Diwydiant Bwyd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:56, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn amlwg, mae pobl yn ymwybodol y gallai'r ffordd y maent yn bwyta gael effaith ar newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng newid hinsawdd y mae'r Llywodraeth yma ac mewn rhannau eraill o'r DU wedi'i ddatgan. Yr hyn a wyddom yw bod y sector cig coch yma yng Nghymru yn gylch cynhyrchu sy'n seiliedig ar laswellt yn bennaf, ac mae hynny'n gadarnhaol i'r amgylchedd. A ydych wedi cael unrhyw geisiadau gan Hybu Cig Cymru ynghylch sicrhau cyllid fel bod modd hyrwyddo'r agwedd gadarnhaol i'r defnyddiwr ar yr hyn yw cig eidion a chig oen Cymru i'r amgylchedd, yn y ffordd y maent yn seiliedig ar laswellt o ran y deiet a ddefnyddiant, yn hytrach na rhai o'r systemau mwy dwys sy'n dod o rannau eraill o'r byd o bosibl, sy'n cael effaith niweidiol ar ein hôl troed carbon?