Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Hydref 2019.
Llywydd, am fisoedd a misoedd ar ôl refferendwm 2016, gweithiodd Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn y fan yma i gyflwyno ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi amddiffyn ein heconomi a'n swyddi. Fe'i cyhoeddwyd gennym yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd yn seiliedig ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn dangos ffordd o wneud hynny na fyddai wedi aberthu swyddi yng Nghymru, cwmnïau Cymru a chymunedau Cymru. Am fis ar ôl mis, ceisiasom berswadio Llywodraeth y DU i gytuno â'r prosbectws hwnnw, a dim ond pan ddaeth yn gwbl eglur nad oedd unrhyw siawns o gwbl o bersawdio Llywodraeth y DU o ffurf ar Brexit a fyddai wedi amddiffyn buddiannau Cymru y gwnaethom ni benderfynu nad oedd yn bosibl parhau i hyrwyddo'r safbwynt hwnnw gyda hygrededd mwyach.
Y ffordd yr ydym ni'n parchu pobl a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n bwysig iawn parchu pobl sy'n arddel gwahanol safbwynt ar y mater hynod rwygol hwn—y ffordd yr ydym ni'n parchu safbwynt y bobl hynny yw dweud bod yr amser wedi dod pan ddylai'r penderfyniad ddychwelyd i'w dwylo nhw ac i ddwylo dinasyddion eraill. Nid oes unrhyw beth yn amharchus mewn democratiaeth ynghylch dweud wrth bobl yr hoffem iddyn nhw gael y cyfle i ddatrys y mater hynod rwygol hwn. Ac mae ein polisi ni fel Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur ers dechrau'r haf: dylai'r penderfyniad ddychwelyd i ddwylo dinasyddion. Pan ddaw'r cyfle hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros. Ac rydym ni'n gwneud hynny hefyd gyda pharch at bobl sy'n arddel gwahanol safbwynt i ni, oherwydd rydym ni wedi dod i'r casgliad, o bopeth yr ydym ni wedi ei weld, nad oes unrhyw gytundeb gwell na'r cytundeb sydd gennym ni nawr, sef y cytundeb sydd gennym ni drwy aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r ffordd orau y gellir sicrhau dyfodol teuluoedd Cymru a dyfodol Cymru. Byddwn yn dadlau'r achos hwnnw, a byddwn yn ei ddadlau mewn ffordd sy'n barchus, tuag at bobl sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd a phobl sydd â barn wahanol. Ond nid ydych chi'n parchu pobl trwy beidio â dweud wrthyn nhw beth yw'r safbwynt onest yr ydych chi wedi ei fabwysiadu, ac mae popeth yr wyf i wedi ei weld yn fy arwain at y casgliad hwnnw—anodd fel y mae'n gallu bod mewn rhai lleoedd, lle nad yw pobl yn cytuno, ond nid wyf i'n barod i fynd allan a dweud wrth bobl yng Nghymru unrhyw beth heblaw'r gwir fel yr wyf i'n ei weld. Bydd gan bobl eraill wirioneddau eraill, a bydd refferendwm yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu barn hwythau hefyd. Dyna pam yr ydym ni wedi mabwysiadu'r safbwynt sydd gennym ni, ac rwy'n credu ei fod yn parchu'r holl safbwyntiau sy'n bodoli ar y mater hwn.