Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Hydref 2019.
Credaf eich bod yn gwneud un neu ddau o bwyntiau pwysig, a dof atynt yn y man. Ond i ddechrau, rwy'n credu y dylwn ailadrodd ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd, felly os yw pobl yn pryderu am hynny, credaf y dylent gyflwyno eu hymatebion a bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn edrych arnynt fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad wrth gwrs.
Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn Nulyn, yng nghynhadledd ynni'r cefnfor. Yn amlwg, mae cyfle enfawr i arloesi. Gwelais gyflwyniadau ar gynhyrchu ynni na allech ond breuddwydio amdanynt; ni fyddech yn meddwl ei bod hi'n bosibl. Felly, rwy'n credu bod y cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag ynni'r llanw a'r môr yn enfawr ac yn amlwg, mae Ynys Môn yn bendant ar y blaen mewn perthynas â hynny. Felly, gan fynd â'r cyhoedd gyda chi, mae cadw hyder y cyhoedd yn bwysig iawn, ond rhaid i bawb dderbyn, os ydych am gael trydan, fod yn rhaid inni edrych ar ffyrdd newydd o'i gyflenwi.