Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 9 Hydref 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn ôl yn 2013, pan wnaeth y cyn-Weinidog materion gwledig, Alun Davies, wthio modiwleiddio i'r eithaf, os cofiwch, gan symud yr uchafswm o 15 y cant o golofn 1 i golofn 2, cafodd ei ddisgrifio ar y pryd fel rhywbeth a fyddai'n arwain at 'newid trawsnewidiol' yn ei eiriau ef. A yw wedi gwneud hynny?