1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2019.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau lleol i chwarae mwy o ran mewn prosiectau ynni? OAQ54460
Rydym eisoes yn cynorthwyo cymunedau ac awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ac yn annog cydweithio er mwyn cynyddu'r manteision o gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu ynni. Rwyf wedi sefydlu gweithgor i ddatblygu canllawiau ar ranberchnogaeth ar ddatblygiadau ynni, a fydd yn ein helpu i ddeall pa gamau pellach y gallai fod eu hangen.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo, yn enwedig fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ar y berchenogaeth gymunedol honno. Ond yn ôl yn 2017, cafodd Canolfan Ymchwil Ynni y DU olwg ar draws awdurdodau lleol ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a darganfu fod eu hymgysylltiad â'r gwaith o reoli ynni yn gyfyngedig, a chapasiti cyfyngedig oedd ganddynt, mewn gwirionedd, i gymryd rhan yn y gwaith o reoli ynni'n strategol. Mae hyn er gwaethaf prosiectau unigol gwych, gan gynnwys yr un yng Nghaerau yn fy etholaeth, sef y prosiect dŵr mwynglawdd geothermol. Ond aeth yr adroddiad rhagddi i wneud 10 o argymhellion pellgyrhaeddol eithaf radical, gan gynnwys y syniad o ddyletswydd statudol ar awdurdod lleol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau carbon isel ardal gyfan, cynlluniau lleol gorfodol ar gyfer gwres carbon isel a chronfa effeithlonrwydd ynni ganolog ar gyfer buddsoddi mewn darpariaeth a gwasanaethau ynni lleol. Roeddent yn argymhellion eithaf radical, ac ni allwn wneud pob un dros nos, ond mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a yw wedi cael amser i edrych ar yr argymhellion hynny a rhai eraill i weld sut y gallwn ddefnyddio pŵer awdurdodau lleol a'u harbenigedd, gan ddatganoli rhywfaint o gyllid ochr yn ochr â hynny—oherwydd dyna oedd un o'r argymhellion—i weddnewid ynni lleol a rhoi pŵer, yn llythrennol, yn nwylo pobl leol, drwy fesurau cydweithredol, ond hefyd drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn a ddylent.
Yn gyntaf, rwy'n falch iawn eich bod yn cefnogi prosiect Caerau—fe ddaeth i fodolaeth yn dilyn gwaith caled iawn, rwy'n credu, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond hefyd yn sgil y gefnogaeth gan ein rhaglen Byw yn Glyfar, a sicrhaodd rôl ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr fel arddangoswr yn y peilot cynllunio ynni Catapult. Ac yn amlwg, cawsant gefnogaeth gennym ni fel Llywodraeth i gyrraedd y cam hwnnw. Fel y dywedwch, gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion. Roeddent yn bendant yn galw am y cyfeiriad a osodwyd gennym yn 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Rwy'n credu bod rôl awdurdodau lleol ym maes ynni, a gollwyd ar ôl preifateiddio—rwy'n credu y bydd yn gwbl allweddol i ddyfodol ein system ynni. Felly, rydym wedi gwneud llawer i gefnogi awdurdodau lleol. Rydym wedi cyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni a phrosiectau cynhyrchu ynni newydd. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y rôl bwysig iawn sydd ganddynt i'w chwarae o ran carbon isel. Mewn perthynas â'r argymhellion, rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi'r argymhellion. Felly, er enghraifft, un ohonynt oedd cyflwyno'r ddyletswydd statudol, fel y sonioch chi, i ddatblygu a gweithredu cynlluniau carbon isel ar draws ardal gyfan dros amserlen a osodwyd. Nid oedd yn yr adroddiad terfynol, ond rydym wedi edrych ar hynny ac rydym wedi dechrau gwneud gwaith cynllunio ynni, er enghraifft, a modelu i sicrhau bod cyfleoedd a chyfyngiadau penodol yn cael eu hystyried yng nghyd-destun system ynni sy'n esblygu'n barhaus.
Fe sonioch chi'n gynharach am gydweithrediad cynghrair y môr Celtaidd a arwyddwyd gennych, sydd i'w groesawu'n fawr. Fy nghwestiwn, yn syml iawn, yw: mewn perthynas â'r ymrwymiad hwn, a fydd, gobeithio, yn datblygu mwy o brosiectau ynni cynaliadwy o fewn y môr Celtaidd—ac yn benodol, ffermydd gwynt sy'n arnofio, yn ôl yr hyn a ddeallaf—pa ddarpariaethau a geir o fewn y cydweithrediad hwn i sicrhau bod cymunedau ac awdurdodau lleol hefyd yn rhan o'r gwaith datblygu hwn, yn ogystal ag ar lefel genedlaethol?
Fel y sonioch chi, rhoddais fy nghefnogaeth i gynghrair y môr Celtaidd a chyfarfûm â chydweithwyr o'r gynghrair honno yn Nulyn yr wythnos ddiwethaf. Cyfarfod rhagarweiniol oedd hwnnw, yn amlwg. Bydd swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda hwy yn awr er mwyn sicrhau ein bod yn cael pob budd a allwn o'r gynghrair honno. Ond yn amlwg, mae gan awdurdodau lleol ran enfawr i'w chwarae yma—awdurdodau lleol penodol—a byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda hwy wrth i ni aeddfedu'r gynghrair honno.