Blaenoriaethau Gwario ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ym Merthyr Tudful a Rhymni. Ym Merthyr, rydym ni wedi buddsoddi dros £2 filiwn drwy'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol bresennol, £225 miliwn ar gyfer gwelliannau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac rydym ni wedi ymrwymo £42.5 miliwn i fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.