2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 9 Hydref 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2020-21? OAQ54481
Gwnaf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi setliad dros dro i lywodraeth leol ar 26 Tachwedd, wythnos ar ôl cyllideb ddrafft arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu manylion am y cyllid craidd i gynghorau ar gyfer 2020-21. Ynghyd â'r setliad, byddaf yn cyhoeddi dynodiadau cynnar o grantiau penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Diolch yn fawr iawn ichi. Yn gyntaf, a wnaiff y Gweinidog ymuno â fi i longyfarch Cyngor Sir Ynys Môn ar gael ei farnu'r ail orau yng Nghymru mewn astudiaeth newydd? Mae'r arweinydd o Blaid Cymru, Llinos Medi, a'i thîm yn haeddu pob clod, felly hefyd y cyn prif weithredwr, Gwyn Jones, a'i dîm, ac a gaf i ddymuno'n dda iawn i'w olynydd o, Annwen Morgan, wrth iddi hi ddechrau ar ei gwaith? Ond mae'r llwyddiant yna wedi dod yn wyneb heriau ariannol difrifol iawn. Mi fu'n rhaid i'r cyngor wneud toriadau o ryw £2.5 miliwn eleni, yn dod â chyfanswm y toriadau i ryw £25 miliwn. A'r unig ffordd y llwyddwyd i gydbwyso'r llyfrau eleni oedd efo cynnydd treth cyngor o bron i 10 y cant, fel gymaint o gynghorau eraill. Ond all hynny ddim bod yn opsiwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Does yna'r unlle ar ôl i dorri, ar wahan i addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac efo'r gwella sylweddol mewn gwasanaethau plant a'r pwysau cynyddol ar wasanaethau oedolion, allwn ni ddim bygwth y gwasanaethau i'n pobl fwyaf bregus.
Rŵan, efo chwyddiant a chynnydd yn y galw am wasanaethau, mae cyngor Môn angen £6 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf dim ond i sefyll yn llonydd. Mi fyddai cynnydd treth cyngor o 5 y cant, sy'n dal yn ormod, yn dod â rhyw £2 miliwn i mewn, ond ar ben hynny byddai angen £4 miliwn yn fwy arnyn nhw—nid cyllideb fflat, nid rhewi, nid eu hachub nhw rhag toriadau pellach, nid grantiau penodol, ond arian ychwanegol yn y gyllideb graidd. Ydy'r Gweinidog yn sylweddoli mai dyna'r sefyllfa bellach? Ydy hi'n sylweddoli bod gwaith ataliol cynghorau'n arbed arian i gyrff eraill, fel gwasanaethau iechyd, a does yna'r unlle i'w dorri yn Ynys Môn? Rydym ni angen addewid ac rydym ni angen sicrwydd bod yna newid ar fyd.
Ie, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am sefyllfa awdurdodau lleol ym mhob cwr o Gymru. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn hapus iawn i ymuno ag ef i longyfarch Ynys Môn. Mae Llinos wedi gwneud gwaith anhygoel yno. Mae'n ddynes ifanc ysbrydoledig iawn, y math o berson y dylem fod yn denu mwy o'i thebyg i wleidyddiaeth. Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda hi ar y rhaglen tai arloesol, ac maent wedi gwneud gwaith gwych, felly rwy'n hapus iawn i ymuno â chi i ddweud hynny. Llongyfarchiadau iddi hi a'i thîm, y rhai blaenorol a'r rhai a fydd yn dechrau.
O ran y pwysau cyffredinol, roedd Ynys Môn, fel y gwyddoch, yn un o'r rhai a oedd ar gyllid gwaelodol y tro diwethaf. Cawsant yr arian ychwanegol a oedd gennym er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd yr un cyngor yn gostwng yn is na 0.2 y cant, rwy'n credu. Gwnaethom hynny am nad oeddem eisiau i bobl gael amrywiadau enfawr yn eu cyllid yn wyneb cyni. Dyma'r nawfed flwyddyn o gyni. Nid ydym yn honni bod unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gwneud unrhyw beth heblaw gwneud dewisiadau erchyll am raglenni mawr eu hangen. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: nid ydym yn torri pethau sy'n 'braf eu cael' yma. Mae'r toriadau hyn yn torri i'r asgwrn, felly rwy'n cydnabod hynny'n llwyr.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddeall yr hyn rydym yn edrych arno yn gyffredinol. Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid, i sicrhau bod gennym y setliad gorau posibl, o ystyried ein sefyllfa. Nid wyf am ailadrodd ein sefyllfa ar hyn o bryd, ond mae gennym addewidion o rai symiau canlyniadol, ond addewidion yn unig ydynt ar hyn o bryd. Nid ydym eto wedi gweld cyllideb, pleidleisiau yn Nhŷ'r Cyffredin na dim byd arall. Mae'n amlwg ein bod mewn cyfnod cyfnewidiol iawn, ond rydym yn bwrw ymlaen ac yn cynllunio cymaint ag y gallwn ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi cael perthynas dda gyda CLlLC, a chyfarfod da iawn gyda hwy yn y cyngor partneriaeth a'r is-grŵp cyllid, sgwrs agored a thryloyw ynglŷn â ble rydym arni mewn perthynas â chyllid a ble y byddwn arni yn y dyfodol. Felly, ni allaf ddweud mwy na hynny ar hyn o bryd; rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny.
Y peth arall y buaswn yn ei ddweud—a gwn fod gan lywodraeth leol ddiddordeb mawr yn hyn—rydym yn gweithio'n galed iawn ar draws y Llywodraeth i roi'r grantiau penodol ar waith cyn gynted ag y gallwn, ac i sicrhau na fydd unrhyw doriadau anfwriadol yn y gyllideb mewn mannau eraill o ganlyniad i symudiadau ar draws y Llywodraeth. Felly, mae'n waith eithaf cymhleth, ond rydym yn gobeithio cyflwyno darlun mor bendant â phosibl, mor gynnar â phosibl, o'r hyn y byddant yn ei gael, fel y gallant fod yn y sefyllfa orau bosibl i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch: rydym yn sicr mewn sefyllfa lle mae pobl yn gwneud dewisiadau anodd iawn ynglŷn â gwasanaethau wrth symud ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod dangosyddion amddifadedd yn dylanwadu'n drwm ar ei fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae Ynys Môn yn un o bum awdurdod lleol lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw gwirfoddol, a lefelau ffyniant y pen ar Ynys Môn yw'r rhai isaf yng Nghymru, ar ychydig o dan hanner lefelau ffyniant y pen yng Nghaerdydd. Eto i gyd, y flwyddyn ariannol hon, cafodd Caerdydd godiad o 0.9 y cant, oherwydd rydych yn nodi bod Ynys Môn yn y grŵp gyda'r toriadau mwyaf ynghyd â phedwar arall, gan gynnwys Conwy a Sir y Fflint. Sut y sicrhewch na fydd dull gwell o fesur y dangosyddion amddifadedd hynny'n rhoi Ynys Môn a chynghorau eraill yr effeithiwyd arnynt mewn sefyllfa debyg eto?
Mae is-grŵp dosbarthu'r cyngor partneriaeth yn gweithio'n galed iawn ar y dangosyddion yn gyffredinol. Mae gennym grŵp adolygu cyson sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y dangosyddion fel ag y maent. Y teulu llywodraeth leol ei hun sy'n gyfrifol am hyn, ac mae gan Ynys Môn, fel llawer o gynghorau eraill, seddau ar yr is-grŵp ariannol a'r is-grŵp dosbarthu. Mae arweinydd Ynys Môn, y cyfeiriais ati yn awr, yn dod i gyfarfodydd y cyngor partneriaeth; rwy'n cyfarfod â hi'n aml iawn. Y llynedd, dioddefodd Ynys Môn o amrywiaeth o symudiadau anffafriol yn y dangosyddion, megis amcanestyniadau poblogaeth, niferoedd disgyblion ysgolion uwchradd, prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd a phlant mewn teuluoedd di-waith, ac mae'r dangosyddion hynny'n amrywio. Felly, yn amlwg, mae'r dosbarthiad yn gweithio'n wahanol yn ôl ystod o ddangosyddion. Rwyf wedi cael y sgwrs hon gydag Aelodau sawl gwaith; rydym yn cynnig, drwy'r amser, i awdurdod lleol sy'n credu nad yw'r dulliau o fesur yn iawn gynnig ei awgrymiadau ynghylch addasiadau i fformiwla'r is-grŵp dosbarthu, ac rydym yn gweithio drwy'r hyn y byddai hynny'n ei olygu i deulu'r awdurdod lleol yn gyffredinol. Mae'r cynnig hwnnw bob amser ar y bwrdd, fel y mae yn awr.