Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 9 Hydref 2019.
Weinidog, yn ôl Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni yr Unol Daleithiau, gellir priodoli bron i ddwy ran o dair o'r lleihad mewn allyriadau carbon deuocsid sy'n gysylltiedig ag ynni dros y degawd diwethaf yn yr Unol Daleithiau i ffracio. Mae panel rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd yn nodi bod ffracio wedi cynyddu ac wedi arallgyfeirio'r cyflenwad nwy, gan ganiatáu ar gyfer newid mwy helaeth yn y cynhyrchiant pŵer a gwres o lo i nwy. Maent hefyd yn cadarnhau bod hyn yn rheswm pwysig dros leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn yr Unol Daleithiau. Yng ngoleuni'r uchod, a yw'r Gweinidog yn cytuno â'r sefydliadau hyn fod ffracio yn arwain at lai o allyriadau carbon?