Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft 2020-40

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:58, 9 Hydref 2019

Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd yma, mae'n rhaid inni gynyddu faint o drydan rydyn ni'n ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddol. Mae hefyd angen inni gael cefnogaeth y cyhoedd i hynny. Mae'r fframwaith drafft yn adnabod ardal sylweddol o Ynys Môn y dylid ei hystyried yn ardal flaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni solar a gwynt. Mae'r ymchwil yn seiliedig ar godi tyrbinau o hyd at 250m o daldra. Os meddyliwn ni am y pethau talaf yn Ynys Môn, dydy Tŵr Marcwis ond yn 106m, simdde'r hen Alwminiwm Môn ddim ond yn 122m. Mae'r tir uchaf yn Môn, Mynydd Twr ar Ynys Cybi, ddim ond yn 220m. Ar dirwedd isel Môn, mae'n berffaith amlwg bod awgrymu tyrbinau o'r maint yma, neu unrhyw beth yn agos at y maint yna, yn gwbl amhriodol. Oes, mae yna le i ystyried y gwynt ar raddfa fach sy'n gweddu i'r tirwedd, ond ydy'r Gweinidog yn sylweddoli mai'r oll sydd wedi digwydd yn fan hyn, mewn difrif, ydy codi ofn a chodi gwrychyn? A wnaiff hi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru'n tynnu'r bygythiad yna yn ôl? Ond hefyd, efo cymaint o sgôp i Ynys Môn gynhyrchu trydan adnewyddol yn y môr, yn ynni gwynt ac ynni llanw, sydd ddim hyd yn oed yn cael ei grybwyll yn y fframwaith, a ydy'r Gweinidog yn gweld mai dyna'r ffordd orau i allu cynhyrchu mwy o ynni adnewyddol a chael cefnogaeth y cyhoedd i hynny?