Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Hydref 2019.
O ran y camau a gymerais yn dilyn y rhaglen ddogfen, mae'n amlwg fod hynny'n fater brys, a byddwn yn gwneud hynny yn ystod y mis nesaf. Yn sicr, bydd y grŵp yn edrych ar y rheoliadau bridio yn gyflym iawn ar fy rhan—erbyn diwedd y flwyddyn buaswn yn gobeithio.
Mewn perthynas â'r ymgynghoriad ar gyfraith Lucy, nid oeddwn am gael unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil hynny, ond unwaith eto, rwyf wedi gofyn i'r prif swyddog milfeddygol ystyried pa bryd y gallwn gyflwyno hynny'n llawer cyflymach nag a ragwelwyd gennym o ganlyniad i'r holl waith parhaus arall sydd gennym, yn enwedig mewn perthynas â Brexit. Rwy'n ymwybodol fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol dan bwysau neilltuol. Felly, mewn perthynas ag amserlen ar gyfer cyfraith Lucy, rwy'n credu y bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod, ond yn sicr erbyn y gwanwyn, buaswn yn gobeithio.