Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 9 Hydref 2019.
Fel y dywedais, nid cynaeafu pren masnachol arferol yw'r gwaith cwympo coed a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru; mae'n waith hanfodol i reoli lledaeniad P. ramorum. Gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Yn amlwg, mae ailblannu'n mynd rhagddo, fel y gwyddoch, a hyd yn hyn, cafodd cyfanswm o 745 hectar eu cwympo, ac ailblannwyd 720 hectar yng nghwm Afan rhwng 2011 a 2019. Felly, rwyf am ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru a allant roi amserlen a rhestr i chi i ddangos ble yn union y byddant yn ailblannu, fel bod gennych yr wybodaeth honno. Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn am dwristiaeth, ac rwy'n deall bod coedwigoedd yn rhan gynhenid o fywydau pobl fel llefydd i fyw a gweithio ynddynt, neu i ymlacio a gwneud ymarfer corff, felly credaf eu bod yn bwysig iawn. A gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau edrych ar gynyddu eu hymgysylltiad â chymunedau a busnesau lleol, ac annog pobl i rannu eu syniadau, eu safbwyntiau a'u mewnbwn ar ddyfodol eu coedwig leol.