Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch i chi, Weinidog. Mae'n ddrwg gennyf, ond nid wyf yn rhannu eich ffydd. Rwy'n cysylltu'n rheolaidd â physgotwyr ar Afon Dyfrdwy y mae ei dalgylch yn cyflenwi dŵr i 3 miliwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Y pysgotwyr hyn yw ein llygaid a'n clustiau ar yr afonydd, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hangen. Rwy'n pryderu'n fawr eu bod yn disgrifio gwahaniaeth nos a dydd rhwng eu hymwneud â hen asiantaeth yr amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent yn fwyfwy rhwystredig ac yn teimlo bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli diddordeb yn eu hadroddiadau ynghylch lygredd, mewn darparu unrhyw gymorth i glirio coed sydd wedi cwympo, ac yng nghynefin ac iechyd pysgod a rhywogaethau eraill yn yr afonydd. Beth y gallwch ei ddweud wrthynt i ddechrau ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru?