Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 15 Hydref 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Rwyf i bob amser yn hapus i gydweithredu â fy nghyd-Weinidogion yn y Llywodraeth ynghylch y materion hyn ac, yn wir, â phob mater perthnasol arall.
Mae'r tasglu bellach wedi cyfarfod, rwy'n credu, ar ddau achlysur i ymchwilio i'r dystiolaeth y gwn i y bydd hi'n dymuno i ni, fel Llywodraeth, ei hystyried, ac rydym ni wedi dechrau nodi'r amryw o faterion y mae hi'n cyfeirio atyn nhw yn ei chwestiynau. Bydd argymhellion y grŵp hwnnw, a fydd yn cwmpasu'r maes hwn, yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog ac i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth cyn toriad yr haf y flwyddyn nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yr ystyriaethau hynny flaenaf yn eu meddyliau.