Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai y bydd yn help mawr i rannu'r amserlen gydag Aelodau rhanbarthol hefyd ynglŷn â'r pwynt a gododd David Rees.
Rwy'n siŵr eich bod chi'n cofio, yn sgil cwestiynau blaenorol, y gwnes i ofyn am y posibilrwydd y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ac ysgolion weithio gyda'i gilydd i blannu rhai coed bach er mwyn i'n plant allu dysgu am wyddoniaeth, natur, hanes Cymru a'r amgylchedd, wrth gwrs—paratoad perffaith ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ar y pryd, doeddech chi ddim yn siŵr a oedd gwaith presennol Cyfoeth Naturiol Cymru gydag ysgolion yn ymwneud yn benodol â phlannu coed a dywedoch y byddech yn siarad â'r Gweinidog Addysg. A gafwyd cynnydd ar hyn?