Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 9 Hydref 2019.
Wel, nid oes gennyf unrhyw syniad ynglŷn â manylion yr achosion y mae Janet Finch-Saunders yn eu disgrifio. Os ydych chi eisiau ysgrifennu ataf, mae hynny'n iawn. Ond yn gyntaf oll, gwasanaeth heb ei ddatganoli a ddarparir gan ein hawdurdodau lleol yw safonau masnach, ac yn ail, mae'n anodd iawn gwneud datganiad cyffredinol am effeithiolrwydd neu ddiffyg effeithlonrwydd polisi erlyn ar sail tri achos rwyf newydd glywed amdanynt. Felly, os ydych am ysgrifennu ataf a rhoi manylion hynny i mi, rwy'n hapus i edrych arno.
Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn ochelgar iawn rhag rhoi achos llys ar waith oherwydd mae'n ddefnydd enfawr ar eu hadnoddau mewn amgylchiadau cyfyngedig. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar fanylion yr achosion a nododd.