Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Hydref 2019.
Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae angen trwydded petrolewm a chaniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol ar bob twll turio sy'n chwilio am betrolewm a'i echdynnu. Mae'r ddwy gyfundrefn wedi'u datganoli, ac maent yn gwbl ddarostyngedig i bolisi Cymru. Felly, fel y dywedais, ein hamcan polisi yw osgoi parhau i echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil, ac mae hynny'n cynnwys nwy siâl a echdynnir drwy ffracio. Pan oeddwn yn Weinidog cynllunio, gwn yn sicr ein bod yn darparu cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol, ond rwy'n hapus iawn i siarad â fy nghyd-Weinidog, Julie James, sydd yn ei sedd, i sicrhau, os oes angen i ni ddiweddaru neu adnewyddu cyngor, y gallwn wneud hynny.FootnoteLink