Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder bod hynny'n dangos dirmyg llwyr tuag at bobl Cymru, y sefydliad hwn a'r Llywodraeth sy'n deillio ohono? Onid yw'n dangos bod gan Brif Weinidog presennol y DU ddiddordeb yn Lloegr ac nid mewn unman arall? Rydym ni'n gwybod bod aelodaeth y Blaid Geidwadol, os ydym ni'n credu'r polau piniwn, yn poeni mwy am Brexit na'r undeb. Ac yn wir, cwestiwn traethawd, rwy'n clywed, ym Mhrifysgol Caerdydd yn fuan fydd, 'A yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn dal i fod y ddau beth hynny?' Felly, onid yw'n cytuno ei bod yn dangos dirmyg tuag at y Llywodraeth hon nad yw Prif Weinidog y DU yn ymgysylltu â hi? Ac a yw hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol wedi torri? Mae angen cael perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod parch gwell a mwy cyfartal, fel na all Prif Weinidog y DU anwybyddu pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y dyfodol.