1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2019.
10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ailblannu coed yng Nghwm Afan ar ôl cwympo coed yn yr ardal? OAQ54499
Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n ddiwyd i barhau i dorri coed a heintiwyd â phytophthora ramorum yng nghwm Afan. Maent yn ailblannu'r ardal â chymysgedd mwy amrywiol o rywogaethau coed conwydd a llydanddail, ac yn adfer cynefinoedd agored ar yr ucheldiroedd hyn. Bydd hyn yn sicrhau strwythur mwy amrywiol, bioamrywiol a gwydn.
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall pa gynlluniau sydd gennym. Pe gallem gael amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, byddai'n ddiddorol. Oherwydd ar ddechrau'r ddegawd, gwelsom ddatgoedwigo o ganlyniad i'r clefyd. Gwelsom y difrod a wnaed i goedwigaeth oherwydd bod ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu yng nghwm Afan. Canlyniadau'r rheini yw colli twristiaeth, o ran cerdded a beicio yn yr ardal, ac rydym yn ceisio denu hynny'n ôl. Rydym yn awr yn gweld mwy o gwympo coed yn yr ardal, o ganlyniad i benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i dorri mwy o goed—ac mae hynny, unwaith eto, yn effeithio ar y cynnig twristiaeth. Rydym angen y cynnig hwnnw oherwydd mae'n esblygu ac yn datblygu economi'r ardaloedd hynny. Felly, byddai amserlen o'r cynlluniau i ailblannu, a rhestr o ble y bydd hynny'n digwydd, fel y gallwn ddeall sut y gallwn adeiladu ar yr economi leol, yn ddefnyddiol. Byddai'n braf pe gallech annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi hynny i ni.
Fel y dywedais, nid cynaeafu pren masnachol arferol yw'r gwaith cwympo coed a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru; mae'n waith hanfodol i reoli lledaeniad P. ramorum. Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Yn amlwg, mae ailblannu'n mynd rhagddo, fel y gwyddoch, a hyd yn hyn, cafodd cyfanswm o 745 hectar eu cwympo, ac ailblannwyd 720 hectar yng nghwm Afan rhwng 2011 a 2019. Felly, rwyf am ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru a allant roi amserlen a rhestr i chi i ddangos ble yn union y byddant yn ailblannu, fel bod gennych yr wybodaeth honno. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am dwristiaeth, ac rwy'n deall bod coedwigoedd yn rhan gynhenid o fywydau pobl fel llefydd i fyw a gweithio ynddynt, neu i ymlacio a gwneud ymarfer corff, felly credaf eu bod yn bwysig iawn. A gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau edrych ar gynyddu eu hymgysylltiad â chymunedau a busnesau lleol, ac annog pobl i rannu eu syniadau, eu safbwyntiau a'u mewnbwn ar ddyfodol eu coedwig leol.
Yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai y bydd yn help mawr i rannu'r amserlen gydag Aelodau rhanbarthol hefyd ynglŷn â'r pwynt a gododd David Rees.
Rwy'n siŵr eich bod chi'n cofio, yn sgil cwestiynau blaenorol, y gwnes i ofyn am y posibilrwydd y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ac ysgolion weithio gyda'i gilydd i blannu rhai coed bach er mwyn i'n plant allu dysgu am wyddoniaeth, natur, hanes Cymru a'r amgylchedd, wrth gwrs—paratoad perffaith ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ar y pryd, doeddech chi ddim yn siŵr a oedd gwaith presennol Cyfoeth Naturiol Cymru gydag ysgolion yn ymwneud yn benodol â phlannu coed a dywedoch y byddech yn siarad â'r Gweinidog Addysg. A gafwyd cynnydd ar hyn?
Buaswn yn hapus iawn i rannu'r wybodaeth honno gydag Aelodau rhanbarthol, os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus i wneud hynny.
Ni allaf gofio a wyf wedi cael y drafodaeth benodol honno gyda'r Gweinidog addysg, ond rwy'n sicr wedi cael y drafodaeth honno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n rhywbeth y maent yn awyddus iawn i'w ystyried ac wedi dweud y byddent yn ei ddatblygu.
Diolch i'r Gweinidog.