Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 9 Hydref 2019.
Nid wyf yn ymwybodol o'r erthygl na'r gwaith ymchwil y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Rwy'n ailadrodd ein bod wedi gwrthwynebu ffracio'n gadarn ac yn bendant iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymgynghoriad a gawsom y llynedd, ac yn sicr, y farn gyhoeddus oedd bod newid i ddewisiadau ynni sy'n allyrru llawer llai o lygredd yn gyraeddadwy ac yn well, a gwelwyd hefyd nad oes dyfodol mewn dechrau diwydiant tanwydd ffosil newydd. Mae fy holl ymdrechion, ac ymdrechion fy nghyd-Aelodau, yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy.