Dyraniadau Cyllid

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:21, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae Ynys Môn yn un o bum awdurdod lleol lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw gwirfoddol, a lefelau ffyniant y pen ar Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner lefelau ffyniant y pen yng Nghaerdydd. Eto i gyd, y flwyddyn ariannol hon, cafodd Caerdydd godiad o 0.9 y cant, oherwydd rydych yn nodi bod Ynys Môn yn y grŵp gyda'r toriadau mwyaf ynghyd â phedwar arall, gan gynnwys Conwy a Sir y Fflint. Sut y sicrhewch na fydd dull gwell o fesur y dangosyddion amddifadedd hynny'n rhoi Ynys Môn a chynghorau eraill yr effeithiwyd arnynt mewn sefyllfa debyg eto?