Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 9 Hydref 2019.
Weinidog, mae'n galonogol iawn clywed bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i gwrthwynebiad cadarn i ffracio, yn enwedig y goblygiadau y mae hynny'n eu creu i'n hamgylchedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Ond o ran ffracio, ceir profion ar dyllau turio dwfn hefyd, ac mae peth o'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal. Oherwydd hynny, a allwch gael trafodaethau gyda'ch cyd-Weinidog yn y Cabinet sy'n gyfrifol am gynllunio i sicrhau y caiff ceisiadau ar gyfer tyllau turio dwfn eu hystyried hefyd fel allbwynt i ffracio, ac fel y cyfryw, a ddylai cynghorau ystyried hynny ai peidio? Ac a wnewch chi roi arweiniad i gynghorau mewn perthynas â hynny, gan y gallai arwain at wneud llawer o gymunedau'n bryderus iawn, yn nerfus iawn o ganlyniad i gais y byddwn yn gwybod na fydd dim yn digwydd yn ei gylch oherwydd y datganiad cadarn rydych newydd ei wneud?