Maint yr Ystâd Carchardai yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:34, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod argyfwng gwirioneddol o ran yr ystad ddiogeledd yng Nghymru. Mae sylw bob amser ar garchardai mawr i ddynion, ond nid oes sylw o gwbl ar natur yr ystad, a'r ffordd y caiff menywod a throseddwyr ifanc yn arbennig eu trin o fewn y system. Nawr, mae hwn yn faes lle mae gennym ni setliad sydd wedi'i chwalu'n llwyr, lle mae'r setliad datganoli yn atal Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru rhag cyflawni unrhyw bolisi cydlynol neu gyfannol. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gallu, yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datganoli er mwyn galluogi'r lle hwn i gynllunio system yn fwy effeithiol, ond, yn bwysicach, ac yn fwy taer, o bosibl, i sicrhau bod gennym ni'r cyfleusterau yn y wlad hon i alluogi menywod a throseddwyr ifanc i gael eu cynnal yn briodol mewn llety diogel, lle mae hynny'n angenrheidiol, ond hefyd i gael y gwasanaethau y mae eu hangen arnyn nhw er mwyn hybu adsefydlu o fewn hynny. Nid oes yr un o'r rheini'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru. A yw'n bosibl, Cwnsler Cyffredinol, ichi ddefnyddio'ch swydd er mwyn hyrwyddo'r achos hwn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno polisi cyfannol yn y maes hwn?