Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 8 Hydref 2019.
Iawn. Ffwrdd â ni. Cwestiwn 2: Mae'r ffaith bod 92 y cant o bobl a holwyd yn cytuno bod cael pàs bws yn caniatáu iddyn nhw fod yn annibynnol a bod 81 y cant yn credu y byddai ansawdd eu bywyd yn dioddef heb un. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gadarnhau bod digon o amser i wneud cais am y cerdyn newydd. O ystyried yr amser a gollwyd, a fyddwch chi mewn gwirionedd yn ymestyn yr amser? Fe wnaethoch chi ddweud mis; rwy'n credu mewn gwirionedd y dylech estyn hyn efallai tan fis Ebrill. A fyddech yn ystyried gwneud hynny?