Polisi Cynllunio ar gyfer Tai Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:53, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Tua diwedd 2016, gwnaeth Mark Lang Barc Lansbury yn destun astudiaeth ddofn i geisio deall achosion gwaelodol amddifadedd cymharol yr ardal. Ac er nad oes atebion hawdd, arweiniodd at benderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fabwysiadu cynllun dwfn i fynd i'r afael â'r problemau amlochrog hyn. Yng nghynhadledd flynyddol fwyaf diweddar bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Caerffili, a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, canmolodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ym Mharc Lansbury a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnal mynediad i fannau gwyrdd naturiol ar gyfer trigolion yr ystâd. Crybwyllwyd hyn yn benodol yn y gynhadledd honno. Dylai pobl heblaw'r cymunedau mwy cefnog gael mwynhau mannau gwyrdd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod codi tai drud newydd ar fannau gwyrdd ger cymunedau—fel Parc Lansbury er enghraifft—yn peryglu hyn ac yn nodwedd o ddatblygu anghynaliadwy, yn groes i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?