Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 9 Hydref 2019.
Mae'n ddrwg iawn gennyf nad ydych yn rhannu fy marn ynglŷn â staff Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran y mater penodol rydych yn ei ddwyn i fy sylw, byddaf yn sicr yn cael trafodaeth gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd. Yn sicr, nid dyna'r argraff a roddwyd i mi. Rydym wedi gweld digwyddiadau llygredd sylweddol yn ein hafonydd eleni, a chefais fy nghalonogi gan y ffordd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ateb y galwadau i fynd i ymchwilio iddynt. Felly, mae clywed yr hyn a ddywedwch yn peri pryder mawr i mi, ond mae'n ddrwg gennyf nad ydych yn rhannu fy marn am staff Cyfoeth Naturiol Cymru.