaeth gynhwysfawr ar gael drwy'r gwasanaethau cymdeithasol a llyfrgelloedd, ynghyd â cheisiadau ar-lein. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni chafodd lawer o gynghorau gopïau papur o'r ffurflenni cais i'w dosbarthu i'w llyfrgelloedd a'u canolfannau cymunedol tan yr wythnos a oedd yn dechrau ar 23 Medi, neu hyd yn oed yn ddiweddarach mewn rhai achosion. Tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth ynghylch pam ddigwyddodd hynny. Byddai'n ddefnyddiol gwybod beth mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn ei wneud i hysbysebu'r newid. A fydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â phobl yn uniongyrchol pan na fyddant wedi cael cais gan eu bod yn gwybod bod pobl yn gymwys drwy eu cronfa ddata a'u gwybodaeth eu hunain? O ganlyniad i fethiant y wefan, a roddwyd unrhyw ystyriaeth i ymestyn y cyfnod ar gyfer gwneud cais a, beth bynnag, a fydd cyfnod caniataol ar ôl 1 Ionawr? Os felly, am ba hyd fydd y cyfnod caniataol hwnnw'n para?
Hoffwn hefyd ofyn i chi, Gweinidog, i ddweud sut rydych chi'n ceisio sicrhau nad yw'r cynigion yn gwaethygu'r anawsterau trawsffiniol sy'n wynebu'r deiliaid tocynnau teithio rhatach hynny sydd â gofynion teithio penodol sy'n golygu teithio ar draws ffiniau. Mae hyn, wrth gwrs, yn bryder arbennig i etholaethau ar y ffin—fel fi ac fel chi eich hun. Rwy'n meddwl yn arbennig am ofal iechyd, er enghraifft. Mae llawer o'm hetholwyr yn mynd dros y ffin i gael gofal iechyd, i Loegr. Yn olaf, ac fel y dywedais o'r blaen, pobl ifanc sy'n tueddu i fod â'r cyflogau isaf a'r mae'r yswiriant car drutaf, ac mae costau teithio'n rhwystr sylweddol rhag cyrraedd swyddi a chyfleoedd hyfforddi. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried rywbryd y syniad o gyflwyno cynllun, fel yr un yr wyf wedi'i hybu fy hun yn y gorffennol, i ddarparu'r un consesiynau teithio i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed?
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad adeiladol iawn, a'i gwestiynau? Byddaf yn cymryd pob un yn ei dro, mor gryno ag y gallaf, Llywydd. Yn gyntaf oll, o ran yr ymgynghoriadau sydd wedi digwydd—ac mae sawl ymgynghoriad wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—rydym wedi ceisio ymdrin â'r holl bryderon y mae unigolion a sefydliadau sy'n cynrychioli teithwyr wedi eu cyflwyno. Mae Russell George yn codi'r pwynt pwysig am rai unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig neu ofalwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Byddwn yn dychmygu, o dan y cynllun dewisol, y byddai'r un broses ymgeisio a'r un ystyriaethau'n cael eu datblygu, fel na ddylai pobl fod mewn sefyllfa lle na allan nhw gynorthwyo'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, neu sefyllfa lle cânt eu hamddifadu o'r cyfle i deithio ar wasanaethau bysiau lleol. Dylai'r meini prawf aros yr un fath; yr oedran cymhwysedd sy'n mynd i newid.
O ran pryderon sy'n cael eu mynegi ynglŷn â chanlyniadau cynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mae'n wir fod pris yn gymhelliad mawr i gael pobl allan o'u ceir ac ar fysiau. Gwelsom hynny'n glir yn y cynllun arbrofol a gynhaliwyd ar rwydwaith TrawsCymru. Fodd bynnag, un rhan yn unig yw hyn. Fy ngweledigaeth i ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd ond yn digwydd o ganlyniad i flaenoriaethu adnoddau yn y ffordd briodol, a hefyd cyflawni'r diwygiadau sy'n angenrheidiol i wasanaethau bysiau lleol, yw datblygu gwell seilwaith, er mwyn sicrhau bod teithiau ar fysiau'n ddibynadwy ac yn fyrrach na theithiau mewn ceir preifat, ac yn ail, sicrhau bod cynllun pris siwrnai teg ar gael i unrhyw un nad oes ganddyn nhw naill ai docyn gostyngol—h.y. pobl ifanc—neu bobl sy'n elwa o dan y drefn tocynnau teithio rhatach. Fy marn i yw y byddai pris siwrnai safonol, teg a rhad, er enghraifft £1 y siwrnai unrhyw bryd, unrhyw le ar draws Cymru, yn ddigon o gymhelliad i bobl adael eu ceir gartref, os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn mynd i deithio o A i B yn gyflymach nag y bydden nhw mewn car.
Felly, bydd blaenoriaethu adnoddau i wella'r seilwaith a sicrhau ar yr un pryd bod gennych chi ffordd dryloyw a fforddiadwy o deithio, yn arwain at y newid moddol hwnnw. Ond bydd hefyd angen blaenoriaethu adnoddau ar gyfer gwasanaethau bysiau, a dyna pam ein bod yn cymryd camau cyfrifol nawr ynghylch cymhwysedd y cynllun tocynnau teithio rhatach. Oherwydd os na wnawn ni hynny, dim ond cynyddu a wnaiff. Bydd yn cynyddu, yn eithaf sylweddol, a byddai hynny yn ei dro yn ein hamddifadu ni o'r cyfle i gyflwyno'r pris siwrnai safonol is fforddiadwy hwnnw ar ôl gwneud y diwygiadau. Byddai'n ein hamddifadu o'r cyfle i gyflwyno lonydd bysiau pwrpasol a mathau eraill o seilwaith sy'n ei gwneud hi'n fwy deniadol i bobl deithio ar fws. Felly, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn beth cyfrifol o fewn gweledigaeth llawer ehangach ynghylch y ffordd yr ydym ni'n mynd i gael mwy o bobl allan o geir ac ar fysiau ledled Cymru.
Mae'r broses o wneud cais ar gyfer adnewyddu'r cardiau wedi bod yn broses yr ydym ni wedi gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol arni. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cymryd y cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau pob un o'r 22 awdurdod lleol, gan gydnabod nad oes gan gynghorau y gallu na'r adnoddau i wneud ymdrech mor fawr. Yn ddiweddar ysgrifennais i, a'r Cynghorydd Andrew Morgan, at bob awdurdod lleol yn eu hatgoffa o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau i gynorthwyo pobl i wneud cais am docynnau teithio rhatach, ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod ganddyn nhw ffurflenni papur ar gael yn rhwydd a ffurflenni cais y gall unigolion eu defnyddio, a'u bod yn cael cymorth mewn llyfrgelloedd, er enghraifft. Nawr, rwy'n cydnabod bod rhai awdurdodau lleol wedi bod yn llai effeithlon nag eraill o ran darparu gwybodaeth a chefnogaeth a dosbarthu gwybodaeth i lyfrgelloedd a gwasanaethau eraill, ond rwy'n gobeithio, rhwng y camau a gymerais i, a'r camau a gymerodd y Cynghorydd Andrew Morgan, y byddwn yn gweld pob cyngor yn camu ymlaen ac yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl wrth wneud cais am y cardiau hyn.
Rhun ap—
Mae'n ddrwg gen i. Rwy'n falch o—. Ymddiheuraf—dim ond tri chwestiwn arall a godwyd gan yr Aelod.
O ran cyfnod caniataol, gallaf ddweud wrth Aelodau heddiw ei bod yn fwriad gennyf gael cyfnod caniataol byr o hyd at fis. Rwy'n ffyddiog, yn seiliedig ar 210,000 o geisiadau sydd eisoes yn cael eu gwneud, y byddwn yn gweld prosesu'r mwyafrif helaeth o geisiadau erbyn diwedd mis Tachwedd. O ran gwasanaethau trawsffiniol, ydw, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod gennym ni system yn ei lle sy'n galluogi pobl i groesi rhwng Cymru a Lloegr. Y peth allweddol yw bod angen i'r system yn Lloegr fod yn fwy hael, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi yn y gorffennol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi eto yn ystod y misoedd nesaf. Ac o ran budd-daliadau a hawliadau i bobl iau, rwy'n falch ein bod wedi gallu ymestyn hawliau i bobl iau o ran y cynllun 'FyNgherdynTeithio' gwreiddiol. Ond, fel y dywedais yn gynharach, byddai'r weledigaeth ehangach ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn gweld prisiau tecach, mwy fforddiadwy, a chyfraddau sylfaenol os oes modd, yn cael eu cyflwyno ledled y wlad a fyddai'n galluogi pobl iau i deithio ar fws heb orfod dewis y car mewn unrhyw gymuned.
Mae'r cerdyn teithio am ddim, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae pawb yn ei werthfawrogi ac yn ei drysori. Mae pobl yn edrych ymlaen, dwi'n meddwl, at gyrraedd 60 oed—[Torri ar draws.] Mae yna broblem. Na, mae'n iawn. Ydy hynny'n gweithio? Ydy o'n gweithio bellach? Rydyn ni'n iawn. Dweud oeddwn i fod y cerdyn teithio ar y bysys am ddim yn rhywbeth y mae pobl yn ei drysori, ac yn iawn felly, hefyd. Mae pobl yn edrych ymlaen at gyrraedd 60 a chael y cerdyn am ddim. A dweud y gwir, a finnau ond yn ifanc, dwi'n edrych ymlaen yn barod at allu manteisio yn y ffordd dwi'n gweld llawer o bobl yn manteisio arno fo wrth ddefnyddio’r cerdyn yma. Ac felly nid rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn, wrth gwrs, ydy cynyddu'r oedran.
Dwi yn cydnabod nad rhywbeth fyddai'n digwydd mewn un cam ydy hyn—y byddai o'n digwydd dros gyfnod o amser. Ond, er hynny, mae yna gwestiynau dwi'n meddwl y mae'n bwysig eu gofyn ynglŷn â beth fydd effaith hyn. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriadau at ambell un ohonyn nhw'n barod. Mi hoffwn i sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â'r math o fesur fydd yn cael ei wneud i geisio rhagweld y costau allai godi yn sgil codi'r oedran—y costau'n amgylcheddol, o bosib, os ydy pobl yn dewis peidio â defnyddio'r bws ac yn defnyddio'u car eu hunain. Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi bod o fantais fawr o gael y cerdyn teithio am ddim, sef bod mwy o bobl wedi dewis defnyddio dulliau teithio torfol. Ond hefyd, mi fyddwn i'n licio clywed am y math o fesur sydd yn neu sy'n mynd i gael ei wneud o'r costau cymdeithasol o bobl yn dewis peidio â mynd allan o'u cartrefi. Bues i'n siarad neithiwr, yn digwydd bod, ag un person a oedd yn fregus—yn fregus iawn—a oedd yn dychwelyd yn ôl i'w gartref ar ôl diwrnod ar y bws o gwmpas Ynys Môn, ac yn amlwg wedi cael pleser mawr o wneud hynny. Felly, mi hoffwn i sicrwydd ar y meysydd hynny.
Ar y mater o ddarparu'r pasys newydd, mi oedd yr anawsterau efo'r system ar-lein yn rhywbeth wnaeth achosi pryder mawr i lawer iawn o'm hetholwyr i. Edrych ymlaen sy'n bwysig, nid edrych yn ôl, ond tybed pa fath o 'stress test-io' gafodd ei wneud ar y system, o ystyried gymaint o bobl oedd yn cael eu gofyn i adnewyddu eu pasys nhw? Ac mi glywsom ni un Gweinidog—y Gweinidog cyllid, dwi'n meddwl—yn dweud ychydig wythnosau'n ôl, 'O, mae ganddyn nhw ddigon o amser; mae ganddyn nhw tan ddiwedd mis Rhagfyr'. Nid fel hynny mae pobl yn gweithio. Dwi wedi dod ar draws wn i ddim faint o bobl yn fy swyddfa i sydd eisiau sortio hyn heddiw, oherwydd eu bod nhw'n poeni eu bod nhw'n mynd i golli eu pasys, a dwi wedi gweld y loes yn llygaid pobl. Dyna pam dwi yn fy swyddfa i efo fy staff i wedi bod yn cynnig gwasanaeth i bobl, yn gwneud y cais ar eu rhan nhw, ac mae yna ugeiniau o bobl wedi bod yn dod i mewn i'm swyddfa i, ac mae wedi bod yn braf iawn gallu eu helpu nhw.
Felly, mi fuaswn i'n dymuno sicrwydd bod popeth yn cael ei wneud i ymgysylltu â phobl yn fuan i sicrhau eu bod nhw yn gallu cael adnewyddu eu pasys, a hefyd y sicrwydd, pan fydd diwrnod olaf mis Rhagfyr yn agosáu, fod y gwaith yn cynyddu o sicrhau bod pawb wedi cael y pasys newydd. Achos dwi'n gwybod am y pryder sydd yna mewn llywodraeth leol. Mae'ch ffigurau chi o'r datganiad heddiw yn dweud bod 47 y cant o bob siwrnai bws erbyn hyn yn cael eu cymryd gan bobl efo pàs. O golli'r siwrneiau hynny, mae hynny'n golled o incwm i lywodraeth leol ar adeg pan na allan nhw fforddio colli yr incwm yna. Felly, mi hoffwn i sicrwydd y bydd pethau'n dwysáu o ran yr ymdrechion i gael pawb i gael pàs newydd wrth i ddiwrnod olaf Rhagfyr agosáu.
A gaf i fod yn glir, a diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau, a dweud nad yw Llywodraeth Leol yn gwneud arian o'r cynllun tocynnau rhatach? Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Leol yn cyfrannu tuag ato. Yr allwedd yw sicrhau bod yr 80 a mwy o gwmnïau bysiau ar draws Cymru sy'n cael eu had-dalu ar hyn o bryd am y cynllun consesiynau yn gweithredu ar fodelau busnes sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. A'r broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, oherwydd bod 47 y cant o deithiau'n gysylltiedig â'r cynlluniau teithio rhatach, h.y. yn rhad ac am ddim ac yn seiliedig ar ad-daliad, nid oes digon o dwf yn y raddfa adennill pris taith—pobl sy'n talu am eu teithiau mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n arwain at yr elw bychan iawn hwnnw a diffyg cynaliadwyedd yn y farchnad.
Yn ei dro, dyna pam mae angen i ni gynyddu nifer y bobl sy'n talu i ddefnyddio bysiau, a dyna pam rydym ni'n edrych ar weledigaeth eang o wneud teithio ar fws yn fwy deniadol. Rydym yn edrych ar systemau tocynnau sy'n gweithredu ar hyn o bryd mewn gwahanol rannau o'r byd, sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i, er mwyn gwneud teithio ar fysiau yn fwy fforddiadwy i'r unigolyn, ond i gynyddu nifer y cwsmeriaid i'r fath raddau fel bod gwasanaethau bysiau a chwmnïau bysiau yn gynaliadwy ac yn ennill digon i oroesi drwy werthu tocynnau.
Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le: mae pobl yn trysori eu pàs bws ac ni fydd neb sydd ag un yn awr yn cael eu hamddifadu ohono erbyn diwedd y flwyddyn. Mae digon o amser o hyd i wneud cais am y tocyn teithio rhatach, ond rwyf yn derbyn bod pobl eisiau cael y dasg honno allan o'u bywydau cyn gynted ag y gallant a gwneud cais a dyna ni. Arweiniodd hynny, ar 11 Medi, at lawer iawn o bobl yn ymweld â'r wefan, ac yn anffodus, gyda'r lled band a roddwyd iddi, fe fethodd. Dros y diwrnodau canlynol, cynyddwyd lled y band yn sylweddol a chynhaliwyd rhagor o brofion straen. Rwy'n falch na fu unrhyw broblemau ers hynny, ac rydym ni bellach wedi gweld tua 210,000 o geisiadau ar y wefan mewn cyfnod byr iawn o amser—rydym yn sôn am nifer fach o wythnosau yn unig—a dyna pam fy mod i'n ffyddiog, erbyn diwedd y flwyddyn, y byddwn wedi gallu prosesu'r holl geisiadau hynny.
O ran symud o'r car i'r gwasanaethau bysiau a'r perygl i'r gwrthwyneb ddigwydd, pobl yn penderfynu peidio â thalu am wasanaethau bysiau a symud yn ôl i'w ceir, y broblem sydd gennym ni ar hyn o bryd yw, hyd yn oed gyda theithio am ddim ar fysiau, i lawer o bobl sydd dros 60 ond sy'n dal i weithio, nid yw gwasanaethau bysiau'n atyniadol oherwydd nad ydyn nhw mor ddibynadwy â rhywbeth y byddai ei angen arnyn nhw i gyrraedd y gwaith yn brydlon, neu oherwydd nad ydyn nhw'n eu gwasanaethu yn y gymuned y maen nhw'n byw ynddi. Yn syml, nid yw'r system yn gweithredu'n gywir. Dyna pam ein bod ni'n cyflwyno'r diwygiadau drwy'r Bil bysiau. Ac ymhen amser, byddwn yn gallu darparu rhwydwaith sy'n llawer mwy integredig, lle y gallwn ni gymhwyso safonau o ansawdd uwch, lle y gallwn ni weithredu cyfundrefn brisiau decach. Ac rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, gyda'r buddsoddiad mewn seilwaith bysiau a llwybrau cludiant a bysiau cyflym, y byddwn yn gallu denu llawer mwy o bobl o'u ceir ac ar fysiau.
O ran y gost o gynyddu'r oedran cymhwysedd, wel, mewn gwirionedd, bydd y gost yn codi os na fyddwn yn cynyddu'r oedran cymhwyster. Rydym ni'n gwybod ar hyn o bryd bod tua 750,000 o docynnau mewn cylchrediad. Yn seiliedig ar y cynnydd canrannol yn y boblogaeth dros 60 rhwng nawr a 2030, byddai'n gyfystyr, pe baem yn gwneud dim, â chyfraniad ychwanegol o tua £17.5 miliwn o bosib rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Yn sicr, fel lleiafswm, byddem yn disgwyl gweld cost uwch o tua £10.5 miliwn, ond mae hynny hefyd, yn ei dro, yn seiliedig ar y ffaith mai dim ond 420,000 o'r 750,000 o'r tocynnau hynny sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd mewn gwirionedd. Pe bai pawb yn dechrau defnyddio eu tocynnau yn fwy rheolaidd, yna byddai'r gost yn codi hyd yn oed yn fwy a byddai'r system, yn ei thro, yn dod hyd yn oed yn llai cynaliadwy. Ac mae gennym ni adnoddau cyfyngedig. Byddwn yn gwahodd unrhyw Aelod yn y Siambr i ddweud sut y byddem yn sicrhau £17.5 miliwn neu fwy yn ychwanegol y flwyddyn, er mwyn cynnal y cynllun fel y mae, wrth i bobl weithio'n hirach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol am gyfnodau helaethach o'u bywydau.
Mae cost i eraill mewn cymdeithas os nad ydym yn gwneud y newidiadau hyn. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod gan bobl rhwng 60 a 64 oed incwm cyfartalog uwch na phobl 35 oed neu iau. Mae ganddyn nhw hefyd lefelau is o amddifadedd materol. Nawr, dydw i ddim yn ceisio gosod un grŵp o bobl yn erbyn un arall, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod bod pobl iau yn ei chael hi'n anodd iawn nawr ac, mewn rhai rhannau o Gymru, nid yw 20 y cant o bobl ifanc yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus nac hyd yn oed yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus er mwyn teithio i gyfweliad am swydd. Nid yw hynny'n iawn, a bydd y diwygiadau rydym yn bwriadu eu gwneud dros y misoedd nesaf yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwnnw.
Fel arfer, Gweinidog, mae eich atebion cynhwysfawr i lawer o'r cwestiynau blaenorol yn gadael ychydig iawn o le i mi gynnig unrhyw ongl unigryw i'r ddadl, ond mae'n rhaid imi ddweud bod yn rhaid i bob un ohonom ni sylweddoli bod y boblogaeth yn heneiddio yn golygu y bydd pob agwedd ar wasanaeth cyhoeddus yn dod o dan straen gynyddol dros y blynyddoedd i ddod ac felly mae'n rhaid y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar basys bws am ddim.
Credaf fod y camau a amlinellir yn eich datganiad yn fesur teg a synhwyrol, ond a gaf i fynegi gair o rybudd, yr ydych chi eich hun wedi nodi eich bod yn ei ddeall? Mae'n hanfodol bod y cyhoedd, ac yn enwedig y genhedlaeth hŷn y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw, yn cael gwybod eu bod yn cael eu rhoi ar waith. Yn benodol, y bydd y rhai sydd bellach yn cael pàs bws yn cadw eu pasys, yn ddieithriad.
Fe wnaethoch chi gyfeirio yn ail ran eich datganiad at y problemau'n ddiweddar o ran yr angen i ddeiliaid pàs bws presennol gofrestru gyda Trafnidiaeth Cymru. Ar wahân i'r anallu i gofrestru am resymau technegol, roedd pryder eang ynghylch a fyddai pobl yn colli eu pasys yn gyfan gwbl, a mynegwyd hynny imi droeon gan bobl yn dod i'm swyddfa. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau wrthym y bydd ymgyrch addas a chynhwysfawr yn hysbysu deiliaid pasys presennol a'r rhai sydd ar fin ymuno â'r cynllun ynghylch beth yn union fydd y gweithdrefnau a'r amserlen?
Wel, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth amodol i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni? Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig iawn, bod yn rhaid i ni weithredu'n gyfrifol er mwyn paratoi'r pwrs cyhoeddus ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio a hefyd ar gyfer cymdeithas sy'n gynyddol egnïol wrth heneiddio.
Gadewch imi fod yn gwbl glir, os oes gennych chi bàs bws nawr, y byddwch yn cadw eich pàs bws yn y dyfodol. Nid oes amheuaeth o gwbl. Os cyrhaeddwch chi 60 oed cyn 2022, bydd gennych chi docyn teithio rhatach yn 60 oed. Byddaf yn rhoi tabl i'r Aelodau, yn dilyn y datganiad hwn, sy'n dangos ar ba bwynt yn ystod y 19 i 20 mlynedd nesaf y bydd pobl yn gymwys i gael y pàs bws am ddim, gan nad ydym yn mynd i gyflwyno hyn mewn cyfnod byr iawn o amser, rydym ni'n mynd i gyflwyno hyn yn raddol dros gyfnod sylweddol fel na fydd yn effeithio'n andwyol ar bobl yn y modd y mae rhai'n ei ofni.
Mae'n rhaid i mi ddweud, pe bai mwy o arian nawr, y byddai penderfyniadau anodd iawn i bobl eu gwneud ynghylch sut i'w wario ar wasanaethau bysiau. A fyddech yn cynnal y system fel y mae heddiw, gyda chostau cynyddol o flwyddyn i flwyddyn; a fyddech yn ymestyn teithio rhatach i eraill, megis pobl ifanc, fel y mae Russell George wedi'i ddweud; a fyddech yn cynyddu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, sydd yn ei hanfod yn talu am wasanaethau bysiau nad ydyn nhw'n fasnachol hyfyw; a fyddech yn cyflwyno prisiau is, cynllun pris siwrnai sylfaenol o bosib, fel yr wyf wedi sôn; neu a fyddech yn buddsoddi yn y seilwaith sy'n gwneud teithio ar fws yn fwy dymunol a deniadol? Yn bersonol, rwy'n credu mai'r pedwar olaf, mae'n debyg, yw'r ffyrdd mwyaf effeithiol o sbarduno newid moddol a chyflawni system fysiau deg a chyfiawn yng Nghymru.
Mae teithio rhatach yn dod â manteision sylweddol i unigolion, eu cymunedau, economïau lleol a'r amgylchedd. Mae unrhyw gynnig i gynyddu'r oedran ar gyfer cael pàs bws yn debygol o gynyddu'r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd; cynyddu costau gwasanaethau iechyd a gofal; effeithio ar incwm miloedd o bobl hŷn; a thanseilio'r ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Fel y gŵyr pawb, rwy'n byw yn Abertawe. Mae nifer fy etholwyr sydd wedi cael pàs bws am ddim sydd, yn yr haf, yn teithio i lawr i'r Mwmbwls am fod ganddyn nhw bàs bws am ddim ac na fydden nhw'n gwneud hynny pe bai'n rhaid iddyn nhw dalu, yn nifer sylweddol.
Rwy'n gwybod fod y Gweinidog a minnau yn siarad â phobl wahanol ac â gwahanol ffyrdd o fyw oherwydd cefais bàs bws ym mis Gorffennaf ac rwyf wedi gwneud mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ers hynny nag a wnes i yn ystod y tair blynedd blaenorol. Rwy'n credu mai dyna yr wyf yn ei weld ymhlith y bobl yr wyf yn eu hadnabod: ar ôl iddyn nhw gael eu pàs bws, maen nhw'n dechrau defnyddio bysiau. Oherwydd, yn y bôn, nid yw'n costio unrhyw beth i chi ac mae'n rhaid i chi dalu i barcio. Dyna sefyllfa llawer o bobl mewn gwirionedd, ac mae gennym ni bobl sy'n gyrru i lawr i'r safle bws i ddal y bws am ddim.
Gwyddom fod cwmnïau bysiau o dan bwysau. Nid yw llawer o'r cymunedau a gynrychiolaf yn cael eu gwasanaethu'n dda gan fysiau erbyn hyn, ac ni fyddai'r newid hwn ond yn creu mwy o gymunedau heb fysiau. Hynny yw, rydych chi'n tynnu'r elfen o alw allan, onid ydych chi? Pan fydd pobl yn defnyddio pàs bws, mae'n rhoi elfen o alw i mewn i'r system. Tynnwch y pasys bws i ffwrdd, a bydd y galw, yn fy marn i, yn lleihau.
Ei ostwng i £1 neu ei ostwng i ba lefel bynnag yr ydych chi'n sôn amdani—. A gaf i ddweud: byddai ei ostwng i £1 yn golygu y byddai gostyngiad o dri chwarter yng nghostau'r 53 y cant sy'n talu am fysiau yn Abertawe, sy'n ostyngiad enfawr, ond nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yn cynyddu nifer y defnyddwyr. Dim ond un ffordd sydd i gael gwybod. Pam na chawsom ni brawf o hyn? Pam na chawsom ni ardal lle y gostyngwyd y taliadau bws i lawr i £1 i bawb mewn un ardal gyngor? Gallech fod wedi'i wneud ym Merthyr, er enghraifft. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf?
Mae wedi cael ei wneud yn Lerpwl.
Mae'n ddrwg gennyf—
Arhoswch eich tro, Gweinidog; cewch eich tro hefyd.
Mae'n ddrwg gennyf, mae gennyf broblem gyda daearyddiaeth nawr gan fy mod bob amser wedi credu bod Lerpwl yn Lloegr, ond, ie. Hefyd, mae Lerpwl yn ddinas ac mae dinasoedd yn wahanol. Mae Caerdydd yn wahanol i Abertawe, ac mae Abertawe'n wahanol i Gymoedd y De, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn dweud hynny nes ymlaen.
Os oes rhaid torri costau, a gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru gynnydd o 2.3 y cant mewn termau real ar y gorwel—. Ond, os gwnânt hynny, yna gellir torri ar bethau eraill: teithiau penwythnos am ddim Traws Cymru; a'r awyren gymorthdaledig o Gaerdydd i Ynys Môn. Gellid edrych ar y rhain, llawer gwell na chymryd teithio am ddim ar fysiau oddi wrth y rhai sy'n ei ddisgwyl. Bydd, bydd hynny'n peri gofid i rai pobl, nid oes gennyf amheuaeth am hynny, ond rydych chi'n peri gofid i ddegau o filoedd o bobl yn sgil yr un penderfyniad hwn.
O ran adnewyddu pasys bws—ac rwy'n siŵr nad ydym yn mynd i gytuno ar hyn ychwaith—pam na ofynnwyd i bobl roi gwybod i Trafnidiaeth Cymru am newid yn eu cyfeiriadau erbyn mis Rhagfyr? Yna, gellid bod wedi cynhyrchu pob pàs a'i ddosbarthu'n awtomatig gan ddefnyddio unrhyw newidiadau cyfeiriad. Byddai hynny wedi gwneud pethau'n llawer cyflymach, yn llawer haws ac, os meiddiaf ei ddweud, yn llawer rhatach. Rwy'n siŵr bod gan Trafnidiaeth Cymru lawer o resymau. Dywedwyd wrthyf ei fod oherwydd GDPR. Byddaf bob amser yn gwybod pan fydd pobl yn ceisio osgoi rhywbeth oherwydd eu bod naill ai'n dweud ei fod am resymau cyfreithiol neu resymau diogelu data.
Mike Hedges, rydych chi'n swnio'n amheus ac yn sinigaidd iawn ynghylch y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn diogelu data, ond dyna'r rheswm go iawn. Mae hefyd oherwydd bod y broses weithgynhyrchu sydd yn gysylltiedig â'r cardiau newydd yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau y gellir defnyddio'r cardiau mewn unrhyw le yn y DU, os cyflwynir system deg o'r fath i gymhwyso'r cynllun tocynnau teithio rhatach, fel y gallem ei ddefnyddio'n drawsffiniol.
A gaf i yn gyntaf oll ddweud fy mod wedi mwynhau helpu Mike i wneud cais am ei gerdyn teithio rhatach yr wythnos diwethaf? Rhoddodd brofiad personol i mi o ba mor syml yw'r broses. Dyna pam fy mod i'r ffyddiog, ar lawer ystyr, y bydd pawb sy'n dymuno cael pàs bws newydd yn gallu gwneud hynny mewn da bryd.
Fy nghwestiwn fyddai hyn: pan ddywedwch eich bod wedi defnyddio bysiau'n fwy nawr nag erioed o'r blaen am eu bod am ddim, a ydych chi'n dweud na fyddech yn defnyddio bysiau yn y dyfodol pe bai'n rhaid ichi dalu amdanyn nhw, gan gydnabod ein bod i gyd yn y Siambr hon yn cael cyflog eithaf da? Neu a yw'n wir, nawr eich bod wedi profi pa mor dda yw gwasanaethau bws, y byddech yn dymuno cadw'r math hwnnw o wasanaeth? Fy marn i yw mai'r olaf yw'r rheswm. Ar ôl i chi ddechrau defnyddio gwasanaeth bws, os yw'n dda, os yw'n mynd â chi o A i B mewn pryd, os nad ydych chi mewn tagfa draffig, os gallwch warantu y bydd yn cyrraedd ar amser, byddwch yn ei ddefnyddio. Byddwch yn ei ddefnyddio, ac yn benodol byddwch yn ei ddefnyddio os cewch ostyngiad o gymaint â thri chwarter, fel y gallai ddigwydd o dan y weledigaeth yr wyf newydd ei hamlinellu.
Ac o ran profi'r math hwn o ddull, wel, mae gan system ArrivaClick yn ne Lerpwl strwythur tocynnau sy'n anhygoel o fforddiadwy a dangosir bod dros 50 y cant o ddefnyddwyr y gwasanaeth arloesol newydd hwnnw yn bobl nad ydyn nhw wedi defnyddio bysiau yn y gorffennol, ond, yn yr un modd, mae'r gwasanaeth hwnnw'n ddibynadwy ac yn gweithredu ar sail cynnig amseroedd teithio byrrach na cherbydau preifat. Felly, mae'n rhaid i chi ystyried yr holl ffactorau hyn gyda'i gilydd er mwyn sbarduno newid moddol.
Nawr, rwy'n credu'n gryf, o ganlyniad i bobl yn gweithio am fwy o flynyddoedd, eu bod yn mynd i fod yn fwy egniol am fwy o flynyddoedd ac y byddant yn cael gwell cysylltiad ag eraill am eu bod yn y gwaith yn hwy, ac felly nid yw'n debygol y bydd cynnydd mewn unigrwydd ac ynysigrwydd yn fygythiad gwirioneddol, yn fy marn i. Yn wir, mae oedran cyfartalog gadael y farchnad lafur heddiw bellach wedi codi i 65 ar gyfer dynion a 63 ar gyfer menywod. Felly, yn gynyddol, mae pobl yn aros mewn gwaith yn hwy, yn parhau i fod mewn cysylltiad â dinasyddion eraill ac, felly, credaf y bydd gan bobl gysylltiadau cystal â'r rhai sydd ganddyn nhw nawr, hyd yn oed gyda chynyddu'r oedran cymhwysedd.
Rwy'n credu bod pryderon y bydd y cynnig hwn yn arwain at golli pasys bws. Ni fydd yn gwneud hynny. Ni fydd unrhyw golledion o ran pasys bws rhatach yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau yr wyf wedi gallu manylu arnyn nhw heddiw.
Iawn, diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi fod yn onest, roeddwn mewn gwirionedd yn eithaf sinigaidd yn y dyddiau cynnar pan roeddech yn cyflwyno pasys bws am ddim. Meddyliais, 'ni fyddan nhw byth yn gallu fforddio hyn.' A wyddoch chi? Mae'n rhaid i mi ganmol Llywodraeth Cymru oherwydd fy mod yn credu ei fod yn un o'r polisïau gorau yr ydych chi wedi'u cyflwyno. [Torri ar draws.] Ond mae wedi dioddef yn sgil ei lwyddiant ei hun mewn gwirionedd. Ond mae'n rhaid i mi edrych ar fy etholaeth i, ac mae gennym ni ddemograffeg hŷn yno.
Nawr, ddydd Mercher diwethaf, roedd Dr Dai Lloyd AC, minnau, a Julie, ein Dirprwy Weinidog, a Helena Herklots yn bresennol ar gyfer hystingau ar yr adroddiad ar gyflwr y genedl, adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a oedd yn cynnwys llawer iawn o ddata yr oedd hi a'i thîm wedi ei gasglu o bob rhan o Gymru, ac mae hi ei hun wedi mynegi gwrthwynebiad eithaf cryf i'r bwriad o newid yr oedran o 60 i 65. A dim ond rhai o'r rhesymau—. Rwy'n credu bod Mike Hedges wedi darllen hwn mewn gwirionedd cyn iddo ei gyhoeddi, ond, yn y bôn, bydd yn cael effaith sylweddol ar ein pobl hŷn, mae'n creu risg o gynyddu unigrwydd ac ynysigrwydd, a hefyd mae pob punt a werir ar docynnau teithio rhatach yn dychwelyd o leiaf £2.87 mewn buddion i bobl hŷn, eu cymunedau a'u heconomïau lleol. Felly, mae'n dweud yma dros 150,000—[Torri ar draws.]—bydd pobl hŷn yng Nghymru naill ai'n dewis peidio teithio neu'n dewis moddau eraill o deithio. Mae'n debyg i mi, yr hyn sy'n fy mhoeni i yw eich bod wedi cyfrifo faint y bydd yn arbed i'r Llywodraeth, ond rwyf wedi—[Torri ar draws.] Iawn, iawn, wel, rydych chi wedi cyfrifo'r ffigurau, felly, o ran pam eich bod chi'n mynd i godi'r terfyn oedran—
A ydych yn dod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Ydw, ydw, ydw.
Nid 'ydw, ydw, ydw'. A ydych yn dod at gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Mae pawb arall wedi cael rhagarweiniad, felly rwyf—
Esgusodwch fi, chi yw'r ail siaradwr yng ngrŵp eich plaid ac mae'r siaradwr cyntaf wedi siarad fel llefarydd a dyma'r rheol a ddefnyddiais i yn y datganiad diwethaf, ac mae hynny mewn gwirionedd o fewn y Rheolau Sefydlog. Felly, rhagarweiniad byr a chwestiwn, os gwelwch yn dda.
Iawn. Nid yw dros draean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o'r rhyngrwyd. Felly, un o'r pryderon sydd gennyf ynglŷn ag adnewyddu'r pasys bws—codwyd hyn hefyd ddydd Mawrth diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn—felly beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i helpu'r rhai nad ydyn nhw wedi llwyddo i adnewyddu eu pàs bws? Beth ydych chi'n ei wneud i'w helpu mewn gwirionedd os nad ydyn nhw wedi cysylltu mewn unrhyw ffordd â'r rhyngrwyd? Nid yw mynd i lyfrgelloedd yn gweithio yn fy etholaeth i. Mae pobl mewn gwirionedd eisiau ei wneud drwy ddull mwy traddodiadol.
Cwestiwn Rhif 2: pwysigrwydd—
Na, na. Un cwestiwn i siaradwyr dilynol oherwydd bod eich llefarydd wedi gofyn nifer o gwestiynau, ac rydym yn brin o amser hefyd. Felly, fe wnaf ganiatáu i chi ofyn yr ail gwestiwn, gan eich bod wedi ei baratoi y tro hwn, ond yn gyflym, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ffwrdd â ni. Cwestiwn 2: Mae'r ffaith bod 92 y cant o bobl a holwyd yn cytuno bod cael pàs bws yn caniatáu iddyn nhw fod yn annibynnol a bod 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywyd yn dioddef heb un. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gadarnhau bod digon o amser i wneud cais am y cerdyn newydd. O ystyried yr amser a gollwyd, a fyddwch chi mewn gwirionedd yn ymestyn yr amser? Fe wnaethoch chi ddweud mis; rwy'n credu mewn gwirionedd y dylech estyn hyn efallai tan fis Ebrill. A fyddech yn ystyried gwneud hynny?
Rydym yn gyson—. A gaf i ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiynau? Rydym yn monitro nifer y ceisiadau sy'n cael eu prosesu'n ddyddiol, a dyna pam roedd hi'n bosib inni roi diweddariad ers i'r datganiad gael ei gyfieithu. Mae'r ffigur o ran nifer y ceisiadau yr ymdriniwyd â nhw bellach dros 210,000. Pan gafodd hwn ei gyfieithu, rwy'n credu ei fod yn 150,000. Mae'n dangos bod niferoedd enfawr o geisiadau yn cael eu prosesu bob dydd.
Mae tua 10,000 o geisiadau wedi'u cyflwyno ar bapur. Mewn llawer o amgylchiadau, mae pobl wedi gallu argraffu'r ffurflen gais a'i hanfon i Trafnidiaeth Cymru. O dan amgylchiadau eraill, mae unigolion wedi ceisio cymorth mewn llyfrgelloedd. Derbyniaf y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi am lyfrgelloedd yn ei hetholaeth, a gallaf sicrhau'r Aelod fod llythyr wedi'i anfon i'r awdurdod lleol gyda rhagor o wybodaeth a mwy o nodiadau i'w atgoffa o'r rhwymedigaethau sydd ar awdurdodau lleol i gynorthwyo pobl i sicrhau'r cerdyn newydd.
Mae'n rhaid i mi bwysleisio na fyddwn yn arbed ceiniog yn sgil y cynigion yr ydym ni'n eu hamlinellu. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym yn gadael y rhaglen mewn sefyllfa lle nad yw'n gynaliadwy, lle na ellir ei fforddio. Ac mae'r Aelod yn iawn, wyddoch chi, roedd llawer o bobl yn sinigaidd iawn ar y dechrau, gan feddwl na ellid byth ei fforddio. Wel, rydym ni wedi'i gwneud yn fforddiadwy hyd yma, ac os ydym eisiau iddi barhau i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu ei fforddio, a dyna pam rydym ni'n gwneud y newidiadau yr wyf wedi'u hamlinellu heddiw.
Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall, felly, unwaith eto, a gaf i ailadrodd, efallai rhagarweiniad byr iawn a chwestiwn gan bob un o'r tri ohonoch? A byddaf yn ymestyn hyn bum munud, iawn? Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr Economi am egluro na fydd unrhyw un sydd â cherdyn teithio rhatach ar hyn o bryd, pan wneir y newidiadau i'r gyfraith, yn colli ei hawl i gael y cerdyn hwnnw o dan unrhyw amgylchiadau. Bydd hyn yn cynnig sicrwydd i unrhyw un o'm hetholwyr sydd, yn Islwyn, ag unrhyw amheuaeth ynglŷn â'u cymhwysedd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am haeriad mynych y Gweinidog na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw un sy'n cyrraedd 60 oed cyn Ebrill 2022. Gweinidog, rydych yn nodi:
Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw teithio am ddim ar ei ben ei hun yn ddigon i gymell teithwyr i wneud newid moddol o'r car i drafnidiaeth gyhoeddus.
Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar fesurau Llywodraeth Cymru i wella dibynadwyedd bysiau, sicrhau gwell integreiddio a gwybodaeth hygyrch i helpu i gyflawni a datblygu newid moddol glanach a gwyrddach?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle: ni fydd neb yn colli ei bàs o ganlyniad i'r rhaglen adnewyddu—neb o gwbl. A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore hefyd am godi pwynt pwysig iawn yr wyf innau wedi'i wneud, sef nad yw teithio am ddim, ar ei ben ei hun, yn cymell pobl i symud o'r cerbyd preifat i fws? Fodd bynnag, gyda'r diwygiadau eraill yr ydym wedi'u cynnwys yn y Bil bysiau, rydym yn ffyddiog y byddwn yn gallu cyflawni newid moddol sylweddol. Byddwn yn gwneud hynny drwy flaenoriaethu adnoddau ar gyfer seilwaith sy'n arwain at amseroedd teithio dibynadwy a byrrach a bysiau gwyrdd—ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch y cyfraniad y gall teithio ar fws ei wneud o ran lleihau allyriadau carbon. Rydym ni'n mynd i fod yn buddsoddi mewn fflydoedd o fysiau di-garbon, gan gael gwared ar beiriannau diesel budr o'n ffyrdd, o'r fflyd bysiau. A hefyd, byddwn yn cyflwyno partneriaethau ansawdd a fydd yn gwella safonau'r cerbydau y gall pobl ddisgwyl eu defnyddio.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a byddaf yn gryno iawn oherwydd bod llawer ynghylch y mater hwn wedi'i ddweud eisoes, Dirprwy Lywydd. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi sôn am y newidiadau i'r oedran gwladol sef y caiff ei godi'n raddol, ond nid ydym yn cael unrhyw fath o gynllun ynglŷn â phryd y bydd hynny'n digwydd, dim ond y ffaith y bydd Ebrill 2022 yn fan cychwyn, ond nid oes gennym syniad pryd y bydd newidiadau o'r fath yn digwydd. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn i Aelodau gael gweld pryd yn union fydd y newidiadau a pha oed fydd—[Anhyglywadwy.]—pwyntiau, fel y gallwn weld y newidiadau graddol. Rwy'n sylweddoli'n llawn nad yw unrhyw un sydd ag un yn mynd i'w golli—mae hynny'n hollbwysig.
Y peth arall yw, er mwyn ei ddefnyddio mae angen bysiau arnoch, ac mae llawer iawn o gymunedau yn fy ardal i'n arbennig yn gweld gostyngiad mewn llwybrau bysiau, nid cynnydd mewn gwirionedd. Felly, os ydym eisiau gweld newid mewn agwedd at drafnidiaeth bysiau, mae'n rhaid inni gael y bysiau er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ddigon posibl y byddwch yn newid y consesiwn hwn, ond os nad oes bysiau, ni fydd neb yn ei ddefnyddio ac ni fydd neb yn gwneud cais am basys bws, gan nad oes bws ar gael. Felly, a wnewch chi hefyd roi sicrwydd i ni y byddwch chi'n buddsoddi yn y gwasanaethau i sicrhau, wrth i bobl lwyddo i gael pasys bws wrth iddyn nhw fynd yn hŷn—a dywedaf y bydd rhai na fyddan nhw'n ymddeol yn 67, byddan nhw'n ymddeol yn gynharach na hynny—a allwn ni wneud yn siŵr bod bysiau ar gael iddyn nhw?
A gaf i ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau? Mae'n hollol gywir yn dweud bod angen i bobl wybod pryd maen nhw'n debygol o fod yn gymwys i gael y cerdyn teithio rhatach o dan y drefn newydd. Byddaf yn dosbarthu'r tabl sydd gennyf o'm blaen sy'n dangos pob oedran o 50 i 60 ar 1 Ebrill 2022 a phryd y bydd pobl wedyn yn cael yr hawl i gael eu cerdyn teithio rhatach. Gwnaf hynny, os yw'n bosibl, Dirprwy Lywydd, heddiw.
Bydd y newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno'n golygu bod y cynllun yn gyson â chymhwysedd yn Lloegr, er y bydd y manteision gwirioneddol sydd gennych yn fwy yng Nghymru gan na fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio. Credaf fod Dai Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn nad oes diben cael unrhyw fath o gynllun consesiynol os nad oes gennych chi fysiau y gallwch eu defnyddio, a'r her fawr i'r diwydiant, ledled, yn wir, mae'n rhaid dweud, y DU gyfan yw graddfa isel adennill pris taith a'r ffaith y bu nifer y teithwyr sy'n talu'r pris llawn yn gostwng, ac ni fu gwasanaethau bysiau yn arbennig o atyniadol i ddarpar deithwyr, ac felly mae pobl wedi mynd yn ôl at eu ceir, ac o ganlyniad, mae nifer y teithiau lle telir am docyn yng Nghymru wedi gostwng. Mae angen inni sicrhau bod y nifer honno'n codi eto er mwyn cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau ac sy'n talu amdanyn nhw, er y byddwn yn dymuno, ar gyfradd lawer llai.
Yn y tymor byr, pan fyddwn wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, bydd y grant cynnal gwasanaethau bysiau yn gwbl hanfodol i gynnal gwasanaethau nad ydyn nhw'n fasnachol hyfyw. Rydym ni wedi cynnal hwnnw, y £25 miliwn, ers sawl blwyddyn bellach, ac o'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cysylltu'r hawl i gael y grant cynnal gwasanaethau bysiau â'r cyfraniad a wna awdurdodau lleol, gan gydnabod bod gwasanaethau bysiau yn hanfodol bwysig i gymunedau, ac yn arbennig cymunedau mwy gwledig ac ynysig.
Diolch. Ac, yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Yn gyntaf, gwnaeth Trafnidiaeth Cymru gawl o'r mater hwn, oherwydd dylent fod wedi rhoi sesiwn friffio inni o flaen llaw a hefyd i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ein llyfrgelloedd, fel ein bod yn gwybod bod y newid hwn yn dod, yn hytrach na chael aelodau o'r cyhoedd yn dweud wrthym ni beth oedd yn mynd i ddigwydd, rhywbeth a ddigwydd i mi yn sicr ar 10 Medi.
Yn ail, rydych chi'n llygad eich lle os ydym ni'n mynd i gael mwy o wasanaethau bws i alluogi pobl i ddefnyddio'r pasys hyn, yna mae angen i ni gymell mwy o bobl sydd angen defnyddio bws i ddefnyddio'r bws. Felly, sut yn union allwn ni wneud y daith ar y bws yn gyflymach na thaith car yn ein hardaloedd adeiledig, megis yng Nghaerdydd, lle mae lefelau gwarthus o lygredd aer? Oherwydd, ar hyn o bryd, rydym yn croes-sybsideiddio cost pobl sy'n defnyddio'u ceir i ddod i'r gwaith pan ddylen nhw fod yn defnyddio'r bws. Felly, sut yn union allwn ni wneud i bobl adael y car gartref wrth ddod i ganol y ddinas, wrth gymudo?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Yn amlwg, roedd y galw mawr o ran defnyddio gwefan trafnidiaeth Cymru ac yn arbennig y dudalen yn ymwneud â newid y cerdyn yn peri anawsterau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn cynnig sesiynau galw heibio yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelod imi ysgrifennu at bob aelod o'r Cynulliad ar 5 Mehefin eleni, gan eu cyfeirio at y ffaith y byddem yn cychwyn ar gynllun amnewid yn yr hydref, a nododd y byddai'r meini prawf yn aros yr un fath ar gyfer pob achos o adnewyddu ac y byddai pobl a allai ei chael hi'n anodd mynd drwy'r broses ar-lein yn gallu cael cymorth gan eu hawdurdodau lleol ac, yn arbennig, o lyfrgelloedd.
Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn wir yn taro'r hoelen ar ei phen, sef os nad ydych chi'n cynnig ffordd fwy deniadol o deithio dros gyfnod byrrach ar fws na gewch chi mewn car, nid ydych chi'n mynd i newid. Ni fyddwch yn dewis mynd ar y bws. Felly, er mwyn lleihau amseroedd teithio ar fysiau, yr hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd yw buddsoddi drwy'r gronfa trafnidiaeth leol a thrwy ddulliau eraill mewn lonydd bysiau; rydym yn ystyried datblygu trafnidiaeth gyflym ar fws hefyd, fel datrysiad drwy'r metro yn benodol mewn rhai cymunedau; rydym ni'n edrych ar orfodaeth hefyd—gwell gorfodaeth lle mae modurwyr anghyfrifol yn parcio mewn lonydd bysiau. Mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghydweithiwr Lee Waters yn edrych arno o ran parcio ar balmentydd hefyd, sy'n gallu tarfu ar deithiau bws, lle mae pobl yn parcio'n anghyfrifol ar balmentydd lle na ddylen nhw gan rwystro ffyrdd. Felly, mae yna lawer o ymyriadau yr ydym yn eu gwneud i wneud teithiau bws yn fyrrach o ran amser a hefyd yn fwy dibynadwy.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.