Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 9 Hydref 2019.
Weinidog, nid yw'r argymhellion presennol yn yr adran ar ynni yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys unrhyw fanylion ynglŷn â sut y byddai'r ynni a gynhyrchir yn cael ei gysylltu â'r grid cenedlaethol wedyn. Tybed pa sylwadau a gyflwynoch chi i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar hyn, a chyrff eraill, o ran siarad â'r grid cenedlaethol eich hun hefyd. Os yw canlyniadau'r ymgynghoriad yn dangos yn glir nad oes cefnogaeth i'r argymhellion yn yr adran ar ynni yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a wnewch chi ddiwygio neu ddileu'r argymhellion hynny?