2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 15 Hydref 2019.
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phriodoldeb y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ar y cynllun bathodyn glas? OAQ54531
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i adolygu y canllawiau y mae'n eu cyhoeddi ar amrywiaeth o faterion. Wrth gwrs, mae dadl wedi'i threfnu yfory, i drafod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru, ac mae'r Llywodraeth yn edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau.
Diolch am hynny. Wel, er gwaethaf unrhyw ddadl, mae etholwyr wedi dweud wrthyf i, er bod y canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gynllun y Bathodyn Glas yn dweud eu bod yn cefnogi'r model cymdeithasol, bod y ddeddfwriaeth â phwyslais meddygol, yn eu barn nhw, a'i bod yn cael ei chymhwyso'n anghyson. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, er enghraifft, mae'r cyngor wedi mynnu bod meddyg ymgynghorol ysbyty yn darparu tystiolaeth, er nad yw'r ymgeiswyr o dan ofal meddyg ymgynghorol. A ydych chi'n derbyn, felly, bod y sefyllfa bresennol yn llanastr a bod eich arweiniad a'ch deddfwriaeth yn y maes hwn yn ddiffygiol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae'r materion y mae e'n cyfeirio atyn nhw, wrth gwrs, yn faterion sy'n cael eu hystyried gan y pwyllgor yn bresennol ac y mae nifer o'i argymhellion yn berthnasol iddyn nhw. Gwn i fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn ymgysylltu â'r Pwyllgor ynghylch nifer o'r argymhellion hynny ar sail reolaidd. Ac fe ddywedaf eto ein bod yn edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Aelodau i'w ddweud yn y ddadl yfory, a bydd fy nghyd-Aelod yn ymateb ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Rwy'n cydnabod, Cwnsler Cyffredinol, bod llawer o'r materion hyn sy'n cael eu hystyried yn faterion i'r Gweinidog adrannol yn hytrach nag i chi, ond fy mhryder i yw gallu Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei pholisi'n cael ei ddilyn ledled y wlad. Oherwydd un o'r materion sydd newydd gael ei godi gan Aelod Plaid Cymru dros Dde-orllewin Cymru—yr wyf wedi'i wynebu yn fy etholaeth fy hun—yw nad yw'r awdurdod lleol dan sylw yn cyflawni'r polisi fel y mae wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru. O ran eich swydd chi fel Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n darparu, neu a ydych chi wedi darparu, unrhyw gyngor i Weinidogion, neu i eraill, ynghylch sut y gallan nhw sicrhau bod y polisi fel y mae wedi'i bennu gan y lle hwn, fel y mae wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni'n deg ac yn gyson ledled y wlad gyfan?
Rwy'n petruso cyn mynnu'r confensiwn, yr wyf yn ymwybodol bod yr Aelod yn deall ei fod yn berthnasol, ynghylch natur y cyngor a roddir o ran y materion hyn. Wrth gwrs, mae cwestiwn ein cymhwysedd ni yn un yr wyf yn ymwybodol iawn ohono, ac, er mai rhan o fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw sicrhau ein bod bob amser yn gweithredu o fewn ein gallu, rwyf yn cymryd hefyd y dylem ni weithredu hyd eithaf ein cymhwysedd, a gallaf ei sicrhau ef bod yr ystyriaethau hynny'n flaenllaw iawn yn fy meddwl wrth ymateb i'r setiau hyn o faterion.