1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Hydref 2019.
3. Pa drafodaethau am Brexit y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf? OAQ54536
Llywydd, nid oes unrhyw drafodaethau o'r fath wedi cael eu cynnal gyda Phrif Weinidog y DU yn ystod y mis diwethaf.
A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder bod hynny'n dangos dirmyg llwyr tuag at bobl Cymru, y sefydliad hwn a'r Llywodraeth sy'n deillio ohono? Onid yw'n dangos bod gan Brif Weinidog presennol y DU ddiddordeb yn Lloegr ac nid mewn unman arall? Rydym ni'n gwybod bod aelodaeth y Blaid Geidwadol, os ydym ni'n credu'r polau piniwn, yn poeni mwy am Brexit na'r undeb. Ac yn wir, cwestiwn traethawd, rwy'n clywed, ym Mhrifysgol Caerdydd yn fuan fydd, 'A yw'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn dal i fod y ddau beth hynny?' Felly, onid yw'n cytuno ei bod yn dangos dirmyg tuag at y Llywodraeth hon nad yw Prif Weinidog y DU yn ymgysylltu â hi? Ac a yw hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol wedi torri? Mae angen cael perthynas newydd rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod parch gwell a mwy cyfartal, fel na all Prif Weinidog y DU anwybyddu pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y dyfodol.
Llywydd, rwy'n cytuno â Carwyn Jones ei bod hi'n sicr yn rhyfeddol, ar ôl bod yn y swydd ers nifer o fisoedd erbyn hyn, bod Prif Weinidog y DU wedi methu â galw un cyfarfod llawn o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion. Pan yr oedd Mrs May yn Brif Weinidog y DU, cynhaliodd gyfarfod llawn o'r fath yn y fan yma yng Nghaerdydd. Nid yw Prif Weinidog newydd y DU, ar ôl cychwyn ar ei daith imperialaidd o amgylch Lloegr, Cymru a'r Alban bryd hynny, erioed wedi cael ei weld ers hynny.
Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am yr angen am berthynas newydd—perthynas well, gyfartal a pharchus—wrth wraidd dogfen y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi, ac y byddaf yn gwneud datganiad arni yn ddiweddarach y prynhawn yma. Oherwydd mae honno'n ceisio ymwreiddio'r trefniadau hynny fel nad ydyn nhw ar fympwy unigolyn, fel bod un Prif Weinidog y DU yn eu parchu ac nad yw Prif Weinidog nesaf y DU yn cymryd unrhyw sylw ohonynt.
O ystyried cyflwr ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, o ystyried y ffaith bod cyfrifoldebau datganoledig eglur a sylweddol yn y fantol yn y trafodaethau hynny, mae'n gwbl ryfeddol nad yw Cydbwyllgor y Gweinidogion wedi cael ei alw ynghyd, er gwaethaf ceisiadau gennyf i a chan Nicola Sturgeon y dylai hynny ddigwydd. Ac mae'n ddrwg gen i ddweud ei fod yn arwydd o'r ffordd y mae Prif Weinidog presennol y DU yn barod i esgeuluso cyfrifoldebau sylfaenol bwysig ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig, tra ei fod yn hytrach yn mynd ar drywydd y gwahanol fathau o freuddwydion gwrach y mae wedi eu rhoi o'n blaenau o ran trefniant gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Clywais y cyfeiriadau at ddirmyg. Beth am ddirmyg tuag at farn pobl Cymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r esgeulustod y mae eich Llywodraeth chi wedi ei ddangos i gefnogi ymdrechion Llywodraeth y DU i gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw trwy gefnogi Prif Weinidog y DU i gyflawni Brexit erbyn 31 Hydref? Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pa fath o gyngor fyddech chi'n gallu ei roi i Brif Weinidog y DU ar Brexit, o gofio bod gan eich plaid o leiaf dri safbwynt ar y mater? Ar y naill law, mae gennych chi safbwynt Jeremy Corbyn, sef, mae'n ymddangos, 'Gadewch i ni gael etholiad cyffredinol, yna refferendwm, a dywedaf wrthych chi sut i ymgyrchu ar ôl i ni gyrraedd y fan honno.' Ar y llaw arall, mae gennych chi safbwynt Llywodraeth Cymru, sy'n ymddangos, yr wythnos diwethaf o leiaf, i bob golwg, y dylid cynnal refferendwm ac yna byddwch yn ymgyrchu i aros, ni waeth pa fath o gytundeb y gallai Llywodraeth Jeremy Corbyn ddychwelyd ag ef o Frwsel. Ac mae gennych chi raniad hefyd, wrth gwrs, o fewn Llywodraeth Cymru, gyda Jeremy, ar eich mainc flaen—y Jeremy arall, os cawn ni ei alw'n hynny—eich Gweinidog Brexit, sydd wedi ei gwneud yn gwbl eglur mai ei farn ef yw y dylai fod refferendwm cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur ar Brexit mewn gwirionedd, a sut ar wyneb y ddaear ydych chi'n credu bod hynny'n ddefnyddiol mewn unrhyw fath o sgwrs y gallech chi ei chael gyda Phrif Weinidog y DU?
Llywydd, am fisoedd a misoedd ar ôl refferendwm 2016, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn y fan yma i gyflwyno ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi amddiffyn ein heconomi a'n swyddi. Fe'i cyhoeddwyd gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd yn seiliedig ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn dangos ffordd o wneud hynny na fyddai wedi aberthu swyddi yng Nghymru, cwmnïau Cymru a chymunedau Cymru. Am fis ar ôl mis, ceisiasom berswadio Llywodraeth y DU i gytuno â'r prosbectws hwnnw, a dim ond pan ddaeth yn gwbl eglur nad oedd unrhyw siawns o gwbl o bersawdio Llywodraeth y DU o ffurf ar Brexit a fyddai wedi amddiffyn buddiannau Cymru y gwnaethom ni benderfynu nad oedd yn bosibl parhau i hyrwyddo'r safbwynt hwnnw gyda hygrededd mwyach.
Y ffordd yr ydym ni'n parchu pobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n bwysig iawn parchu pobl sy'n arddel gwahanol safbwynt ar y mater hynod rwygol hwn—y ffordd yr ydym ni'n parchu safbwynt y bobl hynny yw dweud bod yr amser wedi dod pan ddylai'r penderfyniad ddychwelyd i'w dwylo nhw ac i ddwylo dinasyddion eraill. Nid oes unrhyw beth yn amharchus mewn democratiaeth ynghylch dweud wrth bobl yr hoffem iddyn nhw gael y cyfle i ddatrys y mater hynod rwygol hwn. Ac mae ein polisi ni fel Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur ers dechrau'r haf: dylai'r penderfyniad ddychwelyd i ddwylo dinasyddion. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros. Ac rydym ni'n gwneud hynny hefyd gyda pharch at bobl sy'n arddel gwahanol safbwynt i ni, oherwydd rydym ni wedi dod i'r casgliad, o bopeth yr ydym ni wedi ei weld, nad oes unrhyw gytundeb gwell na'r cytundeb sydd gennym ni nawr, sef y cytundeb sydd gennym ni drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r ffordd orau y gellir sicrhau dyfodol teuluoedd Cymru a dyfodol Cymru. Byddwn yn dadlau'r achos hwnnw, a byddwn yn ei ddadlau mewn ffordd sy'n barchus, tuag at bobl sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd a phobl sydd â barn wahanol. Ond nid ydych chi'n parchu pobl trwy beidio â dweud wrthyn nhw beth yw'r safbwynt onest yr ydych chi wedi ei fabwysiadu, ac mae popeth yr wyf i wedi ei weld yn fy arwain at y casgliad hwnnw—anodd fel y mae'n gallu bod mewn rhai lleoedd, lle nad yw pobl yn cytuno, ond nid wyf i'n barod i fynd allan a dweud wrth bobl yng Nghymru unrhyw beth heblaw'r gwir fel yr wyf i'n ei weld. Bydd gan bobl eraill wirioneddau eraill, a bydd refferendwm yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu barn hwythau hefyd. Dyna pam yr ydym ni wedi mabwysiadu'r safbwynt sydd gennym ni, ac rwy'n credu ei fod yn parchu'r holl safbwyntiau sy'n bodoli ar y mater hwn.