Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 9 Hydref 2019.
Fe sonioch chi'n gynharach am gydweithrediad cynghrair y môr Celtaidd a arwyddwyd gennych, sydd i'w groesawu'n fawr. Fy nghwestiwn, yn syml iawn, yw: mewn perthynas â'r ymrwymiad hwn, a fydd, gobeithio, yn datblygu mwy o brosiectau ynni cynaliadwy o fewn y môr Celtaidd—ac yn benodol, ffermydd gwynt sy'n arnofio, yn ôl yr hyn a ddeallaf—pa ddarpariaethau a geir o fewn y cydweithrediad hwn i sicrhau bod cymunedau ac awdurdodau lleol hefyd yn rhan o'r gwaith datblygu hwn, yn ogystal ag ar lefel genedlaethol?