Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 15 Hydref 2019.
Diolch. Wel, rwyf i, ar ran fy etholwyr yn Aberconwy, yn falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn gwneud yr ymrwymiad hwnnw gan ei fod yn fater pwysig yn fy mlwch negeseuon ar hyn o bryd.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru 'Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru' yn cael dylanwad mawr, yn amlwg, ar benderfyniadau ar derfynau cyflymder wrth ystyried darparu terfyn cyflymder neu addasiadau mewn ardal wledig. Mae awdurdodau'r priffyrdd i fod i ystyried 12 ffactor penodol. Rwyf i fy hun wedi cyhoeddi adroddiad sy'n tynnu sylw at y ffaith bod bron pob ystyriaeth, mae'n ymddangos, yn canolbwyntio'n bennaf ar y niferoedd a'r mathau o wrthdrawiadau pan fyddant yn digwydd. Oherwydd diffyg yn y nifer o wrthdrawiadau sy'n cael eu hadrodd, mae ffyrdd gwledig troellog rhif y gwlith yn gaeth i derfynau cyflymder peryglus. Mae'r Prif Weinidog, mewn gohebiaeth ataf i, wedi dweud y bydd rhywfaint o fy ngwaith yn cael ei ystyried yn rhan o adolygiad o'r canllawiau, ond rwy'n bryderus mai dim ond drwy gyfreithloni'r ffactorau i'w hystyried ynghylch pennu terfynau cyflymder lleol yng Nghymru y bydd modd cyflawni cynnydd. A fyddech chi'n barod i gysylltu â'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, ac yn wir â'r Prif Weinidog, i asesu goblygiadau posibl cyfreithloni'r canllawiau?