Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Hydref 2019.
Gwnaf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi setliad dros dro i lywodraeth leol ar 26 Tachwedd, wythnos ar ôl cyllideb ddrafft arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd yn darparu manylion am y cyllid craidd i gynghorau ar gyfer 2020-21. Ynghyd â'r setliad, byddaf yn cyhoeddi dynodiadau cynnar o grantiau penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.