Polisi Cynllunio ar gyfer Tai Newydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:54, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Ie. Wel, fel y gŵyr Hefin David, ni allaf roi sylwadau ar fanylion unrhyw gais cynllunio penodol, ond yn gyffredinol, rwy'n hapus iawn i ddweud fy mod yn cytuno â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol am bwysigrwydd mynediad i fannau gwyrdd i bob un o'n cymunedau, yn enwedig y rhai sydd â llai o fynediad, mewn gwirionedd. Ac mae hynny'n gwella iechyd a lles yn fawr, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, ac adlewyrchir hynny ar hyn o bryd yn y polisi cynllunio, ac mae angen ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau pwyllgorau cynllunio ac ym mhenderfyniadau'r arolygiaeth.