Maint yr Ystâd Carchardai yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Gwelais i'r cynigion a gafodd eu gwneud yn Araith y Frenhines ddoe hefyd. Mae arnaf i ofn fy mod yn dehongli’r digwyddiad cyfan ddoe fel tipyn o stỳnt wleidyddol yng nghyd-destun ehangach y sefyllfa y mae'r Llywodraeth ynddi. Ond ar y prif bwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am yr ystad carchardai yng Nghymru, a'r posibilrwydd, fel y cyfeiria hi ato, o ddatblygiad Baglan yn benodol, bydd hi'n cofio, yn dilyn y problemau gyda'r datblygiad arfaethedig hwnnw, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill y llynedd, yn nodi na fyddem ni'n hwyluso unrhyw ddatblygiad pellach i garchardai yng Nghymru heb drafodaeth ystyrlon â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag ystad y dyfodol, ac y dylai unrhyw ddatblygiad carchar newydd yng Nghymru roi sylw dyledus i anghenion Cymru ac y dylid ei wneud mewn cydweithrediad llawn â Llywodraeth Cymru.

Rwyf i'n deall y gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn ystyried safleoedd ar gyfer carchar newydd i ddynion yn ne Cymru. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi cael unrhyw fanylion pellach eto o ran hynny, ond rydym ni wedi bod yn pwyso am ddarparu'r manylion hynny, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Ond rwyf i yn sicrhau'r Aelod bod y Llywodraeth yn parhau i fod â'r egwyddorion a nodwyd yn y datganiad ar 6 Ebrill.