Y Cynllun Bathodyn Glas

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:37, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny. Wel, er gwaethaf unrhyw ddadl, mae etholwyr wedi dweud wrthyf i, er bod y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynllun y Bathodyn Glas yn dweud eu bod yn cefnogi'r model cymdeithasol, bod y ddeddfwriaeth â phwyslais meddygol, yn eu barn nhw, a'i bod yn cael ei chymhwyso'n anghyson. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, mae'r cyngor wedi mynnu bod meddyg ymgynghorol ysbyty yn darparu tystiolaeth, er nad yw'r ymgeiswyr o dan ofal meddyg ymgynghorol. A ydych chi'n derbyn, felly, bod y sefyllfa bresennol yn llanastr a bod eich arweiniad a'ch deddfwriaeth yn y maes hwn yn ddiffygiol?