3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:57, 15 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Os gallaf ategu'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ganol Caerdydd, rwyf innau hefyd wedi dod ar draws hyn ym Mro Morgannwg, lle nad yw meddygfeydd wedi tynnu'r gwasanaeth yn ôl, ond yn hytrach pan fo'u hoffer wedi mynd yn hen ffasiwn ac yn dirywio, nid ydynt wedi adnewyddu'r offer hwnnw ac felly maent yn dweud na allant gyflawni'r weithdrefn yn y feddygfa. A'r pwynt a wnaeth y Trefnydd i'r Cynulliad gynnau yn ei hymateb, y gallwch chi gael eich taflu i mewn i system y byrddau iechyd lleol sy'n gwneud trefniadau a chyfeirio at yr ysbyty, onid dyma'r union beth yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano, sef datblygu atebion mwy cymunedol fel nad yw pobl yn mynd i'r sector acíwt i ymdrin â'r problemau sylfaenol hyn. Mae'n rhaid gwneud hynny, a byddwn yn gobeithio y bydd y cyfathrebu hwnnw rhyngoch chi a'r Ysgrifennydd Iechyd yn atgyfnerthu'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgwyl.

Rwyf am ofyn dau beth os caf heddiw, Trefnydd: un yw Tomlinsons Dairies Ltd, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Rwy'n siarad yn fy swyddogaeth fel y llefarydd ar faterion gwledig ar ran y grŵp Ceidwadol ar y mater penodol hwn. Er bod hyn yn peri gofid mawr i'r gweithwyr, i'r ffermwyr-gyflenwyr ac i bawb sy'n ymwneud â'r cyflogwr mawr hwn yn yr ardal a'r cyfleuster cynhyrchu sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae braidd yn siomedig nad oes datganiad wedi'i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gymorth sy'n cael ei roi i'r cyfleuster, ac yn bwysig hefyd, beth oedd Llywodraeth Cymru yn gwybod am y sefyllfa fregus y llaethdy hwn.

Os credwn yr adroddiadau yn y wasg, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â chynllun newid yn y cyfleuster hwn ers 18 mis. Ac eto i gyd, dros nos, yn amlwg cafodd cyflenwadau eu tynnu'n ôl neu cafodd cyflenwyr gyfarwyddyd i beidio ag anfon eu cyflenwad i mewn ac roedd gweithwyr yn cael eu gadael mewn sefyllfa fregus gydag ychydig neu ddim gwybodaeth, yn ogystal â symiau sylweddol o arian yn amlwg. Rwy'n credu bod dros £5 miliwn wedi cael ei roi i mewn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ehangu'r cyfleuster. Felly, mae'n bwysig iawn, mewn sawl cyfeiriad, bod datganiad yn dod i law. Yn uniongyrchol, dylai'r datganiad hwnnw ymdrin â pha gymorth sydd ar gael i'r gweithwyr yn y cyfleuster a'r rhai sy'n cyflenwi'r ffermwyr, ond yn ail, dylid cael eglurhad o ran faint o ymwneud a fu rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyfleuster allweddol hwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a oedd yn gyflenwr allweddol o laeth Cymru. Ac yn ôl a ddeallaf, yn y tymor byr, bydd y llaeth hwnnw nawr yn cael ei frandio'n llaeth Prydeinig, oherwydd, yn amlwg, nid oes cyfleusterau i gynhyrchu llaeth o Gymru yn yr ardal ar hyn o bryd, fel y nododd Arla yn yr e-bost at yr Aelodau heddiw.

Yn ail, byddwn yn gobeithio y bydd y Trefnydd yn sicrhau bod amser ar gael yn amser y Llywodraeth fel y gallwn gael dadl—dadl ar yr angen am etholiad cyffredinol, Trefnydd. Dywedodd y Prif Weinidog fod angen etholiad cyffredinol mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf heddiw. Rydych yn aml iawn yn trefnu dadleuon fel y gall y Cynulliad hwn siarad ag un llais. Byddwn yn gobeithio bod yr Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno siarad ag un llais a dweud ei bod yn fater o frys inni gael etholiad cyffredinol ac y byddwch yn ymrwymo i gyflwyno dadl gan y Llywodraeth fel y gallwn gymeradwyo creu amgylchedd i gynnal etholiad fel y gall y Ceidwadwyr gefnogi'r hyn yr ydym am ei wneud dros y wlad, gyda maniffesto a gefnogir gan bobl ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.