Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, mae'n gwestiwn diddorol gan Dave Rowlands. Gallwn glywed cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn gweiddi'n frwd nad ydyn nhw'n poeni am effaith ariannol annibyniaeth: maen nhw eisiau eu gwlad yn ôl. Wel, ble'r ydym ni wedi clywed hynny— [Torri ar draws.] Ble'r ydym ni wedi clywed hynny o'r blaen? [Torri ar draws.] Prif Weinidog, mae eich ystadegau chi eich hun—[Torri ar draws.]