Effaith Ariannol Annibyniaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:14, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i chi am hynna, Prif Weinidog. O gofio mai oddeutu £2 driliwn yw dyled genedlaethol y DU, nad yw, wrth gwrs, yn ddyled i Loegr yn unig—. Felly, gydag un o bob 20 o bobl yn y DU yn byw yng Nghymru, byddai hynny'n gwneud cyfran Cymru o'r ddyled honno yn £100 biliwn, gyda llog dyddiol o £7 miliwn. Onid yw hyn yn gwneud y ddadl dros annibyniaeth ychydig yn llai dymunol na'r hyn a arddelwyd mewn ffordd mor orfoleddus yng Ngwesty'r Grand yn Abertawe?