Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, bydd y Prif Weinidog yn gwybod y gellid ffugio unrhyw amcanestyniadau a gyhoeddir yr wythnos nesaf yn hawdd pe byddem ni'n ddigon anffodus i ethol Llywodraeth Lafur yn y dyfodol agos, oherwydd, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, pleidleisiodd y Blaid Lafur, i bob pwrpas, i ddiddymu pob rheolaeth effeithiol o fewnfudo. Yn arbennig, fe wnaethon nhw osod eu hunain yn erbyn unrhyw ffurf o reolaeth fewnfudo yn y dyfodol yn seiliedig ar gwotâu, capiau, targedau neu incymau, ac addawsant i gael gwared ar y rheolau presennol sy'n cyfyngu ar fynediad at lety a'r gwasanaeth iechyd gwladol i lawer o fewnfudwyr—a hefyd cael gwared ar y polisi 'dim hawl i arian cyhoeddus' sy'n atal rhai mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau.
Bydd yn cofio pan benderfynodd Llywodraeth Blair ganiatáu mewnfudo anghyfyngedig o ddwyrain Ewrop, ar ôl caniatáu i wledydd fel Gwlad Pwyl a Hwngari ymuno â'r UE, dywedodd Len McCluskey, arweinydd Unite, yn 2016 mai effaith hynny oedd ei fod yn arbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin ac wedi arwain at bwysau parhaus ar safonau byw ac ymgais systematig i gadw cyflogau i lawr a thorri costau diogelwch cymdeithasol i bobl sy'n gweithio. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn dweud ei fod bellach o blaid parhau â'r arbrawf enfawr hwnnw, y mae Len McCluskey yn dweud ei fod yn erbyn buddiannau pobl sy'n gweithio? Onid y gwir yw bod y Blaid Lafur, yn yr ymgais wyllt i ennill pleidleisiau ymfudwyr, wedi cefnu ar ddosbarthiadau gweithiol Prydain—yn enwedig, y dosbarth gweithiol gwyn?