Marco Cable Management

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 9 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:25, 9 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys â phawb y mae'r newyddion pryderus hyn yn effeithio arnynt. Mae hwn yn gyfnod ansicr iawn i'r gweithwyr yn Marco Cable, i'w teuluoedd ac i gymuned ehangach Ynys Môn hefyd yn fy marn i, ond byddwn yn cydweithio'n agos â phawb sydd ynghlwm wrth hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori i archwilio pob opsiwn sydd ar gael i gynorthwyo a chefnogi pobl.