Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Hydref 2019.
Nid wyf wedi cael cais penodol am gyllid gan HCC mewn perthynas â hynny, ond fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi rhoi—rwy'n credu ei fod dros £2 filiwn i Hybu Cig Cymru i helpu i hyrwyddo ein sector cig coch, ac yn wir, mae HCC wedi bod allan yn Japan fel rhan o'r daith fasnach i wneud yn union hynny. Ond rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac mae llawer yn holi i mi am gig coch ac arferion bwyta pobl, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Ond rwyf am ddweud wrth bobl mai'r peth gorau i'w wneud os ydynt am fwyta'n gynaliadwy yw cefnogi ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd lleol.